Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt arno) yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu y byddwch yn eu ddarparu i ni, yn cael eu prosesu gennym. Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein harferion a’n prosesau o ran eich data personol a sut y byddwn yn eu trin.

Y Swyddfa Gartref yw’r rheolydd Data ar gyfer yr holl ddata personol y mae’n eu casglu ar gyfer ei swyddogaethau drwy’r wefan hon.  Mae hyn yn cynnwys data a gesglir neu a brosesir gan drydydd parti ar ein rhan.

Y trydydd partïon hyn yw:

  • Google Analytics
  • OmniGOV @ Manning Gottlieb
  • Story UK Ltd
  • Forfront Ltd

Cyfeiriad cyswllt y Swyddfa Gartref yw:

Llundain SW1P 4DF

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Pan ydych yn mynd i'r wefan

Rydym yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys; lle mae ar gael, eich cyfeiriad IP, system weithredu a math o borwr, ar gyfer gweinyddu'r system. Diffinnir cyfeiriad IP fel gwybodaeth bersonol yn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a chaiff ei drin yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol. Nid yw’n fwriad defnyddio’r wybodaeth hon i adnabod unrhyw unigolyn ond ar gyfer data ystadegol am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr. Ni chaiff gwybodaeth dadansoddeg safle ei chadw am fwy na 26 mis a chaiff y data eu storio ar weinyddion o bell a reolir gan Google. Gall data a gesglir gan Google Analytics gael eu trosglwyddo y tu allan i'r AEE i'w prosesu. Ni fyddant yn cael eu cadw ar ffurf a fydd yn adnabod unrhyw unigolyn byw.

Pan ydych yn optio i mewn i dderbyn e-byst

Pan ydych yn optio i mewn i dderbyn e-byst, rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw cyntaf
  • eich cyfeiriad e-bost
  • Os ydych yn dewis derbyn e-byst diweddaru'r llu oherwydd eich bod am dderbyn diweddariadau ar statws recriwtio diweddaraf llu penodol, byddwn ni hefyd yn casglu enw'r llu(oedd) penodol rydych am gael y wybodaeth ddiweddaraf amdano

Bydd y wybodaeth hon ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd unigolyn wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth (h.y. dim cais i ddad-danysgrifio) neu am oes ymgyrch Recriwtio’r Heddlu, p'un bynnag yw’r byrraf. Mae data'n cael eu cynnal gan y platfform marchnata e-bost ar weinyddion cwmwl yn y Deyrnas Unedig a dim ond i ddarparu'r gwasanaeth e-bost y mae unigolion wedi cofrestru iddo y caiff ei ddefnyddio.

Os byddwch yn penderfynu dad-danysgrifio, bydd yr holl brosesu ar eich data personol yn dod i ben unwaith y byddwch wedi tynnu'ch caniatâd yn ôl, ond ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw ddata personol sydd eisoes wedi’u prosesu cyn y pwynt hwn.

Beth sy’n rhoi’r hawl i ni gasglu’r wybodaeth bersonol hon?

Pan ydych yn mynd i'r wefan

Gallwn ni gasglu’r wybodaeth hon er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd. Diffinnir Data Personol yn Erthygl 4 o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ac mae Erthygl 6(1)(e) yn datgan ei bod yn gyfreithlon casglu data personol ar gyfer cyflawni tasg gyhoeddus. Diffinnir hyn ymhellach yn a. 8 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel swyddogaeth un o adrannau’r llywodraeth.

Pan ydych yn tanysgrifio i dderbyn e-byst

Rydych wedi optio i mewn i’n rhaglen e-bost drwy broses gofrestru optio i mewn dwbl sy’n gofyn i chi gadarnhau'ch cyfeiriad e-bost a’ch bod yn dymuno tanysgrifio i e-byst gan Dîm Recriwtio’r Heddlu yn Llywodraeth EM, 2 Marsham Street, Llundain SW1P 4DF.

