Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yr Heddlu

NPAA logo
NPAA logo

Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yr Heddlu (NPAA) yn grŵp annibynnol sy’n cefnogi swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cael eu heffeithio gan gyflyrau niwroamrywiol fel awtistiaeth (gan gynnwys syndrom Asperger), dyslecsia, dyspracsia ac ADHD.  Rydym yn croesawu holl bersonél yr heddlu sydd â diddordeb personol, teuluol neu broffesiynol yn y cyflyrau hyn ac ar hyn o bryd mae gennym dros 1,500 o aelodau ledled y DU.

Cymorth a ddarparwn

Yn ogystal â helpu heddluoedd i gefnogi darpar recriwtiaid a chyflogeion, rydym yn hyrwyddo niwroamrywiaeth o fewn plismona, gan feithrin diwylliant gwaith lle mae cryfderau pawb yn cael eu gwerthfawrogi a lle gallant gyflawni eu potensial. Rydym yn cynnig i’n haelodau:

  • Fforwm preifat ar y we i drafod materion personol, gwaith a darparu gwasanaethau'n gyfrinachol
     
  • Rhwydwaith o ‘hyrwyddwyr’ i ddarparu cymorth lleol ym mhob llu
     
  • Cyngor ‘arfer gorau’ i gydweithwyr sy’n gweithio gyda’r gymuned awtistig
NPAA coordinators meeting

Cwestiynau a allai fod gennych

Mae’n naturiol cael cwestiynau wrth gymryd unrhyw gam newydd i ddod yn swyddog heddlu. Mae'r NPAA yma i sicrhau y bydd eich cyflwr bob amser yn cael ei barchu o fewn eich rôl fel swyddog heddlu. Cymerwch olwg trwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi symud ymlaen o fewn gwasanaeth yr heddlu?

Mae llawer o gyfleoedd i chi symud ymlaen. Mae enghreifftiau'n cynnwys gwaith ditectif, trin cŵn a phlismona ymateb. Bydd dod o hyd i’r rôl gywir yn caniatáu i chi roi eich sylw uwch i fanylion, y gallu i gadw ffeithiau a chofio pwyntiau cyfreithiol, a rhoi eich gwahanol ddulliau o ddatrys problemau ar waith. Dysgu rhagor am gyfleoedd dilyniant gyrfa.

A fyddaf yn addas ar gyfer gyrfa yn yr heddlu?

Gall gyrfa yn yr heddlu roi boddhad mawr ac mae llawer o agweddau ar blismona lle na fydd cyflwr neu anabledd yn eich dal yn ôl mewn unrhyw ffordd. Yn enwedig ar gyfer rhai rolau arbenigol mewn plismona gall fod yn fantais wirioneddol. Fodd bynnag, nid yw at ddant pawb ac efallai fod rhai agweddau ar y swydd nad ydynt yn addas i chi. Dewch i siarad â ni fel y gallwn helpu i ddarganfod y rôl iawn i chi. Neu gallwch siarad yn uniongyrchol â'ch llu i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael - gallai hyn gynnwys gwirfoddoli neu rôl staff heddlu (sifilaidd).

A fydd bod yn awtistig yn effeithio ar fy nghais a pha gymorth a ddarperir?

Mae’n debygol y gofynnir i chi ddarparu adroddiad gan eich meddyg teulu fel rhan o’r broses sgrinio meddygol a bydd gofyn i chi basio asesiad. Ond gellir gwneud addasiadau rhesymol i wneud y broses mor deg â phosibl i chi. Cysylltwch â’r llu penodol yr hoffech ymuno ag ef a byddan nhw’n gallu dweud rhagor wrthych chi am y cymorth maen nhw’n ei gynnig.

Pa gymorth sydd ar gael os byddaf yn profi gwahaniaethu?

