Rhingyll Faye McSweeney

Mae arnom angen gwasanaeth heddlu sy'n cynrychioli'r holl Lundeinwyr.

Sergeant Faye McSweeney in uniform, standing outside with police tape, a car and building behind her.

Mae’r Rhingyll Faye McSweeney, sy’n gweithio ar recriwtio’r genhedlaeth nesaf o swyddogion arfau tanio ar gyfer y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd (MPS) wedi bod yn swyddog heddlu ers 26 mlynedd. Yn eiriolwr dros fwy o fenywod yn yr adran arfau tanio, mae hi'n gwneud ei rhan i sicrhau bod y Met yn gynrychioliadol o'r holl Lundeinwyr.

Mae’n rhannu ei phrofiad o blismona’r Jiwbilî Platinwm diweddar ac yn dweud wrthym sut brofiad yw bod yn swyddog benywaidd yn gweithio yn uned arfau tanio’r Met.

Beth oedd eich rôl ar ddiwrnod y Jiwbilî?

Ar ddiwrnod y Jiwbilî roeddwn i'n rhoi cymorth fel cofnodydd trefn gyhoeddus i Brif Gomander Efydd, a oedd yn golygu mai fi oedd yn gyfrifol am gofnodi'r holl benderfyniadau a wnaethon nhw y diwrnod hwnnw. Fe gawsom ein postio i Dde Llundain.

A oedd hi'n sifft hir?

Oedd! Fe wnes i weithio tua 14 awr y diwrnod hwnnw ond hedfanodd yr amser heibio - roedd yn ddiwrnod anhygoel. Yn anffodus, ni lwyddais i gael cipolwg ar unrhyw un o'r Teulu Brenhinol - roeddwn i'n canolbwyntio gormod ar y dasg dan sylw!

Pa ddigwyddiadau mawr eraill ydych chi wedi eu plismona?

Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan o blismona amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, protestiadau ac aflonyddwch sifil. Er enghraifft, dw i wedi plismona digwyddiadau chwaraeon mawr fel y Gemau Olympaidd a rowndiau terfynol Cwpan yr FA. Dw iwedi bod ar ddyletswydd yn ystod protestiadau ac wedi plismona achlysuron gwladwriaethol mawr, gan gynnwys ymweliadau arlywyddol ac angladd y Dywysoges Diana.

Beth wnaeth i chi fod am ymuno â'r heddlu?

Roeddwn i’n gweithio fel argraffydd yn Hackney ac roeddwn i'n ei fwynhau ond roeddwn i’n teimlo y gallwn i fod yn gwneud rhywbeth gwell – rhywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Byddai fy ngŵr, a oedd eisoes yn swyddog heddlu, yn dod adref i ddweud wrthyf am ei ddiwrnod ac fe wnaeth i mi feddwl y byddwn i wrth fy modd â swydd fel ei swydd ef. Felly gwnes i gais a dod yn swyddog yn 1997 a dydw i erioed wedi edrych yn ôl.

Rwyf wrth fy modd ag amrywiaeth y swydd dw i'n ei gwneud, yn enwedig cyfarfod â swyddogion benywaidd a newid eu persbectif ar y Rheolaeth Arfau Tanio.

Ai amgylchedd macho ydyw?

Yn bendant nid amgylchedd macho mohono. Rwy’n teimlo ei fod yn Rheolaethi aeddfed a phroffesiynol iawn gan fod swyddogion yma wir eisiau bod yma. Maen nhw wedi rhoi eu hunain trwy gyrsiau anodd, felly mae lefel o barch rhwng swyddogion gwrywaidd a benywaidd – rydyn ni i gyd wedi bod ar yr un daith i gyrraedd yma! Dw i’n falch o ddweud nad ydw i erioed yn fy 26 mlynedd o blismona wedi teimlo bod y ffaith fy mod yn fenyw wedi fy nal yn ôl. Mae'r holl bobl dw i wedi gweithio gyda nhw ond wedi dymuno'r gorau i mi.

Pa mor hir oedd eich hyfforddiant arfau tanio a beth oedd yn ei olygu?

Mae'r hyfforddiant yn cymryd tuag 11 wythnos, ac rydych chi'n dysgu popeth o dactegau a chwilio'r holl ffordd hyd at drin arfau.

Unrhyw uchafbwyntiau gyrfa lle rydych chi’n teimlo eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun?

Dw in hynod ragweithiol o ran hyrwyddo menywod tuag at yr adran arfau tanio. Rwyf wrth fy modd yn gweld swyddogion benywaidd yn ymgeisio a 6 mis yn ddiweddarach maent mewn Cerbyd Ymateb Arfog. Rwy’n hynod falch,oherwydd fy ngwaith yn helpu’r swyddogion hyn, fy mod i wedi ennill gwobr Mentora'r Gymdeithas Menywod mewn Plismona Prydain.

Beth ydych chi'n credu yw'r pethau cadarnhaol y mae bod yn fenywaidd yn eu cyflwyno i'ch rôl?

Gyda'r rôl hon mae'n ymwneud â gwaith tîm a set sgiliau. Mae’n anodd dweud pa bethau cadarnhaol y gall menyw eu cynnig i’r tîm gan eich bod i gyd wedi’ch hyfforddi’n dda ac yn gweithio mor agos gyda’ch gilydd – mae pawb yn dod â’u sgiliau eu hunain ac rwy’n meddwl bod hwnnw’n feddylfryd pwysig i’w gael.

Sut mae'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd wedi eich cefnogi yn eich gyrfa?

Fe ges i ddiagnosis o ganser y fron yn 2020 ac roedd y gefnogaeth a gefais i gael dyrchafiad yn ystod triniaeth yn eithriadol. Mae gen i edmygedd a gwerthfawrogiad mawr o'r holl waith mae MPS yn ei wneud.

Sut ydych chi'n teimlo bod plismona wedi newid ers i chi ymuno?

Mae'n sicr bod gennym fwy o feddwl agored. Rydym yn fwy na pharod i drafod materion yn gyhoeddus, ac mae ein staff yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Pam ydych chi'n credu bod amrywiaeth mewn plismona yn bwysig?

Fel y gwyddom i gyd, dydy’r gwaith ar wneud yr heddlu’n fwy cynrychioliadol a chynhwysol byth wedi’i orffen. Nid yw Llundain yn cynnwys dynion gwyn i gyd, felly dw i, fel llawer o rai eraill, yn credu bod angen i ni barhau i weithio'n galed i adeiladu gwasanaeth heddlu sy'n cynrychioli'r holl Lundeinwyr.

Diddordeb mewn ymuno â'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd?

Ewch i'w gwefan Gyrfaoedd i weld pa rolau maen nhw'n recriwtio ar eu cyfer ar hyn o bryd.

Gyrfaoedd y gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd