Beth mae'r broses sifftio'n ei gynnwys?

Mae dwy broses sifftio wahanol. Bydd y sifft y byddwch yn ei gwblhau yn dibynnu ar y llu y byddwch yn gwneud cais iddo.

Sifft yn y llu

Gall eich llu recriwtio roi gwybodaeth i chi am eu proses sifftio yn y llu.

Sifft cenedlaethol

Mae'r sifft cenedlaethol yn cynnwys dau ymarfer sy'n profi'r cymwyseddau a'r gwerthoedd sy'n bwysig ar gyfer rôl cwnstabl heddlu. Mae un yn brawf barn sefyllfaol (SJT) sy'n cynnwys 15 senario a dylai gymryd oddeutu 30 munud i'w gwblhau. Mae'r llall yn holiadur arddulliau ymddygiadol sy'n cynnwys 80 o ddatganiadau ynghylch eich ymddygiad nodweddiadol a'ch hoffterau yn y gwaith. Dylai hyn gymryd oddeutu 20 munud. Mae'r ddau ymarfer heb eu hamseru.

Er mwyn paratoi orau i gwblhau’r sifft cenedlaethol, byddem yn eich annog i ddarllen y canllaw sifft cenedlaethol i ymgeiswyr . Mae'r canllaw hwn yn cynnwys senarios enghreifftiol tebyg i'r hyn a ofynnir i chi yn y sifft cenedlaethol.

Addasiadau rhesymol a chymwysiadau

Os oes gennych unrhyw gyflwr a allai achosi i chi fod dan anfantais yn ystod y broses sifftio ac asesu ar-lein, dros dro neu fel arall (er enghraifft, beichiogrwydd, anaf, cyflyrau meddygol, anabledd neu niwro-wahaniaeth megis dyslecsia ac awtistiaeth), efallai y bydd gennych hawl i gymhwysiad neu addasiad rhesymol.