Cwnstabl Heddlu Bharat Narbad
Yr hyn rwy'n ei fwynhau yw ceisio cael pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol i'r heddlu a gweld ein gweithlu'n newid.
Mae'r Cwnstabl Heddlu Bharat Narbad, a dderbyniodd Fedal Heddlu'r Frenhines am Wasanaeth Nodedig yn 2019, wedi bod yn rhan o Heddlu De Cymru ers dros 20 mlynedd. Mae hefyd wedi bod yn gadeirydd Cymdeithas Heddlu Du De Cymru ers 10 mlynedd. Yma mae'n dweud wrthym pam ymunodd â'r heddlu, sut mae ei ffydd Hindŵaidd wedi ei helpu ym maes plismona a pham y byddai'n annog pobl eraill o gefndiroedd gwahanol i wneud cais.
Beth ysbrydolodd chi i ddod yn swyddog heddlu?
Gweithiais am 10 mlynedd ym maes bancio, ond doedd hi ddim yn yrfa cyffrous iawn. Roedd hi'n 9 tan 5, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac roeddwn i'n gwybod beth fyddai pob diwrnod yn ei gynnig. Roeddwn i eisiau rhywbeth gwahanol ac yng nghanol y 90au roedd llawer o bethau'n digwydd yn y cyfryngau ynghylch amrywiaeth mewn plismona. Meddyliais i 'dydy hynny ddim yn iawn, beth am edrych o'r tu mewn ar beth allaf ei wneud'.
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Rydych chi'n cael cwrdd â llawer o bobl wahanol na fyddech chi'n cwrdd â nhw mewn unrhyw swydd arall. Mae amrywiaeth y swydd hefyd yn wych. Mae pob shifft yn wahanol. Dydych chi ddim yn gwybod a fyddwch chi'n delio â siopleidr, lladrad neu'r person cyntaf i gyrraedd lleoliad llofruddiaeth.
Yr hyn rwy'n ei fwynhau yw ceisio cael pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol i mewn i'r heddlu a gweld ein gweithlu'n newid. Dechreuais y rôl hon tua phedair blynedd yn ôl, pan oedd gennym nifer isel o swyddogion heddlu a oedd yn edrych fel fi. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod o gwpl o flynyddoedd – gyda'r holl waith rydym wedi'i wneud – mae gwedd yr heddlu yn Ne Cymru yn newid. Mae'n braf gwybod fy mod i'n gwneud gwahaniaeth.
Unrhyw uchafbwyntiau gyrfa lle rydych chi'n teimlo eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun?
Rydw i wedi bod yn plismona ers 23 mlynedd nawr ac mae yna lawer o uchafbwyntiau wedi bod. Byddwn i'n dweud bod helpu dioddefwyr cam-drin domestig – mae hynny bob amser yn galonogol ac yn werth chweil. Os gwelwch chi rywun rydych chi'n gwybod sy'n euog yn cael ei ddyfarnu'n euog, mae hynny bob amser yn ganlyniad. Rydw i hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Heddlu Du De Cymru, sy'n gwneud llawer o waith yn y gymuned. Ac, wrth gwrs, roeddwn i'n falch pan gefais Fedal Heddlu'r Frenhines. Roedd yn braf gweld bod y gymuned yn gwerthfawrogi'r pethau roeddwn i wedi'u gwneud.
Sut mae eich ffydd yn eich helpu chi wrth blismona?
Mae Hindŵaeth i gyd yn ymwneud â heddwch, gofalu am eich cyd-ddyn a gwneud daioni. Ni allwch gael swydd well na bod yn yr heddlu am hynny. Bob blwyddyn yng Nghaerdydd mae yna gwpl o wyliau Diwali ac rydw i wedi gallu cael rhai o'n prif swyddogion i'w ddathlu gyda mi, sy'n helpu'r heddlu i gydnabod pobl o'r gymuned Hindŵaidd.
Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich ffydd yn eich dal yn ôl mewn unrhyw ffordd?
Na, ddim o gwbl. Mae'r gwasanaeth heddlu wedi newid, ac rydym yn agored i anghenion crefyddol pobl. Rydych chi'n cael amser i weddïo ac mae gan yr holl orsafoedd mawr ystafelloedd tawel y gellir eu defnyddio fel ystafelloedd gweddi. Rwy'n gwybod bod rhai o fy ffrindiau Sikh a chydweithwyr Mwslimaidd yn gofyn am yr iwnifform. Mae pobl yn gofyn 'ga i wisgo fy nhwrban?' ac rwy'n dangos iddynt yr iwnifformau sydd gennym ar gyfer pobl o wahanol ffydd.
