Arolygydd Balraj Sohal

Mae dod adref bob dydd yn gwybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun yn werth chweil ac yn ysbrydoledig.

Yr Arolygydd Balraj Sohal yn gwenu ar y camera.

Ymunodd Balraj Sohal, Arolygydd gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ac aelod o Gymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Sicaidd â’r heddlu yn 2006. Mae'n siarad â ni am pam yr ymunodd, sut mae ei dreftadaeth Asiaidd wedi ei helpu yn ei yrfa a pham y dylai mwy o bobl o gefndiroedd gwahanol wneud cais.

Pryd wnaethoch chi benderfynu ymuno â'r heddlu?

Yn wreiddiol roeddwn i am fynd i faes fforensig (felly dal i fod â diddordeb yn y gyfraith a gorfodi) ac wrth dderbyn mewnbwn gan yr heddlu a chael y cyfle i wneud gwaith maes gyda nhw yn ystod fy ngradd, sylweddolais fy mod am fod yn swyddog heddlu.

Beth wnaeth i chi fod am fod yn swyddog heddlu?

Felly fydda i ddym yn dweud ei fod oherwydd roeddwn i’n arfer mwynhau gwylio ‘The Bill’ yn blentyn (ond mae’n un o fy ffefrynnau). A dweud y gwir, Sîc ydw i ac un o'n gwerthoedd craidd yw helpu'r rhai mewn angen. Mewn gwirionedd, mae llawer o werthoedd Sicaeth yn debyg i rai plismona. Dw i wedi bod yn chwilfrydig wrth dyfu i fyny ac wedi credu erioed mewn helpu eraill. Wrth i mi ddysgu am blismona, sylweddolais mai dyna roeddwn i am ei wneud am weddill fy oes. Ydy, mae hynny'n iawn - nid swydd i mi yn unig yw hon, mae'n yrfa.

Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am eich swydd?

Mae pob diwrnod yn amrywiol. Rwy'n cael gweithio gyda phobl wych a dylanwadol. Mae fy swydd wedi fy ngalluogi i gwrdd â llawer o bobl o wahanol gefndiroedd ac mae wedi llywio fy nealltwriaeth a'm gwerthfawrogiad o ddiwylliannau eraill. Mae hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi addysgu fy nghydweithwyr am fy niwylliant a’m credau fy hun.

Mae'r rhan fwyaf o fy ngyrfa wedi bod yn rheng flaen ac yn weithredol, ac fe wnes i wir fwynhau'r ddull octan uchel ac adrenalin o blismona. Does dim dau ddiwrnod yr un fath ac mewn un sifft byddwn i'n delio ag amrywiaeth o ddigwyddiadau, yn amrywio o dawelu dadleuon i roi CPR! Dw i bellach yn gweithio fel rhan o dîm sy'n canolbwyntio ar leihau troseddau cyllyll a thrais difrifol ymhlith pobl dan 25 oed. Mae hyn yn bwysig iawn i mi gan y bydd y gwaith y mae’r heddlu a phartneriaid yn ceisio ei wneud yn llunio dyfodol ein plant. Fel tad i dri phlentyn ifanc, dw i'n gwneud fy rhan i wneud y gymuned yn ddiogel.

Unrhyw uchafbwyntiau gyrfa gallwch chi feddwl amdanynt ble roeddech chi’n teimlo eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun?

Bob tro y byddwch yn cael canlyniad da, boed hynny yn y llys neu wybod eich bod wedi helpu rhywun mewn rhyw ffordd yn uchafbwynt. Mae dod adref bob dydd yn gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun yn werth chweil ac yn ysbrydoledig. Rwy’n cofio adeg pan godwyd pryderon gan dad yn Ewrop am ei ferch, a doedd e ddim yn gwybod ble roedd hi. Trwy waith heddlu cydgysylltiedig, nododd fy nhîm ble roedd hi ac roeddem yn gallu ei symud o'r safle a oedd yn cael ei ddefnyddio i gamfanteisio arni. Mae’r teimlad o ryddhad a diolchgarwch ar ei hwyneb yn rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio. Cafodd hi ei diogelu a hedfanodd yn ôl i'w gwlad. Yn ddiweddarach gwelais hi eto yn ystod y treial yn y llys ac roedd yn amlwg sut oedd hi'n gwerthfawrogi'r heddlu. Esboniodd hi sut roedd hi wedi symud ymlaen yn ei bywyd ac yn adeiladu gyrfa iddi hi ei hun. Cafodd y troseddwyr eu carcharu am nifer o flynyddoedd

Sut brofiad yw bod yn ddyn Asiaidd yn yr heddlu?

Mae gen i gyfle unigryw i gysylltu â chymunedau gan ddefnyddio fy sgiliau cyfathrebu amrywiol. Dw i wedi gallu addysgu ac esbonio pethau i fy nghydweithwyr ar sut beth yw diwylliant Asiaidd a hefyd eu dangos yn uniongyrchol. Mae fy nghefndir, ethnigrwydd a diwylliant yn fy helpu i gyfathrebu â'r gymuned dw i'n ei gwasanaethu. Mae’r ardal dw i’n gweithio ynddi yn un o’r ardaloedd mwyaf amrywiol o fewn ardal Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a bu’n rhaid i mi fynd i ddigwyddiadau yn ymwneud ag aelodau o gefndiroedd ethnig tebyg i fy un i ar sawl achlysur a’r wybodaeth ac mae’r ddealltwriaeth sydd gennyf, a hefyd mae fy ngallu i sgwrsio mewn gwahanol ieithoedd De Asiaidd yn helpu llawer.

Mae bod yn ddyn Asiaidd yn y llu yn rhoi ymdeimlad o falchder a chyflawniad i mi. Mae plismona ym Mhrydain yn cael ei barchu ar draws y byd ac mae bod yn rhan o hynny yn anhygoel.

Beth yw barn eich ffrindiau a'ch teulu am eich dewis gyrfa?

Mae fy nheulu'n hynod falch o'm llwybr gyrfa ac mae fy mhlant yn gyffrous am y ffaith bod eu tad yn swyddog heddlu. Mae pob un o’m tri phlentyn yn fy ngweld fel model rôl cadarnhaol ac mae hynny’n fy ngwneud yn falch iawn. Maen nhw’n deall ei bod hi’n swydd feichus ond sy’n rhoi boddhad mawr.

Beth fyddech chi'n ei ddweud yw'r prif rwystrau sy'n atal lleiafrifoedd ethnig rhag gwneud cais?

Mae rhai pobl yn meddwl efallai na fyddent yn 'ffitio i mewn' i sefydliadau fel y gwasanaeth heddlu, oherwydd eu ffordd o fyw, eu cefndir, neu eu profiadau yn y gorffennol yn unig. Mewn cartrefi Asiaidd, yn hanesyddol efallai nad oedd gwasanaeth yr heddlu yn broffesiwn a ystyriwyd - roedd Meddyg, Cyfreithiwr, Peiriannydd yn gyffredin fel yr opsiynau a ffefrid.

Yn ogystal â hyn, mae’r canfyddiad o hiliaeth yn yr heddlu yn rhwystr mawr sydd, yn fy marn i, yn digalonni llawer o bobl. Fodd bynnag, mae digon o gymorth ar gael ar gyfer y materion hyn. Os ydych chi'n benderfynol o ymuno â'r heddlu, peidiwch â gadael i'r canfyddiadau hyn rwystro eich angerdd i wasanaethu'r gymuned a gwireddu'ch breuddwydion!

Sut yr ymdrinnir â gwahaniaethu yn yr heddlu?

Ymdrinnir yn gadarn â gwahaniaethu yng ngwasanaeth yr heddlu. Rydym yn annog ac yn cefnogi ein cydweithwyr yn frwd i godi llais a datgelu sut maent yn teimlo a hefyd pan ydynt yn teimlo y gwahaniaethir yn eu herbyn. Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn gadarn y tu ôl i'r agenda Amrywiaeth a Chynhwysiant ac mae llawer o waith caled yn digwydd yn y cefndir i helpu'r gwasanaeth heddlu i wella'n barhaus yn y maes hwn. Mae digon o gymorth ar gael hefyd ar ffurf ffederasiwn yr heddlu a chymdeithasau staff.

