Gwirfoddoli gyda'r heddlu

Bydd gwirfoddoli i fod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn rhoi mewnwelediad da i chi o sut beth yw bod yn swyddog heddlu, heb gofrestru ar unwaith mewn rôl gyflogedig barhaol. Mae gan Gwnstabliaid Gwirfoddol bwerau plismona llawn ac maent yn gwneud plismona rheng flaen, gan gynnwys dyletswyddau fel:

  • Helpu mewn lleoliadau damweiniau neu danau
  • Cadw canolau trefi yn ddiogel
  • Delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ
  • Arestio troseddwyr a rhoi tystiolaeth yn y llys
  • Rheoli torfeydd mewn digwyddiadau
  • Addysgu plant, cymunedau a busnesau ar leihau troseddu

Gallwch ddysgu rhagor am ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol ar wefan y Coleg Plismona neu cysylltwch â'ch llu lleol.

Edrychwch pa luoedd heddlu sy’n recriwtio yn awr