Beth oedd eich teulu a'ch ffrindiau yn ei feddwl wrth i chi ymuno â'r heddlu?
Roedd fy mam yn falch iawn pan ymunais. Roedd fy mrodyr ychydig yn fwy pryderus am agweddau hiliol yr hyn a fyddai'n digwydd pe bawn i'n ymuno, ond fy ateb oedd 'dydych chi ddim am wneud gwahaniaeth trwy wneud dim byd'. Ymunais ac roeddwn i'n gallu tawelu llawer o'u hofnau.
Ydyn nhw wedi newid eu barn nawr?
Ydyn. Mae gen i linell uniongyrchol at y prif swyddogion lle rwy'n trafod unrhyw faterion sy'n codi. Gadewch i ni fod yn onest, mae hiliaeth yn dangos ei hwyneb ym mhob sefydliad, ond yn yr heddlu mae gennym y rhwydweithiau cymorth ar waith i helpu.
Sut ydych chi'n gweld eich gyrfa ym maes plismona yn datblygu?
Mae amrywiaeth wedi bod yn angerdd gen i erioed ac mae fy rôl bresennol yn cyd-fynd yn berffaith â hynny, felly rwy'n hoffi meddwl y byddaf yn parhau i recriwtio pobl i gynrychioli'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu'n well. Yn fy rôl i, rydyn ni'n cynnal sesiynau uwchsgilio lle rwy'n gweithredu fel mentor a hyrwyddwr datblygu, gan helpu pobl i ymarfer profion barn sefyllfaol a datblygu eu sgiliau cyfweliad. Does dim byd gwell na'u gwylio nhw'n gwneud cynnydd o'r adeg y dangoson nhw ddiddordeb mewn ymuno â'r heddlu i'r wobr eithaf – eu gweld mewn lifrai yn eu parêd ymadael.
Sut fyddwch chi'n dathlu Diwali?
Gŵyl y goleuni yw Diwali. Mae'n ymwneud â buddugoliaeth y goleuni dros y tywyllwch ac rwy'n meddwl am blismona fel 'na hefyd – rydyn ni yno i ddod â goleuni i bobl yn ystod eu hamseroedd tywyllaf.
Beth fyddai eich cyngor i rywun sy'n ystyried ymuno?
Ewch amdani! Does dim swydd arall lle mae cymaint o amrywiaeth – fel swyddog heddlu, mae pob diwrnod yn wahanol. Nid yn unig hynny, ond ar ôl i chi gwblhau eich dwy flynedd gallwch wneud cais am wahanol rolau, fel ymchwilydd yn yr Adran Ymchwiliadau Troseddol. Os yw gyrru ceir yn beth i chi, yna gallwch ymuno â'r tîm traffig. Os ydych chi'n mwynhau hyfforddi, gallwch fod yn hyfforddwr. Mae gennych chi'r adran gŵn, yr adran geffylau, yr adran seiberdroseddau – pa swydd arall sy'n rhoi cymaint o amrywiaeth i chi?
Wedi'ch ysbrydoli i wneud cais?
Mae llawer o heddluoedd yn cynnig mentrau gweithredu cadarnhaol, fel sesiynau mentora ac ymgysylltu ar-lein i gefnogi pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn benodol i wneud cais. Cysylltwch â'ch heddlu dewisol i ddarganfod pa fentrau gweithredu cadarnhaol maen nhw'n eu cynnal neu edrychwch ar y sefydliadau cymorth rydyn ni'n gweithio gyda nhw i helpu i recriwtio swyddogion o ystod eang o gefndiroedd.
Wedi'ch ysbrydoli i wneud cais?
Mae llawer o heddluoedd yn cynnig mentrau gweithredu cadarnhaol, megis mentora a sesiynau ymgysylltu ar-lein i roi cymorth penodol i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i wneud cais. Cysylltwch â’r llu o’ch dewis i gael gwybod pa fentrau gweithredu cadarnhaol maen nhw’n eu cynnal neu edrychwch ar y sefydliadau cymorth rydyn ni’n gweithio gyda nhw i helpu i recriwtio swyddogion o ystod eang o gefndiroedd.