Telerau ac Amodau

Mae'r dudalen hon yn esbonio telerau defnyddio ar gyfer www.joiningthepolice.co.uk. Rhaid i chi gytuno i'r telerau defnydd hyn (www.joiningthepolice.co.uk) cyn symud ymlaen.

Pwy ydym ni

Mae www.joiningthepolice.co.uk yn cael ei reoli gan y Swyddfa Gartref ar ran Llywodraeth EF a’r Goron.

Defnyddio joiningthepolice.co.uk

Rydych yn cytuno i ddefnyddio www.joiningthepolice.co.uk at ddibenion cyfreithlon yn unig. Rhaid i chi hefyd ei ddefnyddio mewn ffordd (dibenion bwriadedig) nad yw'n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu nac yn atal defnydd a mwynhad o'r wefan hon gan unrhyw un arall.

Gwneir diweddariadau i  www.joiningthepolice.co.uk ar gyfnodau rheolaidd. Gallwn newid neu ddileu cynnwys ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw.

Gwasanaethau a thrafodion

Gallwch ddefnyddio jointhepolice.co.uk i gael gwybodaeth am ymuno â’r heddlu a chael gwybodaeth am ba luoedd sy’n recriwtio’n weithredol ar hyn o bryd.

Yn ogystal, gallwch danysgrifio i dderbyn diweddariadau e-bost ynghylch ymuno â’r heddlu – i weld rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, cyfeiriwch at y polisi preifatrwydd.

Dolen i joinginthepolice.co.uk

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â jointhepolice.co.uk

Mae’n rhaid i chi gysylltu â ni am ganiatâd os ydych am naill ai:

  • codi tâl ar ddefnyddwyr eich gwefan i glicio ar ddolen i unrhyw dudalen ar jointhepolice.co.uk
  • dweud bod eich gwefan yn gysylltiedig â neu wedi'i chymeradwyo gan jointhepolice.co.uk

Dolen oddi ar joiningthepolice.co.uk

Mae joiningthepolice.co.uk yn cysylltu â gwefannau sefydliadau partner. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys ar y gwefannau hyn.

Nid ydym yn gyfrifol am:

  • diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i'r gwefannau hyn
  • unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o'ch defnydd o'r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â nhw

Rydych yn cytuno i'n rhyddhau o unrhyw hawliadau neu anghydfodau a allai ddod o ddefnyddio'r gwefannau hyn.

Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddiwr terfynol sy'n ymwneud â'r gwefannau hyn cyn i chi eu defnyddio.

Defnyddio cynnwys jointhepolice.co.uk

Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys ar GOV.UK yn destun gwarchodaeth hawlfraint y Goron ac fe’i cyhoeddir o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).

Mae rhywfaint o gynnwys wedi'i eithrio o'r OGL - gwiriwch y rhestr o eithriadau.

Os bydd unrhyw gynnwys nad yw’n destun gwarchodaeth hawlfraint y Goron neu’n cael ei gyhoeddi dan yr OGL, byddwn fel arfer yn rhoi credyd i’r awdur neu ddeiliad yr hawlfraint.

Gallwch atgynhyrchu cynnwys a gyhoeddir ar GOV.UK o dan yr OGL os byddwch yn dilyn amodau’r drwydded.

Cysylltwch â ni os ydych am atgynhyrchu darn o gynnwys ond nad ydych yn siŵr a yw wedi’i gwmpasu gan hawlfraint y Goron neu’r OGL.