Mae hyn yn eich optio i mewn i naill ai:

  • Diweddariadau e-bost recriwtio cyffredinol yr heddlu
  • Neu ddiweddariadau e-bost ar statws recriwtio lluoedd unigol

Unwaith y byddwch wedi ymuno â'r naill neu'r llall o'r rhestrau postio uchod, gallwch ddiweddaru'ch dewisiadau i ddewis derbyn diweddariadau e-bost recriwtio cyffredinol a diweddariadau e-bost am statws recriwtio lluoedd unigol.

Sut rydym yn defnyddio'ch data personol

Pan ydych yn mynd i'r wefan

Pan ydych yn mynd i'r wefan am y tro cyntaf, gofynnir i chi osod eich dewisiadau cwci. Gallwch ddiweddaru'r rhain ar ymweliadau dilynol â'r wefan.

Rydym yn defnyddio cwcis angenrheidiol i wneud i'n gwefan weithio. Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi swyddogaethau craidd megis diogelwch, rheoli'r rhwydwaith a hygyrchedd Gallwch analluogi cwcis angenrheidiol trwy newid gosodiadau eich porwr ond gallai hyn effeithio ar sut mae'r wefan yn gweithredu. Mae'r polisi cwcis i'w weld yma: https://www.joiningthepolice.co.uk/cookies

  • Er mwyn sicrhau bod cynnwys o'n gwefan yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol i chi ac ar gyfer eich cyfrifiadur.
  • Er mwyn darparu'r wybodaeth rydych yn gofyn amdani gennym.
  • Er mwyn caniatáu i chi gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein gwefan, pan ydych yn dewis gwneud hynny.

Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth gan gynnwys patrymau ymddygiad i wella'r cynnwys a ddarperir i chi ar y wefan hon. Mae cwcis Google Analytics yn casglu gwybodaeth mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un yn uniongyrchol. Mae’r cwcis Google Analytics hyn yn cael eu diffodd yn ddiofyn pan ydych yn mynd i’r wefan gyntaf a dim ond os ydych yn dewis derbyn y gosodiadau cwcis a argymhellir ar gyfer y wefan y byddant yn cael eu galluogi. Mae'r polisi cwcis i'w weld yma: https://www.joiningthepolice.co.uk/cookies

Os hoffech atal eich data rhag cael eu defnyddio gan Google Analytics, gallwch lawrlwytho'r ategyn porwr optio allan ar Google Analytics. Gellir cyrchu hwn yma:

Google Analytics Opt-out browser add on

Rydym yn defnyddio cwcis marchnata i’n helpu i wella perthnasedd ymgyrchoedd hysbysebu a gewch mewn sianeli cymdeithasol a llwyfannau ar-lein eraill. Mae’r cwcis marchnata hyn yn cael eu diffodd yn ddiofyn pan ydych yn mynd i’r wefan am y tro cyntaf a dim ond os ydych yn dewis derbyn y gosodiadau cwcis a argymhellir ar gyfer y wefan y byddant yn cael eu galluogi.

Os byddwch yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.

Cedwir gohebiaeth gyffredinol yn unol ag amserlenni cadw a gwaredu'r Swyddfa Gartref am uchafswm o bum mlynedd.

Efallai y byddwn ni hefyd yn gofyn i chi gwblhau arolygon a ddefnyddiwn at ddibenion ymchwil, er nad oes rhaid i chi ymateb iddynt. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich defnydd o'r wefan.

Gall ein gwefan, o bryd i'w gilydd, gynnwys dolenni i ac o wefannau sefydliadau partner. Os dilynwch ddolen i unrhyw un o’rgwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn.

Sut y byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol os ydych wedi optio i mewn i gyfathrebiadau e-bost

Defnyddir y wybodaeth a roddwch pan ydych yn optio i mewn i fod yn danysgrifiwr e-bost i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am recriwtio i'r heddlu.

Bydd gwybodaeth megis p'un a ydych yn agor, neu'n clicio ar gynnwys ar y negeseuon e-bost a anfonir atoch yn cael ei defnyddio ar lefel gyfanredol i wella ansawdd y cynnwys a anfonwn atoch trwy e-bost.

