Detectif

Mae arbenigo mewn ymchwilio'n llwybr gyrfa poblogaidd ym maes plismona. Ac mae rhai lluoedd fel yr Heddlu Metropolitanaidd yn gadael i chi ymuno’n syth â rôl ditectif dan hyfforddiant – nid oes rhaid i chi bob amser gwblhau cyfnod prawf fel cwnstabl heddlu rheng flaen cyn i chi wneud cais.

Fel ditectif gwnstabl, byddwch fel arfer yn gweithio ar ymchwiliadau amrywiol, gan gynnwys ymchwiliadau ‘cyfaint a blaenoriaeth’ megis lladradau a byrgleriaethau, achosion o gam-drin domestig a throseddau casineb, troseddau cyllyll a phobl ar goll.

Wrth i chi ennill mwy o brofiad, byddwch yn cael y dasg o ymchwilio i droseddau mwy difrifol, megis troseddau rhyw difrifol a throseddau yn erbyn oedolion agored i niwed.

Dyma ychydig rhagor am yr hyn y mae bod yn dditectif yn ei olygu:

  • Gan ystyried yr adnoddau a’r blaenoriaethau sydd ar gael, byddwch yn nodi ac yn cynllunio'ch camau ymchwiliol eich hun.
  • Byddwch yn defnyddio pwerau perthnasol i arestio a dal pobl dan amheuaeth a rhoi rhybuddion arbennig.
  • Byddwch yn cwblhau asesiadau risg ac yn cefnogi dioddefwyr yn ystod ymchwiliadau.
  • Byddwch yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys adroddiadau am droseddau, dioddefwyr, tystion a’r rhai dan amheuaeth.
  • Byddwch yn gyfrifol am gofnodi a chadw tystiolaeth mewn ffordd sy’n ei gwneud yn dderbyniol yn y llys fel ei bod yn helpu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
  • Byddwch hefyd yn paratoi adroddiadau ar ganlyniadau ymchwiliadau i sicrhau bod trywydd archwilio cywir.

I fod yn dditectif da, mae angen i chi hefyd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol – mae angen i chi allu gwrando, bod yn empathetig a bod yn ymwybodol o ymatebion pobl. Ac mae'r gallu i ddadansoddi problem gymhleth yn eich helpu i gynllunio a blaenoriaethu'ch ymchwiliadau.

Dyma un ffordd yn unig y gallai'ch gyrfa heddlu fynd â chi. Dysgu rhagor am ddilyniant gyrfa.

Ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r heddlu fel ditectif dan hyfforddiant, cysylltwch â'ch llu dewisol i weld a oes ganddynt lwybrau ditectif ar gael.

Pa sgiliau eraill sydd eu hangen ar dditectif da?

Gwrandewch ar dditectifs o Heddlu Caint yn rhoi eu barn ar yr hyn sy'n gwneud ditectif da.