Ymwadiad

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw  joiningthepolice.co.uk yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw warantau, amodau na gwarantau y bydd y wybodaeth yn:

  • cyfredol
  • diogel
  • cywir
  • cyflawn
  • rhydd rhag bygiau neu feirysau

Nid ydym yn cyhoeddi cyngor ar joinginthepolice.co.uk. Dylech gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gwneud unrhyw beth ar sail y cynnwys.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod o ddefnyddio joinginthepolice.co.uk. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
  • unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamweddau sifil (‘camwedd’, gan gynnwys esgeulustod), tor-cytundeb neu fel arall
  • y defnydd o jointhepolice.co.uk ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig iddi neu ohoni
  • yr anallu i ddefnyddio joinginthepolice.co.uk ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig iddi neu ohoni

Mae hyn yn berthnasol os oedd y golled neu’r difrod yn rhagweladwy, wedi codi yn hynt arferol pethau neu os ydych wedi ein hysbysu y gallai ddigwydd.

Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) colli eich:

  • incwm neu refeniw
  • cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
  • busnes
  • elw neu gontractau
  • cyfle
  • arbedion a ragwelir
  • data
  • ewyllys da neu enw da
  • eiddo diriaethol
  • eiddo anniriaethol, gan gynnwys colled, llygredd neu ddifrod i ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
  • amser wedi'i wastraffu gan reolwyr neu swyddfeydd

Efallai y byddwn yn dal i fod yn atebol am:

  • marwolaeth neu anaf personol yn deillio o'n hesgeulustod
  • camliwio twyllodrus
  • unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu o dan gyfraith berthnasol

Ceisiadau i ddileu cynnwys

Gallwch ofyn i gynnwys gael ei ddileu o jointhepolice.co.uk. Byddwn yn dileu cynnwys:

  • er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data sy’n ymwneud â hawliau a rhyddid unigolion
  • os yw'n torri ar ddeddfau hawlfraint, yn cynnwys data personol sensitif neu ddeunydd y gellir ei ystyried yn anweddus neu'n ddifenwol

Cysylltwch â ni i ofyn i'r cynnwys gael ei ddileu. Bydd angen i chi anfon cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys atom ac egluro pam y credwch y dylid ei ddileu. Byddwn yn ateb i roi gwybod i chi a fyddwn yn ei ddileu.

Rydym yn dileu cynnwys yn ôl ein disgresiwn. Gallwch barhau i wneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Ddeddf Diogelu Data.

Gwybodaeth amdanoch chi a'ch ymweliadau i joingthepolice.co.uk

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn unol â'n polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis. Trwy ddefnyddio jointhepolice.co.uk, rydych yn cytuno i ni gasglu’r wybodaeth hon ac yn cadarnhau bod unrhyw ddata a ddarperir gennych yn gywir.

Amddiffyn rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi jointhepolice.co.uk am feirysau ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Rhaid i chi wneud yn siŵr nad yw’r ffordd rydych yn defnyddio jointhepolice.co.uk yn eich gwneud yn agored i risg o feirysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a all niweidio eich system gyfrifiadurol.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu system gyfrifiadurol a allai ddigwydd pan ydych yn defnyddio jointhepolice.co.uk

Feirysau, hacio a throseddau eraill

Wrth ddefnyddio jointhepolice.co.uk, rhaid i chi beidio â chyflwyno feirysau, ceffylau pren Troea, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol.

Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i jointhepolice.co.uk, y gweinydd y mae’n cael ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig ag ef.

Rhaid i chi beidio ag ymosod ar jointhepolice.co.uk mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau gwrthod gwasanaeth.

Byddwn yn adrodd am unrhyw ymosodiadau neu ymdrechion i gael mynediad anawdurdodedig i jointhepolice.co.uk i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch gyda nhw.

Cyfraith lywodraethol

Mae’r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr.

Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sy’n ymwneud â’r telerau ac amodau hyn, neu eich defnydd o jointhepolice.co.uk (boed yn gontractiol neu’n anghontractiol), yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Newidiadau i'r telerau ac amodau hyn

Gwiriwch y telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Gallwn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd.

Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau os byddwch yn parhau i ddefnyddio jointhepolice.co.uk ar ôl i’r telerau ac amodau gael eu diweddaru.

Wedi ei ddiweddaru ddiwethaf 13 Mai 2020.