Ditectif Arolygydd Tracy Betts

Roeddwn i eisiau i fy mhlant fod yn falch ohonof fel mam a menyw ym maes plismona.

DI Tracy Betts yn gwenu ar y camera o flaen car heddlu.

Gwrandewch ar Tracy yn trafod sut mae plismona wedi newid yn ystod ei gyrfa 26 mlynedd a’i phersbectif ar fod yn swyddog heddlu ar y sbectrwm Awtistiaeth.

Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn swyddog heddlu?

Roeddwn i’n arfer gweithio i Gymorth i Fenywod ac mewn gofal cymdeithasol felly roedd hon yn swydd roeddwn i’n teimlo oedd yn ddilyniant naturiol. Roeddwn i hefyd eisiau i fy nau blentyn fod yn falch ohonof fel mam a menyw ym maes plismona. Fy arwr oedd Helen Mirren yn ‘Prime Suspect’ ar y pryd, felly roeddwn i am fod yn DCI ‘Jane Tennyson’ go iawn!

Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am eich swydd?

Cyfarfod â phobl, datblygu pobl eraill, siarad (fel y bydd unrhyw un sy'n fy adnabod yn dweud wrthych!) a gwneud gwahaniaeth.

Beth sy'n heriol i chi?

Nid yw’n swydd hawdd, er fy mod i'n credu bod gan y rhan fwyaf o swyddi eu heriau. Mae’n bwysig cael ein herio a dod allan o’n parthau cysur neu fydden ni byth yn tyfu. Boed hynny mewn sgil, cred neu hyder.

Unrhyw uchafbwyntiau gyrfa gallwch chi feddwl amdanynt ble roeddech chi’n teimlo eich bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun?

Rwyf wedi bod yn freintiedig o fod wedi gallu achub bywydau yn fy ngyrfa, er enghraifft, rhoi cymorth cyntaf i berson anafedig ar ôl damwain neu drwy argyhoeddi rhywun i beidio â chyflawni hunanladdiad. Y peth mwyaf cofiadwy a boddhaus yw gweithio gyda dioddefwyr cam-drin plant, o fabanod i oroeswyr sy'n oedolion. Dywedodd un dyn, a oedd wedi cael ei gam-drin yn blentyn ac a ddaeth ymlaen at yr heddlu dim ond pan oedd yn ei 30au, pan anfonwyd y diffynnydd i’r carchar o’r diwedd, fy mod wedi ‘rhoi ei fywyd yn ôl iddo’. Roedd hynny'n fy ngwneud i'n falch iawn.

Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich rhywedd wedi eich dal yn ôl yn eich gyrfa gyda'r heddlu?

Roedd hynny'n wir pan ymunais yn ôl am y tro cyntaf yn 1995 ond nid mwyach. Nawr, does dim ots pwy ydych chi nac o ble rydych chi wedi dod - mae bod yn swyddog heddlu gwych yn ymwneud â bod yn barod i wrando, rhoi ein hunain yn sefyllfa rhywun arall a gweld bywyd o'u safbwynt nhw, a thrin pobl â pharch ac urddas.

Beth fyddech chi'n dweud yw'r prif rwystrau sy'n atal menywod rhag gwneud cais i ymuno â'r heddlu?

Byddwn i'n dweud canfyddiadau am ofal plant a gweithio rhan amser. Roeddwn i wedi cael fy nau blentyn cyn i mi ymuno â'r heddlu a dw i bob amser wedi bod yn llawn amser, fodd bynnag, rwy'n adnabod rhai uwch swyddogion a staff benywaidd llwyddiannus iawn sydd ar oriau hyblyg gyda phlant ifanc ac yn gwneud gwaith hollol wych. Ni ddylai cael teulu neu ofalu am deulu neu ddewis peidio â chael teulu fyth eich rhwystro rhag ymuno â’r heddlu os mai dyna’r yrfa rydych chi ei heisiau.

Rydych chi'n uniaethu â bod ar y Sbectrwm Awtistiaeth – pa effaith mae hynny wedi'i chael ar eich swydd?

Mae delio â straen a deall sut y gallai hynny effeithio arna i'n bwysig. Deall yr arwyddion nad wyf wedi bod yn gofalu amdanaf fy hun a dweud na pan fydd hyn yn digwydd ac addasu fy nghyfathrebu i sicrhau bod pobl yn fy neall ond hefyd yn cynghori eraill ar yr hyn y gallant ei wneud i fy helpu hefyd.

