Cwnstabl Heddlu Bharat Narbad

Yr hyn dw i'’n ei fwynhau yw ceisio cael pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig i mewn i’r heddlu a gweld ein gweithlu’n newid.

PC Bharat Narbad addressing an event.

Mae Cwnstabl Heddlu Bharat Narbad, a dderbyniodd Fedal Heddlu’r Frenhines am Wasanaeth Nodedig yn 2019, wedi bod yn rhan o Heddlu De Cymru ers dros 20 mlynedd. Mae hefyd wedi bod yn gadeirydd Cymdeithas Heddlu Du De Cymru ers 10 mlynedd. Yma mae’n dweud wrthym pam yr ymunodd â’r heddlu, sut mae ei ffydd Hindŵaidd wedi ei helpu i blismona a pham y byddai’n annog pobl eraill o gefndiroedd gwahanol i wneud cais.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn swyddog heddlu?

Gweithiais am 10 mlynedd ym maes bancio a doedd hynny ddim yn gyffrous i mi. Roedd hi’n 9 tan 5, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac roeddwn i’n gwybod beth fyddai’n dod gyda phob diwrnod. Roeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol ac yng nghanol y 90au roedd llawer o bethau'n digwydd yn y cyfryngau ynghylch amrywiaeth mewn plismona. Roeddwn i’n meddwl ‘dydy hynny ddim yn iawn, gadewch i ni edrych o’r tu mewn am yr hyn y galla i ei wneud’.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich rôl?

Rydych chi'n cael cwrdd â llawer o wahanol bobl na fyddech chi'n cwrdd â nhw mewn unrhyw swydd arall. Mae amrywiaeth y swydd hefyd yn wych. Mae pob sifft yn wahanol. Dydych chi ddim yn gwybod a fyddwch chi'n delio â siop-ladron, byrgleriaeth neu ai chi fydd y person cyntaf mewn lleoliad llofruddiaeth.

Yr hyn rwy’n ei fwynhau yw ceisio cael pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig i mewn i’r heddlu a gweld ein gweithlu’n newid. Dechreuais y rôl hontua phedair blynedd yn ôl, pan oeddem yn isel o ran nifer y swyddogion heddlu a oedd yn edrych fel fi. Fodd bynnag, o fewn ychydig o flynyddoedd - gyda'r holl waith rydym wedi'i wneud­- mae golwg yr heddlu yn Ne Cymru yn newid. Mae’n braf gwybod fy mod i’n gwneud gwahaniaeth.

Unrhyw uchafbwyntiau gyrfa lle rydych chi'n teimlo eich bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun?

Rwyf wedi bod yn plismona nawr ers 23 mlynedd ac mae llawer o uchafbwyntiau wedi bod. Byddwn i'n dweud helpu dioddefwyr cam-drin domestig – mae hynny bob amser yn galonogol ac yn werth chweil. Os gwelwch rywun rydych chi'n gwybod ei fod yn euog yn cael ei euogfarnu, mae hynny bob amser yn ganlyniad. Dw i hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Heddlu Du De Cymru, sy’n gwneud llawer o waith yn y gymuned. Ac, wrth gwrs, roeddwn i’n falch pan ges i Fedal Heddlu’r Frenhines. Roedd yn braf gweld y gymuned yn gwerthfawrogi’r pethau roeddwn i wedi’u gwneud.

Sut mae eich ffydd yn eich helpu chi wrth blismona?

Mae Hindŵaeth yn ymwneud â heddwch, gofalu am eich cyd-berson a gwneud da. Allwch chi ddim cael swydd well na bod yn yr heddlu ar gyfer hynny. Bob blwyddyn yng Nghaerdydd mae ‘na gwpwl o wyliau Diwali a dw i wedi gallu cael rhai o’n prif swyddogion i’w ddathlu gyda mi, sy’n helpu’r heddlu i adnabod pobl o’r gymuned Hindŵaidd.

Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich ffydd yn eich dal yn ôl mewn unrhyw ffordd?

