Rhingyll Keyur Patel

Mae'n deimlad anhygoel, gwybod eich bod yn helpu bod dynol arall.

Sergeant Keyur Patel smiling to camera.

Yn 2012, cafodd Keyur Patel ddiagnosis o Lewcemia Myeloid Cronig, cyflwr prin sy'n golygu y bydd ar gemotherapi am oes. Ond wnaeth hynny ddim ei atal rhag ymuno â'r Heddlu Metropolitanaidd flwyddyn yn ddiweddarach. Bellach yn Gadeirydd y Grŵp Cymorth Canser o fewn y Met, mae’n darparu cymorth amhrisiadwy i gydweithwyr sy’n byw gyda chanser.

Fe wnaethom siarad â Keyur i ddysgu rhagor am yr heriau y mae wedi’u hwynebu drwy gydol ei yrfa blismona.

Beth wnaeth i chi fod am ymuno â'r heddlu?

Doedd gen i erioed awydd i fod yn Swyddog Heddlu, yn hollol i'r gwrthwyneb. Wrth dyfu i fyny yn y 1990au, doeddwn i ddim yn gweld yr heddlu mewn golau cadarnhaol. Pan adewais y sector preifat yn 2007, roeddwn yn gwybod fy mod am wneud gwahaniaeth yn y byd. Edrychais ar blismona i ddechrau ond fe wnaeth fy ffrindiau i mi droi yn erbyn y syniad, gan ddweud bod ffyrdd gwell o wneud gwahaniaeth, felly dewisais y maes cymdeithasol. Fe wnes iweithio mewn carchardai yn cefnogi oedolion gyda'u dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol. Symudais wedyn i’r lleoliad cymunedol a dechrau gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, a dyna lle gwelais ochr wahanol i blismona.

Doeddwn i dal ddim yn siŵr fy mod i am fod yn swyddog heddlu, er bod rhingylliaid wedi dweud wrthyf y dylwn i. Yn lle hynny, des i'n Gwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Dyffryn Tafwys. Cyn gynted ag y gwnes i wisgo'r wisg, roeddwn i'n gwybod mai dyma oedd fy ngalwedigaeth. Roeddwn i'n teimlo, fel swyddog heddlu, y gallwn i, gobeithio, ymgysylltu â phobl ifanc yn gynnar a helpu i’w llywio i ffwrdd o ddewisiadau negyddol.

Beth oedd barn eich ffrindiau a'ch teulu am y ffaith eich bod yn ddod yn swyddog heddlu?

Byddai fy nheulu’n dweud yn rheolaidd “ond yw’r heddlu’n hiliol?”, a byddwn i'n ceisio egluro bod fy mhrofiad personol i’r gwrthwyneb i hynny. Roedden nhw'n dal i boeni drosof i. Fodd bynnag, mae eu barn yn wahanol nawr, yn bennaf oherwydd fy mod i wedi treulio amser ac amynedd yn egluro ochr wirioneddol plismona.

Pa rwystrau ydych chi'n credu sy'n atal pobl o'ch cymuned rhag ymgeisio i ymuno â'r heddlu?

Rwy’n credu yn arbennig ar gyfer y Gymuned De Asiaidd, nad ydynt yn gweld ymuno â’r heddlu fel llwybr gyrfa. Mae llawer o deuluoedd De Asiaidd yn annog eu plant tuag at feysydd eraill, megis proffesiynau meddygol a busnes, a chredaf y gallem oresgyn hyn drwy ddangos y rolau amrywiol sydd ar gael yng ngwasanaeth yr heddlu.

Rwy’n credu bod angen i ni wneud mwy i ddeall pam na fyddai pobl o gymunedau Du ac Asiaidd yn ystyried gyrfa yn yr heddlu, a gweithio’n galetach fyth i chwalu rhwystrau a gwrando’n wirioneddol ar y cymunedau hyn.

Her fawr arall yw nad oes digon o swyddogion mewn rhengoedd uwch o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich rôl?

I mi, mae’n dair agwedd:

  • Gweithio gyda’r cyhoedd a chydweithio i wneud ein cymunedau’n fwy diogel.
  • Cefnogi a helpu dioddefwyr troseddu. Pan dreuliais i dair blynedd yn yr Uned Diogelwch Cymunedol, roedd yn rôl heriol iawn wrth i mi weld dioddefwyr cam-drin domestig. Ond roedd yn deimlad anhygoel gwybod eich bod yn helpu bod dynol arall.
  • Helpu pobl ifanc. Mae hyn yn angerdd arall ac un o'm rolau mwyaf gwerth chweil oedd gweithio yn y Rheolaeth Gwella Plismona Parhaus o fewn y Strategaeth Ymgysylltu ag Ysgolion ac Ieuenctid.

Nawr, fel Rhingyll, fy mhrif nod yw cefnogi swyddogion eraill i ddatblygu, boed hynny’n ochrol neu drwy ddyrchafiad.

Unrhyw adegau allweddol yn eich gyrfa heddlu lle rydych chi'n teimlo

eich bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?

Fe wnes i ddelio ag achos trais domestig lle yr ymosodwyd yn ddifrifol ar y ddioddefwraig. Gwadodd y sawl dan amheuaeth y drosedd, ond tra roedd y sawl dan amheuaeth yn y ddalfa, bûm yn gweithio gyda'r Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol a phartneriaid allanol eraill a llwyddais i gael y ddioddefwraig a'u plentyn i loches. Y peth pwysicaf oedd bod y ddioddefwraig yn ddiogel. Person mor ddewr ac anhygoel. Bydd y profiad hwn yn aros gyda fi am byth.

Ydych chi wedi gorfod goresgyn unrhyw heriau mawr yn eich gyrfa?

Cyn dod yn swyddog heddlu, cefais ddiagnosis o Lewcemia. Mae gen i gyflwr prin sy'n golygu fy mod i ar gemotherapi am oes ac rwy'n gwneud ymarfer corff i gadw fy nghorff yn actif.

Yr her fawr arall oedd pasio'r Arholiad Ymchwilwyr Cenedlaethol ac arholiadau Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol yr Heddlu. Cefais farciau isel yn gyson yn gyffredinol. Ar ôl trafodaeth ag Arolygydd, fe wnaeth hi fy nghynghori i wirio a oedd dyslecsia arna i. Ac yn 2019 cefais ddiagnosis - cefais gefnogaeth gan y Grŵp Cymorth Dyslecsia ac fe wnaethon nhw fy helpu i ddeall nad oedd fy nghyflwr yn golygu nad oeddwn yn ddeallus, roedd gen i sgiliau gwahanol. Gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth hon, yn 2021 pasiais i'r arholiadau.

Nawr, rwy'n teimlo'n wylaidd ac yn hapus i allu mynd yn ôl i'm Bwrdeistref wreiddiol (BCU) fel Rhingyll ac y gallaf fod yn weithredol unwaith eto.

Pe gallech chi roi un darn allweddol o gyngor i recriwtiaid heddlu newydd, beth fyddai hwnnw?

Peidiwch â chilio oddi wrth dasgau. Byddwch chi'n dysgu rhywbeth o bob agwedd ar eich cyfnod prawf. Byddwch chi'n dod yn swyddog heddlu gwych os oes gennych chi olwg gyflawn ar blismona. Mae hyn yn golygu amser ar Dimau Heddlu Ymateb Brys, amser mewn Cymdogaethau Diogelach ac mewn Ymchwiliadau. Peidiwch â meddwl bod un agwedd yn bwysicach na'r lleill.