Pa fanteision ydych chi'n credu y mae bod ar y Sbectrwm Awtistiaeth yn eu cyflwyno i'ch rôl?

Rwy’n gweld patrymau mewn pethau ac, yn groes i rai syniadau am Awtistiaeth, rwy’n eithaf craff. Rwy'n sylwi pan yw rhywun yn ofidus neu'n bod yn dwyllodrus, hyd yn oed pan nad ydyn nhw'n ei ddangos yn allanol. Dw i wedi bod yn Dditectif am y rhan fwyaf o fy ngyrfa ac mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn gan fy mod i'n sylwi ar fanylion, sylwi ar anghysondebau ar bethau. A dw i'n eithaf trefnus.

Dw i hefyd yn ceisio bod yn fodel rôl a helpu fy llu i ddeall sut i helpu a chefnogi aelodau o'r cyhoedd sydd â chyflwr niwroamrywiol, fel Awtistiaeth, pan ydynt yn dod ar draws yr heddlu. Dw i hefyd wrth fy modd yn arddangos ac yn annog staff niwroamrywiol dawnus i wneud y gorau o'u gyrfaoedd trwy eu helpu i weld ble mae eu cryfderau a sut y gall gwasanaeth yr heddlu fanteisio ar eu sgiliau unigryw.

Sut mae eich llu wedi'ch cefnogi yn eich gyrfa?

Mae Deall Niwroamrywiaeth yn dal yn gymharol newydd yng ngwasanaeth yr heddlu ond mae fy llu wedi gwrando ac wedi gwneud newidiadau i'w polisïau a'u gweithdrefnau i geisio sicrhau tegwch mewn prosesau mewnol ac i ddarparu gwell gwasanaeth i'r cyhoedd. Maen nhw wedi rhoi llwyfan i mi ac eraill i siarad am sut olwg allai fod ar y byd i berson Awtistig Mae hyn yn ein helpu i deimlo y gallwn ni ddod â’n ‘hunain cyfan’ i’r gwaith sydd yn ei dro yn fy helpu i deimlo’n hapusach ac yn fwy bodlon yn fy swydd ac yn helpu’r swyddogion rheng flaen hynny i ddeall Awtistiaeth.

Sut ydych chi'n teimlo bod plismona wedi newid ers i chi ymuno?

Rwy'n credu ei fod yn llawer mwy deallus yn emosiynol. Nid yw bellach yn cael ei yrru gan ffigurau a delwedd ond gan ddilysrwydd a hyder. Mae sefydliadau plismona yn llawer mwy agored i fod yn berchen ar eu camgymeriadau a chymryd cyfrifoldeb am yr hyn a ddysgir o hynny.

Mae plismona wedi datblygu a nawr mae wir yn ceisio deall pwysigrwydd sut mae sefyllfa neu ryngweithio gyda’r heddlu'n teimlo mewn gwirionedd i berson. P’un a ydyn nhw newydd gael eu stopioa’u chwilio neu a ydyn nhw wedi cael eu cadw oherwydd eu bod yn cael ‘chwalfa’ awtistig, mae sefydliadau’r Heddlu am wrando, gwella a cheisio bod yn deg â phawb. Efallai na fyddwn yn ei gael yn iawn drwy’r amser, ac efallai y bydd yn cymryd amser, ond rwy’n ymddiried ac yn credu y bydd pethau’n parhau i newid er gwell.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl sy'n ystyried gyrfa ym maes plismona?

Ewch amdani! Dw i wedi cael 26 mlynedd yn gwneud hyn ac mae’r rhesymau yr ymunais â nhw yn dal yn bwysig i mi heddiw. Mae gwneud swydd sy'n gyffrous, yn heriol ac ychydig yn frawychus ar adegau yn anhygoel. Weithiau nid yw'n teimlo felly pan mae llawer i'w wneud ond mae'n bendant yn wir. Pan fyddwch chi'n cofio'r un dasg honno, siarad â'r person hwnnw sy'n dweud wrthych chi'r effaith gadarnhaol rydych chi wedi'i chael, yna mae'r cyfan yn werth chweil.

“Ymhen 100 mlynedd o nawr, ni fydd ots faint o arian oedd gennych chi, pa dŷ oeddech chi’n berchen arno neu ba gar roeddech chi’n ei yrru, ond beth fydd yn dal yn bwysig yw eich bod wedi gwneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn.”