Rhwydwaith LGBT+ Cenedlaethol yr Heddlu

Logo Rhwydwaith LGBT+ Cenedlaethol yr Heddlu
Logo Rhwydwaith LGBT+ Cenedlaethol yr Heddlu

Mae Rhwydwaith LGBT+ Cenedlaethol yr Heddlu yn cynrychioli’r cymdeithasau staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel, o fewn gwasanaeth yr heddlu ac mewn asiantaethau partner fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y Gwnstabliaeth Niwclear Sifil a’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Ein nod yw cefnogi’r swyddogion a’r staff drwy gydol eu gyrfaoedd drwy greu amgylcheddau gwaith lle gallant ffynnu a theimlo y gallant fod eu hunain gwirioneddol yn y gwaith.

Cymorth a ddarparwn

Mae'r Rhwydwaith yn arwain ar bob mater sy'n berthnasol i'r gymuned LGBT+ o fewn gwasanaeth yr heddlu, gan hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal i bawb. Mae’r cymorth a gynigiwn i swyddogion mewn swydd a darpar recriwtiaid yn cynnwys:

  • Helpu i sefydlu rhwydweithiau cymorth LGBT+ lleol a rhanbarthol ar gyfer ein holl swyddogion a staff
  • Cynrychiolaeth genedlaethol ar gyfer rhwydweithiau lleol a rhanbarthol ar faterion a rennir
  • Mentrau a chanllawiau i sicrhau bod heddluoedd yn gynrychioliadol ac yn gynhwysol o'r gymuned LGBT+

Os ydych yn ystyried ymuno â’r heddlu, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â rhwydwaith cymorth LGBT+ lleol eich llu dewisol.

Officers smiling to camera through Pride picture frame.

Cwestiynau a allai fod gennych

Mae’n naturiol cael cwestiynau wrth feddwl am ddod yn swydog heddlu. Mae Rhwydwaith LGBT+ yr Heddlu yma i sicrhau y bydd eich cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd bob amser yn cael eu parchu o fewn eich rôl. Cymerwch olwg trwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn profi ymddygiad homoffobig/trawsffobig/deuffobig neu ragfarnau eraill yn y gwaith?

Mae gwasanaeth yr heddlu wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd a lles ei holl swyddogion ac nid yw'n derbyn unrhyw fath o wahaniaethu. Mae prosesau disgyblu a systemau cymorth cadarn ar waith i sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hamddiffyn, gan gynnwys cymorth llesiant ac ymchwiliadau annibynnol i gŵynion.

A fydd datgan fy mod yn dod o’r gymuned LGBT+ yn effeithio ar fy nghais mewn unrhyw ffordd?

Ddim o gwbl. Mae gwasanaeth yr heddlu'n croesawu pobl o bob cefndir, diwylliant a chymuned oherwydd mae’n hanfodol ein bod yn cynrychioli’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Dydw i ddim yn siŵr bod fy mhersonoliaeth yn cyd-fynd â bod yn swyddog heddlu. A fydda i'n ffitio i mewn?

Mae gwasanaeth yr heddlu yn cynnwys pob math o wahanol bersonoliaethau, dyna sy’n ei wneud mor arbennig. Ac mae angen hynny arnom i allu cysylltu â'r gwahanol gymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae rôl i bawb sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth.

Gallwch fod chi'ch hunan o fewn plismona.

Gwrandewch ar PC Skye Morden o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn rhannu ei phrofiadau o fod yng ngwasanaeth yr heddlu, y cymorth a gafodd gan y Rhwydwaith LGBT yr Heddlu a pham mae Skye yn meddwl mai bod yn swyddog heddlu yw’r swydd orau yn y byd.

Gweld trawsgrifiad llawn y fideo

PC Skye Morden 

Rwyf erioed wedi bod am ymuno â’r heddlu ers y gallaf gofio. Rwyf bob amser wedi bod am wneud fy ngorau i wneud gwahaniaeth i rywun. Roedd cael swydd lle gallwch chi wneud gwahaniaeth, lle gallwch chi gynnig help, lle gallwch chi achub bywyd mewn gwirionedd yn bwysig iawn ac rwy'n dal i fod mor angerddol nawr ag oeddwn i 21 mlynedd yn ôl.

Helo, Skye ydw i, PC Skye Morden ydw i, rwy’n swyddog heddlu i Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ac ar hyn o bryd rwy’n hyfforddwr tactegol ac yn hyfforddwr arweiniol Taser.  

Y rhan bwysicaf o fod yn swyddog heddlu, yw cael empathi hyd yn oed pan fo'r byd i'w weld yn eich erbyn. Mae'n golygu cael y tosturi hwnnw.