Pam ydych chi'n teimlo bod amrywiaeth yn yr heddlu mor bwysig?

Rhaid i ni fod yn gynrychioliadol o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae amrywiaeth yn yr heddlu nid yn unig yn caniatáu i'r gwasanaeth wneud penderfyniadau mwy gwybodus ond mae hefyd yn caniatáu i ni i gyd groesawu a gwerthfawrogi gwahaniaethau. Mae cael gweithlu effeithiol, technoleg wych, gwaith partneriaeth da a ffyrdd arloesol o wneud busnes wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Pa gyfleoedd sydd yn ar gyfer dilyniant gyrfa yn yr heddlu, yn eich barn chi?

Yn bendant, mae llawer o gyfleoedd i symud ymlaen o fewn gwasanaeth yr heddlu. Boed hynny'n ddilyniant ochrol neu'n fertigol. Mae cymorth ar gael i lawer o adrannau, er enghraifft mae gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr academi dditectifs sy’n cefnogi darpar dditectifs i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddod yn dditectif. Mae adrannau arbenigol eraill y gallwch chi wneud cais amdanynt ac mae cymorth ar gael i helpu gyda’r prosesau dethol hyn hefyd.

Os ydych chi am gael dyrchafiad, yna fe allai’r cynllun Llwybr Cyflym Cwnstabl i Arolygydd sy’n cael ei redeg gan y Coleg Plismona eich helpu chi. Gall cwnstabliaid heddlu sydd â photensial arweinyddiaeth gref gael eu rhoi ar lwybr carlam yn llwyddiannus i fod yn arolygydd ymhen dwy flynedd. Mae'r ffenestr ymgeisio ar gyfer y rhaglen Llwybr Cyflym ar gyfer cwnstabliaid sy'n gwasanaethu yn agor ym mis Hydref 2021.

Beth fyddech chi'n ei ddweud i annog pobl eraill o gymunedau Asiaidd i ymuno â'r heddlu?

Mae recriwtio cwnstabliaid newydd yn dod â chyfle i gyflogi swyddogion ffres, newydd ac amrywiol i wasanaeth yr heddlu. Mae angen i'r gwasanaeth adlewyrchu'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu a nawr yw'r amser iawn i ddod â phobl newydd i mewn. Fel cwnstabl heddlu, byddwch yn cael dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd ac ni fyddwch byth yn gwybod beth i'w ddisgwyl - efallai y byddwch yn helpu person agored i niwed, neu'n mynychu lleoliad digwyddiad. Yn ogystal â lleihau troseddu, byddwch yn helpu i leihau ofn troseddu, gan ysbrydolihyder, rhoi sicrwydd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Nid yw plismona cymuned amrywiol yn ymwneud â gallu defnyddio’r offer a’r eitemau atal ar eich gwregys yn unig. Mae'n ymwneud â deall a pharchu'r bobl yn eich ardal chi.

Mae'n sefydliad proffesiynol gyda swyddogion gwych a gwybodaeth wych. Ar yr un pryd, rydym yn estyn allan at aelodau o’r lleiafrifoedd ethnig i wneud cais gan ein bod yn dal i gael ein tangynrychioli.

Os oes gennych chi ddiddordeb neu wedi meddwl amdano hyd yn oed am funud, cysylltwch â’ch llu lleol i weld a ydyn nhw’n recriwtio. Byddant hefyd yn gallu ateb eich cwestiynau. Os ydych chi'n adnabod pobl yng ngwasanaeth yr heddlu, estynwch atyn nhw, siaradwch â nhw a gofynnwch iddyn nhw'r cwestiynau rydych chi wir am eu hateb.

Ac os ydych chi'n barod i wneud cais, hoffwn i ddymuno'r gorau i chi.