Nac ydw, dim o gwbl. Mae gwasanaeth yr heddlu wedi newid, ac rydym yn agored i anghenion crefyddol pobl. Rydych chi'n cael amser i weddïo ac mae gan yr holl orsafoedd mawr ystafelloedd tawel y gellir eu defnyddio fel ystafelloedd gweddïo. Rwy'n gwybod bod rhai o fy ffrindiau Sicaidd a chydweithwyr Mwslimaidd yn holi am yr iwnifform. Mae pobl yn gofyn ‘alla i wisgo fy nhwrban?’ ac rwy’n dangos iddynt yr iwnifformau sydd gennym ar gyfer pobl o wahanol gredau.

Beth oedd barn eich teulu a'ch ffrindiau amdanoch chi'n ymuno â'r heddlu?

Roedd mam yn falch iawn pan ymunais i. Roedd fy mrodyr ychydig yn fwy pryderus am yr agweddau hiliol ar yr hyn a fyddai’ndigwydd pe byddwn i’n ymuno, ond fy ateb oedd ‘dydych chi ddim yn mynd i wneud gwahaniaeth trwy wneud dim byd’. Ymunais a llwyddais i dawelu llawer o'u hofnau.

Ydyn nhw wedi newid eu barn nawr?

Ydyn. Mae gen i linell uniongyrchol at y prif swyddogion lle bydda i'n trafod unrhyw faterion sy’n codi. Gadewch i ni ei wynebu, mae hiliaeth yn dangos ei wyneb ym mhob sefydliad, ond yn yr heddlu mae gennym ni’r rhwydweithiau cymorth yn eu lle i helpu.

Sut ydych chi'n gweld eich gyrfa ym maes plismona yn dod yn ei blaen?

Amrywiaeth fu fy angerdd erioed ac mae fy rôl ar hyn o bryd yn cyd-fynd yn berffaith â hynny, felly rwy’n hoffi meddwl y bydda i'n parhau i recriwtio pobl i gynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu’n well. Yn fy rôl i, rydym yn cynnal sesiynau uwchsgilio lle rwy’n gweithredu fel mentor a hyrwyddwr datblygu, gan helpu pobl i ymarfer profion barn sefyllfaol a datblygu eu sgiliau cyfweld. Does dim byd yn well na’u gwylio’n symud ymlaen o’r adeg pan ddangoson nhw ddiddordeb mewn ymuno â’r heddlu am y tro cyntaf i’r wobr eithaf – eu gweld mewn iwnifform yn eu parêd pasio allan.

Mae pethau wedi bod ychydig yn wahanol eleni, sut fyddwch chi'n dathlu Diwali?

Mae popeth yn mynd ar-lein fel y byddech chi'n ei ddisgwyl. Eleni, mae un o'r gwyliau Diwali yng Nghaerdydd yn rhedeg ychydig ddyddiau gyda rhai siaradwyr gwadd ac adrodd straeon. Gwyl y goleuni yw Diwali. Mae’n ymwneud â buddugoliaeth goleuni dros dywyllwch a dw i’n meddwl am blismona fel hynny hefyd – rydyn ni yno i ddod â golau i bobl yn ystod eu hamseroedd tywyllaf.

Beth fyddai eich cyngor i rywun sy'n ystyried ymuno?

Ewch amdani! Does dim swydd arall lle mae cymaint o amrywiaeth – fel swyddog heddlu, mae pob diwrnod yn wahanol. Nid yn unig hynny, ond unwaith y byddwch chi wedi gwneud eich dwy flynedd gallwch chi wneud cais am rolau gwahanol, fel ymchwilydd yn yr Adran Ymchwiliadau Troseddol. Os ydych chi'n hoffi gyrru ceir, yna gallwch chi ymuno â'r tîm traffig. Os ydych chi'n mwynhau hyfforddi, gallwch chi fod yn hyfforddwr. Mae gennych chi’r adran cŵn, yr adran ceffylau, yr adran seiberdroseddu – pa swydd arall sy’n rhoi cymaint o amrywiaeth i chi?

Wedi'ch ysbrydoli i wneud cais?

Mae llawer o heddluoedd yn cynnig mentrau gweithredu cadarnhaol, megis mentora a sesiynau ymgysylltu ar-lein i roi cymorth penodol i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i wneud cais. Cysylltwch â’r llu o’ch dewis i gael gwybod pa fentrau gweithredu cadarnhaol maen nhw’n eu cynnal neu edrychwch ar y sefydliadau cymorth rydyn ni’n gweithio gyda nhw i helpu i recriwtio swyddogion o ystod eang o gefndiroedd.