Plismona yn y Gymdogaeth

Ar ôl i chi gwblhau'ch cyfnod prawf dwy flynedd ar y rheng flaen, gallwch chi symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys rôl mewn plismona yn y gymdogaeth.

Pwrpas y rôl

Mae swyddogion heddlu yn y gymdogaeth yn ymdrechu i wneud bywyd yn well ac yn fwy diogel i bawb yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. I lawer o swyddogion, dyma yw hanfod plismona – bod yn bresenoldeb dibynadwy yn y gymuned, gweithio’n agos gyda phobl a defnyddio ystod o sgiliau datrys problemau i fynd i’r afael â materion cymunedol.

Dyma ychydig mwy am yr hyn y mae plismona yn y gymdogaeth yn ei olygu:

  • Byddwch yn treulio amser yn dod i adnabod pobl, sefydliadau a materion lleol, yna defnyddio'r ddealltwriaeth honno i amddiffyn y gymuned yn well.
  • Byddwch yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i gefnogi a diogelu unigolion a grwpiau agored i niwed yn y gymuned i'w hatal rhag dod yn ddioddefwyr troseddu neu anhrefn.
  • Byddwch yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau partner i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o aildroseddu – i leihau eu heffaith ar y gymuned.
  • Byddwch yn annog cyfranogiad cymunedol mewn plismona, gyda’r nod o leihau troseddu, meithrin cydlyniant cymdeithasol a meithrin hyder cymunedol mewn plismona.
  • Byddwch yn mabwysiadu technegau datrys problemau cydnabyddedig i leihau effaith troseddu ac anhrefn ar y gymuned.
  • Byddwch yn defnyddio pwerau plismona i ddatrys problemau cymunedol mewn ffordd gyfiawn a theg ac yn gallu esbonio’r camau hynny i helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.
  • Mae plismona yn y gymdogaeth yn rôl sy’n canolbwyntio’n fawr ar bobl, felly mae sgiliau cyfathrebu cryf yn hanfodol. Dylech chi hefyd fwynhau gweithio mewn tîm a gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol gyda phobl o bob cefndir.

Mae plismona yn y gymdogaeth yn un ffordd yn unig y gallai'ch gyrfa yn yr heddlu fynd â chi ar ôl cwblhau'ch cyfnod prawf yn llwyddiannus. Dysgu rhagor am ddilyniant gyrfa.