Ditectif Ringyll Eva Barwis

Mae gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn cadw fy ysgogiad a'm cymhelliant yn uchel.

Ditectif Ringyll Eva Barwis

Mae Eva Barwis, Ditectif Ringyll gyda Heddlu Sussex, yn siarad â ni am ei hangerdd dros blismona a pham ei bod yn annog pobl eraill o’r gymuned ddu i ystyried gyrfa o fewn yr heddlu.

Pryd wnaethoch chi benderfynu ymuno â'r heddlu?

Cyn i mi ymuno â'r heddlu roeddwn i'n gweithio ym maes TG. Roeddwn i eisoes yn meddwl am wneud rhywbeth mwy gwerth chweil ac yna sylwais fod yr heddlu'n cynnal noson agored i bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Es i draw i'r digwyddiad a ches i fy syfrdanu. Roeddwn i'n gwybod bryd hynny mai ymuno â'r heddlu oedd yr hyn roeddwn i am ei wneud.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am fod yn yr heddlu?

I mi, mae ymuno â'r heddlu wedi newid fy mywyd yn wirioneddol. Mae wedi fy helpu i ddarganfod bod llawer mwy i mi nag a ddychmygais erioed. Rwy'n mwynhau'r amrywiaeth o fewn fy rôl, mae pob diwrnod yn wahanol. Mae hynny, a’r ffaith fy mod yn gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn cadw fy ysgogiad a’m cymhelliant yn uchel.

Sut ydych chi'n teimlo eich bod yn gwneud gwahaniaeth?

Rhan bwysicaf fy rôl yw delio â’r rhai sy’n agored i niwed. Rydyn ni’n dueddol o ddod i gysylltiad â phobl arrai o’r adegau gwaethaf yn eu bywydau ac, i mi, mae'n golygu rhoi'r cymorth hwnnw. Rwy’n angerddol iawn am fod y person y gallant ddibynnu arno yn y foment fwyaf heriol honno.

Sut brofiad yw bod yn fenyw ddu yn yr heddlu?

Yn gyntaf ac yn bennaf, rwy’n gweld fy hun yn aelod o wasanaeth yr heddlu, yn rhan o deulu sy’n rhannu’r un genhadaeth – cadw pobl a chymunedau’n ddiogel. Galla i ddweud yn onest nad wyf erioed wedi profi unrhyw negyddoldeb yn ymwneud â hil yn fy amser yn yr heddlu

Sut yr ymdrinnir â gwahaniaethu yn yr heddlu?

Mae gwasanaeth yr heddlu'n dda iawn am ymdrin ag unrhyw ymddygiad anffafriol. Does dim lle i hiliaeth na rhywiaeth. Yn syml, ni chaiff ei goddef. Yn fy mhrofiad i, mae pobl o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd yn cael eu croesawu a’u cefnogi.

Pam fod amrywiaeth yn yr heddlu mor bwysig?

Yma yn Heddlu Sussex mae gennym dîm amrywiaeth ymroddedig sy’n sicrhau bod ein heddlu yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Rwyf wedi gweld drosof fy hun, pan yw swyddogion heddlu yn deall gwahanol ddiwylliannau, hanesion a thraddodiadau, bod ganddynt well siawns o chwalu rhwystrau, meithrin ymddiriedaeth a diogelu’r gymuned leol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer dilyniant gyrfa yn yr heddlu?

Mae cymaint o le i symud ymlaen a chymaint o rolau amrywiol a diddorol. Mae gennym hefyd gyrsiau Dysgu Gweithredol Cadarnhaol (PAL) sy'n hyfforddi pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol ar gyfer swyddi arweinyddiaeth. Os oes gennych yr uchelgais a’r ewyllys, nid oes dim na allwch ei gyflawni.

Beth yw barn eich ffrindiau a'ch teulu ar eich dewis gyrfa?

Gall fy nheulu a ffrindiau weld yn glir yr angerdd sydd gennyf ar gyfer fy swydd ac maent yn ddim byd ond yn falch ac yn gefnogol o'r hyn yr wyf wedi dewis ei wneud.

Beth fyddech chi'n ei ddweud i annog pobl eraill o'r gymuned ddu i ymuno â'r heddlu?

Os ydych chi’n chwilio am yrfa gyffrous, heriol a gwerth chweil, lle gallwch chi wneud gwahaniaeth bob dydd, a’ch bod am gael heddlu sy’n adlewyrchu ein cymunedau, yna dewch i ymuno â ni. Mae'n un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud gyda'ch bywyd, fyddwch chi byth yn difaru.

Eisiau clywed gan fwy o swyddogion am yr hyn maen nhw'n ei garu am blismona? Archwilio eu straeon.