Mae'r cyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa yng ngwasanaeth yr heddlu'n enfawr. Os ydych yn ymuno fel Cwnstabl Heddlu, fel y mae’r rhan fwyaf o recriwtiaid yn ei wneud, byddwch yn gallu symud ymlaen i’r rhengoedd canlynol unwaith y byddwch wedi cwblhau'ch cyfnod prawf yn llwyddiannus:

  • Cwnstabl Heddlu / Ditectif Gwnstabl – dyma’r rheng gychwynnol ar gyfer swyddogion heddlu. 
  • Rhingyll – y rheng oruchwylio gyntaf, mae'r rhan fwyaf o ringylliaid yn gyfrifol am dîm o gwnstabliaid. 
  • Arolygydd – mae arolygwyr mewn iwnifform fel arfer yn goruchwylio sifft o gwnstabliaid a rhingylliaid. Maent hefyd yn gyfrifol am ddigwyddiadau mawr yn ardal eu llu.
  • Prif Arolygydd – gall y rôl hon amrywio o lu i lu ond mae Prif Arolygydd yn aml yn gweithredu fel yr uwch swyddog heddlu mewn trefi mwy, gan oruchwylio timau mawr megis ymchwiliadau neu weithrediadau.
  • Uwch-arolygydd – yn y rheng uwch reoli hon, byddai Uwch-arolygydd fel arfer yn gyfrifol am Adran o Reolaeth. 
  • Prif Uwch-arolygydd  – yn nodweddiadol gyfrifol am blismona ardal ddaearyddol o'i lu.
  • Prif Gwnstabl Cynorthwyol – Mae ACCs fel prif swyddogion yn bennaf gyfrifol am swyddogaeth neu faes busnes penodol o fewn eu heddlu, er enghraifft, Ymchwiliadau neu Weithrediadau. 
  • Dirprwy Brif Gwnstabl – maent yn gweithredu fel dirprwy i’w Prif Gwnstabl, yn ymdrin â rhedeg y llu ac yn cefnogi’r Prif Gwnstabl. 
  • Prif Gwnstabl – y swyddogion hyn sy'n gyfrifol am redeg eu llu yn effeithiol. 

Oherwydd ei faint, mae gan Heddlu Llundain bum rheng uwchlaw rheng y prif uwch-arolygydd - Comander, Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol, Comisiynydd Cynorthwyol, Dirprwy Gomisiynydd a Chomisiynydd. 

Sut olwg allai fod ar eich gyrfa ym maes plismona?

Mae plismona'n ddewis gyrfa helaeth ac amrywiol ac, ar ôl i chi gwblhau'ch cyfnod prawf yn llwyddiannus, gallwch hefyd wneud cais i weithio mewn amrywiaeth enfawr o rolau ac unedau arbenigol, gan gynnwys:

  • Plismona cymunedol - yn cwmpasu rolau fel plismona yn y gymdogaeth, plismona ymateb a phlismona ffyrdd
  • Ymchwilio - yn amrywio o dditectifs, ymchwilwyr lleoliadau troseddau a swyddogion cyswllt â theuluoedd i ymchwilwyr fforensig a cham-drin domestig
  • Cudd-wybodaeth - mae rolau'n cynnwys dadansoddwyr gwyliadwriaeth, gweithredwyr cudd ac ymchwilwyr data cyfathrebu

“Mae’r holl rinweddau, sgiliau a phrofiad sydd gennyf o fy rôl arfau tanio ac o fod yn oruchwyliwr yn gwbl drosglwyddadwy i fod yn Arolygydd”

Mae’r Rhingyll Faith Morgan wedi cael gyrfa eithaf amrywiol, gan gynnwys cyfnodau gyda’r syrcas a’r gwasanaeth carchardai cyn dod yn swyddog heddlu ac yna arbenigo mewn arfau tanio. Gwyliwch ei stori i weld sut mae ei gyrfa wedi datblygu.

Llwybrau gyrfa

I ddysgu rhagor am ffyrdd y gallai eich gyrfa yn yr heddlu symud ymlaen, ewch i borth llwybrau gyrfa'r Coleg Plismona.

Hyfforddiant a chymorth

Gall dechrau gyrfa yn yr heddlu fod yn un o'r pethau gorau y byddwch chi byth yn ei wneud. Ond gall bod yn swyddog heddlu fod yn feichus yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. 

Drwy gydol eich gyrfa gyda'r heddlu, byddwch yn derbyn hyfforddiant, cymorth ac arweiniad parhaus i sicrhau eich bod yn gwbl gymwys i wneud eich swydd yn ddiogel ac yn hyderus. Dysgu rhagor am hyfforddiant a chymorth

26

o 43

Llu heddlu yn recriwtio ar hyn o bryd

Ble gallaf i weithio?