Sefydliadau cymorth
Mae nifer o sefydliadau'n gweithio i sicrhau bod ein heddluoedd yn gynrychioliadol o'n cymunedau. Darganfyddwch beth maen nhw'n ei wneud i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant a'r gefnogaeth maen nhw'n ei chynnig.
Mae Cymdeithas Uwch-arolygwyr yr Heddlu (PSA), sy'n cynrychioli uwch arweinwyr mewn heddluoedd ledled y Deyrnas Unedig, wedi ymrwymo i gefnogi amrywiaeth o fewn plismona.
Mae'r ffilm hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar brofiadau amrywiol a chymysgedd ysbrydoledig o gefndiroedd a phersonoliaethau eu haelodau. Gallwch ei gwylio yma.
Mae nifer o lwybrau mynediad gwahanol ar gyfer ymuno â'r heddlu, yn dibynnu ar eich profiad a'ch cymwysterau addysgol. Darganfyddwch pa lwybr mynediad allai fod yr un gorau i chi.
Llwybrau i blismona