Nid yw gwasanaeth yr heddlu yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu ac mae wedi ymrwymo i gefnogi ei holl swyddogion. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod pob swyddog yn cael ei amddiffyn, ac os ydych chi neu gydweithiwr yn profi gwahaniaethu oherwydd cyflwr niwrowahanol, cysylltwch â ni – rydym yma i helpu.

Neurodivergent people bring great value to policing

Policing is an inclusive environment and neurodivergent staff will receive support and reasonable adjustments to help them thrive. The officers in this video talk about their individual experiences and journeys into policing. They address common myths associated with working in policing as officers with autism, and discuss the support they have received from colleagues and the wider institution.

Gweld trawsgrifiad llawn y fideo

Police Constable, Marcus Zost, Hertfordshire Constabulary

When initially joining the police, I had a few reservations regarding my autism and then some of the coping mechanisms that had to do with the role. But I was fully keen to do the role and do my best I can.

My names Marcus Zost, I’m a Police Constable for Hertfordshire Constabulary and I work as part of a Safer Neighbourhood Team.

I received my diagnosis about eight months ago for autism. I was diagnosed dyslexic when I was 21 and since getting the diagnosis, I’ve further started to understand myself and get more reasonable adjustments in place and the support there.

Sergeant Suzanne Burke, Metropolitan Police Service.

As far as women with autism goes, I mean I was born in the seventies, which possibly could be why autism wasn’t really thought of in relation to me, even though I did struggle as a child. And it is because there was a time when it was believed that women couldn’t be autistic.

My names Sergeant Suzanne Burke, I work for the Metropolitan Police in prosecutions and out-of-court disposals.

I was diagnosed with autism when I was 46. It began with a diagnosis of dyslexia and dyspraxia. People think sometimes that police officers can’t be autistic, or people with autism can’t be police officers. And it’s, you know, well I am a police officer and I have been for 20 years. But not just me, there’s a lot of us.

Police Constable, Marcus Zost, Hertfordshire Constabulary

The support that Hertfordshire Constabulary offer is they will give you laptops or give you programmes that will help you with spelling. Or there’s screens that they can put – so they can put coloured screens. Event audio and recording just for meetings. So there’s a lot of support there that can allow you to, if you struggle in one area, you can get the support you need. 

Superintendent Brigid Beehag-Fisher, Metropolitan Police Service.

We perhaps don’t know as much as we should which is, again, part of the reason I’m in this role working with Suzanne to try and really understand how we can work with our neurodivergent colleagues and how they can work with us.

Sergeant Suzanne Burke, Metropolitan Police Service.

Joining the police felt like coming home. With the discipline and code of conduct, it just satisfied my autistic needs.

Superintendent Brigid Beehag-Fisher, Metropolitan Police Service.

We need to make all our colleagues feel like they have a real part to play in policing. Neurodivergence is just part of that diversity.

Sergeant Suzanne Burke, Metropolitan Police Service.

Because I see things differently, I’m a great problem solver, so I can always think outside the box.

Police Constable, Marcus Zost, Hertfordshire Constabulary

I can see maybe crime patterns slightly differently, or I can recognise number plates very easily without having to write them down and that ability gives me a strength in that area. So, whereas some people might not see that, I see it.

The nature of policing, we have to reflect the public we serve. And so policing is very reflective of the diversity that you see I society.

Police Constable, Marcus Zost, Hertfordshire Constabulary

So my advice would be for anyone that’s got a neurodiverse condition applying for the police, would be apply. There’s nothing stopping you. you come with the skills and abilities that the police need.   

Video ends with the National Police Autism Assocation and Be the Difference police recruitment campaign logos.

Visit Want to become a police officer? | Join The Police (joiningthepolice.co.uk)

Cadw mewn cysylltiad

I ddysgu rhagor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf, gallwch:

Dilynwch ni ar:

Barod i wneud cais?

Mae heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn recriwtio ar hyn o bryd.

Gweld pa luoedd sy'n recriwtio