Cwnstabl Heddlu Lou Roberts

Mae moeseg gwaith mamgu wedi rhedeg trwy fy ngwythiennau cyhyd ag y gallaf gofio, a dw i wedi canfod ysbrydoliaeth gan fenywod eraill dw i wedi cwrdd â nhw trwy waith hefyd.

PC Lou Roberts accepting a Commissioner's Excellence Award.

Mae PC Lou Roberts yn gwasanaethu yn yr Heddlu Metropolitanaidd. Mae’n siarad â ni am sut y bu i’w Mamgu annwyl feithrin moeseg waith gref ynddi yn ifanc iawn, a’r hyn sy’n ei hysgogi i fod y swyddog heddlu gorau y gall fod.

Pwy sydd wedi'ch ysbrydoli yn eich gyrfa?

Cyrhaeddodd fy Mamgu Elaine Brydain o Trinidad yn y 50au. Roedd hi’n un o’r genhedlaeth feiddgar a symudodd ar draws y byd i geisio bywyd gwell i’w teuluoedd. Daeth hi'n docynnwr bws, ac roedd hi wrth ei bodd, rhywbeth a welais drosof fy hun pan dreuliais i ddiwrnod ar ei bws gyda hi. Roedd hi bob amser yn gwenu ac wedi'i chyflwyno'n berffaith, gyda gwisg wedi'i gwasgu'n berffaith, ei gwallt wedi'i dynnu'n ôl mewn bynsen ac yn gwisgo ei lipstic rhuddgoch arferol.

Ond doedd bod yn fenyw Ddu ym Mhrydain ddim yn hawdd iddi. Roedd hi weithiau'n destun enllibion hiliol atgas. Gweles i ddyn yn chwipio ei gwallt, o flaen yr holl deithwyr eraill. Ces i fy arswydo. Ond sythodd Mamgu ei gwisg, gosod ei bynsen, gwenu a chanu'r gloch i ddweud wrth y gyrrwr am symud ymlaen. Roedd ganddi swydd i'w gwneud a doedd neb yn mynd i'w hatal rhag ei gwneud. Roeddwn i wedi fy syfrdanu. Mae'r atgof hwnnw wedi fy sbarduno i fod yn falch o bwy ydw i bob amser a chyflawni'r swydd, waeth beth mae bywyd yn ei daflu ata i.

A yw ysbrydoliaeth yn dod o leoydd eraill?

Dw i wedi dod o hyd i ysbrydoliaeth gan fenywod dw i wedi cwrdd â nhw trwy waith hefyd. Ymweles i â menyw ar ôl iddi adrodd iddi gael ei cham-drin gan ei phartner. Dw i'n ei gofio'n fyw - fe wnaeth y wraig fach hon agor y drws. O dan ei thracwisg, roedd hi wedi dioddef yr anafiadau mwyaf erchyll a welais erioed: cleisiau pen-i-droed - allwn i ddim hyd yn oed dweud beth oedd lliw ei chroen - gwelais y llosgiadau sigarét a phrintiau o ddwylo ei chamdriniwr.

Rhaid bod sioc wedi'i ysgrifennu ar draws fy wyneb oherwydd gofynnodd hi i mi a oeddwn i'n iawn. Yn ddiweddarach dywedodd hi fod fy ngolwg wedi ei helpu i benderfynu ein cynorthwyo i erlyn ei hymosodwr. Cafodd ef ei euogfarnu a'i garcharu, o ganlyniad.

Rydyn ni wedi ein hamgylchynu gan wahanol bobl a heriau mewn bywyd. Maen nhw i gyd yn rhoi gwers i ni ar sut y dylen ni fod a pha fath o berson y dylech chi ei gynrychioli. Mae dewrder ac anghenion pobl di-ri fel y fenyw honno wedi atgyfnerthu fy angerdd dros blismona ac wedi fy nghadw i ymdrechu i fod y swyddog gorau y galla i fod.

Ydych chi wedi cael unrhyw heriau penodol?

Ces i ddiagnosis o sglerosis ymledol yn 44 oed – 24 mlynedd i mewn i fy ngyrfa blismona. Ond wnes i ddim gadael iddo fy atal rhag gwneud y swydd roeddwn i'n ei charu. Roeddwn i'n hercian o gwmpas ar faglau felly allwn i ddim gweithio ar y rheng flaen mwyach. Felly newidiais i ‘swydd swyddfa’, gan hyfforddi cannoedd o swyddogion eraill yn lle – a chael Gwobr Rhagoriaeth y Comisiynydd am ‘ymrwymiad i broffesiynoldeb tra’n goresgyn adfyd’ tra roeddwn i wrthi!

A fyddech chi'n argymell gyrfa yn yr heddlu i fenywod eraill?

Ar ôl i mi ymuno â'r Met ym 1992, fe wnes i arwain ymgyrch recriwtio oherwydd roeddwn i am gynrychioli ac ysbrydoli menywod Du. Dw i’n falch o fod yn Ddu, yn fenyw ac yn swyddog heddlu ac dw i’n annog unrhyw fenywod sy’n ystyried gyrfa fel swyddog heddlu i sefyll ochr yn ochr â mi; i wneud gwahaniaeth, fel dw i'n gwybod fy mod i wedi'i wneud.

Diddordeb mewn gwneud cais i ymuno â'r Heddlu Metropolitanaidd?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am broses recriwtio'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd a gwneud cais ar wefan yr Heddlu Metropolitanaidd.

Eisiau clywed gan swyddogion eraill sy'n gwasanaethu?

Archwilio straeon swyddogion eraill am pam y gwnaethant ymuno â’r heddlu a beth mae plismona yn ei olygu iddyn nhw.