Rwy'n draws, rwyf wedi gwybod erioed fy mod yn draws, erioed ers y gallaf gofio. Wrth dyfu i fyny, roeddwn i'n esgus bod yn rhywun nad oeddwn i, ac fe wnes i guddio fy hun. Bob tro rydych chi'n gweld eich hun mewn drych, bob tro rydych chi'n cerdded heibio ffenestr siop mae gennych chi'r teimlad hwn o gasineb, y teimlad hwn o ddicter, nid fi yw hynny. Ac wrth i amser fynd yn ei flaen, fe gyrhaeddais y pwynt lle roeddwn i wedi gwneud rhywfaint o ymchwil, dechreuais edrych i mewn i beth oedd hunaniaeth rhywedda bod y wyddoniaeth yno nad ydw i'n wallgof mewn gwirionedd. Mae rhywbeth yma, dw i'n draws.  Felly, des i allan. 

Helen, ffrind Skye 

Pan benderfynodd Skye ddod allan yn yr heddlu roedd gen i rai syniadau rhagdybiedig ynglŷn â sut fyddai hynny iddi hi. Roeddwn i'n teimlo y byddai'n her. Roeddwn i’n gwybod ei bod hi wedi bod yn y llu ers amser hir a bod ganddi lawer o ffrindiau yno ond roeddwn i'n bryderus y byddai llawer o bobl na fyddai efallai’n deall, a fyddai â’u barn eu hunain. Ac roeddwn i'n pryderu sut y byddai hi'n cael ei chefnogi a'i hamddiffyn o fewn hynny. 

Skye 

Mae'r swydd wedi fy synnu'n fawr. Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn wych yn Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Dw i wedi cael cymaint o gefnogaeth a dw i wedi cael dim byd ond cariad. Nid yw gweddill fy mhrofiadau gyda hynny wedi bod cystal. Ers i mi ddod allan fel traws weithiau dw i'n teimlo fy mod i'n nofio trwy fôr o gasineb. 

Brigg Ford, Rheolwr Cyfathrebu, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr

Mae llawer o negeseuon casineb wedi bod allan yna, ond gallwch chi anwybyddu'r rheini oherwydd y negeseuon pwysig iawn yw'r e-byst hynny gan rieni plant sy'n cael trafferth gyda'u hunaniaeth rhywedd eu hunain a'r rhieni hynny sydd wedi estyn allan i Skye i ddweud bod yr hyn rydych wedi'i wneud wedi bod yn anhygoel ac mae wedi agor llygaid fy mhlentyn yn fawr ac maen nhw nawr am ddilyn yn eich olion traed a dyna i gyd diolch i waith Skye. 

Skye 

Pan ddes i allan a derbyn llu o gasineb ac enllibion estynnais i rwydwaith LGBT Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a des i o hyd i deulu. Maen nhw wedi rhoi cryfder i mi.  Maen nhw wedi rhoi dewrder a chyfeillgarwch i mi; maen nhw wedi cynnig cefnogaeth i mi pan oeddwn i'n teimlo'n isel ac mae'n rhywbeth dw i'n ei werthfawrogi'n fawr. 

Mae’n bwysig fy mod i'n dangos i’m cydweithwyr bod pobl drawsryweddol yn ddynol. Ac mae angen i mi fod yn weladwy fel y gall y gymuned draws weld mai'r heddlu yw'r gymuned draws, mai ni yw'r cyhoedd a'r cyhoedd yw'r heddlu ac mewn gwirionedd, fel yr oedd Robert Peel yn ei ddymuno, mae ganddynt gynrychiolaeth. Mae ganddyn nhw rywun sy'n gwneud eu gorau i geisio gwneud y newid diwylliannol hwnnw. 

Does dim swydd fel yr heddlu. Heb os, dyma'r swydd orau yn y byd. Ond mae hefyd yn anodd. Mae rhai dyddiau pan ydych chi'n meddwl bod y byd yn eich erbyn chi ond rydych chi'n eistedd yn ôl ac yn meddwl y diwrnod hwnnw fe wnes i achub bywyd. Y diwrnod hwnnw fe wnes i rywbeth arswydus, anghredadwy, brawychus. 

Ond wyddoch chi beth? Fe wnaeth wahaniaeth i rywun bregus, rhywun oedd angen rhywun yno ar eu cyfer. 

Fe wnes i wahaniaeth y diwrnod hwnnw. 
 

Cadw mewn cysylltiad

I gael gwybod mwy a chael y newyddion diweddaraf a’n digwyddiadau, gallwch fynd i’n gwefan.

Dilynwch ni ar:

Barod i ymgeisio?

Mae lluoedd ledled Cymru a Lloegr yn recriwtio ar hyn o bryd.

Gweld pa luoedd sy'n recriwtio