Os byddwch yn dewis derbyn e-byst cyffredinol ynghylch recriwtio'r heddlu, byddwch yn derbyn gwybodaeth megis awgrymiadau defnyddiol ar wneud cais gwych, i straeon bywyd go iawn gan recriwtiaid newydd a swyddogion sy'n gwasanaethu.

Os byddwch yn optio i mewn i dderbyn e-byst diweddaru gan luoedd unigol, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddant yn dechrau recriwtio ar gyfer swyddogion heddlu.

Mae'r llwyfan marchnata e-bost rydym yn ei ddefnyddio yn gyflenwr cymeradwy ar fframwaith G-Cloud CCS. Mae data'n cael eu cynnal gan y platfform marchnata e-bost ar weinyddion cwmwl sydd wedi'u lleoli yn y Deyrnas Unedig.

Storio'ch gwybodaeth

Os ydych yn mynd i'r wefan

Mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio’n ddiogel a bydd yn cael ei chadw dim ond cyhyd ag y bo angen at y dibenion a ddisgrifir uchod ac ni fydd yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd parti ac eithrio ein partner sy’n cynnal y wefan hon.

Os ydych yn tanysgrifio i e-byst

Mae'r wefan yn cynnwys dwy ffurflen y gall defnyddiwr gofrestru ar gyfer hysbysiadau e-bost drwyddynt. Rydym yn cynnwys y meysydd ffurflen ar y wefan ac yn cyflwyno data yn uniongyrchol i driniwr ffurflenni ar y llwyfan e-bost trydydd parti.

Mae tystysgrif ddiogel yn ei lle sy'n sicrhau bod y cyfathrebu rhwng porwr y cleient a'r gweinydd cyrchfan wedi'i amgryptio.

Mae’r llwyfan marchnata e-bost a’i seilwaith wedi’u lleoli’n ddiogel yn ei Ganolfan Ddata ei hun yn y DU, sydd wedi’i hachredu gan ISO 27001 2013.

 Gofyn am fynediad i'ch data personol  

 

Mae gennych yr hawl i ofyn am fynediad i’r wybodaeth bersonol y mae’r Swyddfa Gartref yn ei chadw amdanoch.

Ceir manylion am sut i wneud y cais yn y Siarter Gwybodaeth Bersonol

Hawliau eraill

Mewn amgylchiadau penodol mae gennych yr hawl i:

  • gwrthwynebu a chyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, neu ofyn i’ch data gael eu dileu, neu eu cywiro.

Cwestiynau neu bryderon am ddata personol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch casglu, defnyddio neu ddatgelu'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’r Swyddfa Gartref gan ddefnyddio’r wybodaeth ar y Siarter Gwybodaeth Bersonol

Mae’r Swyddfa Gartref wedi penodi Swyddog Diogelu Data yn unol â’i rhwymedigaethau o dan Erthygl 37 o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Mae’r Swyddog Diogelu Data yn rôl annibynnol a benodir i gyflawni’r swyddogaethau a ragnodir mewn deddfwriaeth mewn modd annibynnol a gwrthrychol.

Os oes gennych unrhyw bryderon am y ffordd y mae eich data personol wedi cael eu defnyddio neu eu trin gallwch ysgrifennu at Swyddog Diogelu Data’r Swyddfa Gartref yn uniongyrchol yn y cyfeiriadau canlynol:

Post:

Swyddfa'r DPO
Peel Building
2 Marsham Street
Llundain SW1P 4DF

E-bost: dpo@homeoffice.gsi.gov.uk

Ffôn: 020 7035 6999

Mae gennych yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am y ffordd y mae’r Swyddfa Gartref yn trin eich gwybodaeth bersonol.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Mae rhagor o fanylion am sut i wneud hyn ar gael yn y Siarter Gwybodaeth Bersonol neu ar y wefan ICO