Prif Arolygydd Matt Ashmead

Roedd yn bleser pur i blismona fod yn rhan o bencampwriaethau fel y rhain, lle buom yn gweithio gyda phartneriaid a’r cefnogwyr i sicrhau ei fod yn llwyddiant.

Female officer shown from the back holding a EUROs sign.

Mae Llewesau Lloegr wedi cael llwyddiant ysgubol ar y parc, ond y tu allan i’r maes mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl wylwyr yn cael eu cadw’n ddiogel. Roedd y Prif Arolygydd Matt Ashmead yn un o’r swyddogion Heddlu Metropolitanaidd a oedd yn gyfrifol am ddiogelwch y cyhoedd yn ystod y gystadleuaeth eleni. Fe fuom yn siarad ag ef am y gwaith anhygoel y mae'r tîm wedi'i wneud hyd yn hyn.

Pa mor bell ymlaen llaw oedd rhaid i chi ddechrau cynllunio plismona ar gyfer EUROs eleni?

Dechreuodd y gwaith cynllunio yn ôl ym mis Tachwedd 2021. Rydyn ni wedi bod yn cyfathrebu â lluoedd cenedlaethol eraill a oedd hefyd yn cynnal gemau trwy gydol y twrnamaint.

Pa fath o bethau sydd angen i'ch cynllunio eu hystyried?

Mae’n bwysig cydnabod bod hon yn bencampwriaeth ryngwladol bwysig gyda’r un trefniadau cofleidiol â digwyddiadau cyfatebol i ddynion.

Mae angen i ni hefyd ystyried yr amserlen ar gyfer yr EUROS ochr yn ochr â digwyddiadau arwyddocaol eraill yn Llundain. Mae'n rhaid i ni fod yn gyson yn ein hymagwedd blismona gyda heddluoedd eraill, gan rannu a chyfathrebu bob amser i sicrhau bod profiad y gwylwyr yr un fath ym mhobman. Mae dynamig y dorf yn arwyddocaol hefyd. Rhaid i ni ddiogelu pawb gyda phwyslais arbennig ar drais yn erbyn menywod a merched.

A ydych chi’n cydweithio’n agos ag asiantaethau eraill i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cadw’n ddiogel?

Ydyn, mae hyn yn hollbwysig. Fe fuom yn cydweithio ag UEFA, yr FA, Awdurdod Llundain Fwyaf (GLA), Uned Plismona Pêl-droed y Deyrnas Unedig (UKFPU), San Steffan, Brentford a chlybiau pêl-droed Wembley, yn ogystal ag amryw o reolaethau mewnol o fewn y Met e.e. Rheolaeth Diogelwch Amddiffynnol.

Faint o swyddogion Met sydd eu hangen i blismona gemau mawr fel y rhain?

Caiff pob digwyddiad ei asesu’n unigol, gan ystyried llawer o ffactorau i lywio’r sgiliau a lefel y swyddogion sydd eu hangen – yr hyn sy’n allweddol yw sicrhau ei fod yn gymesur â’r cynllun i ddarparu digwyddiad diogel.

Pa rolau heddlu sydd fel arfer yn ymwneud â diwrnodau gêm?

Mae dyletswyddau plismona cyffredinol bob amser yno, sy'n ymwneud ag amlygrwydd, presenoldeb a bod yn agos-atoch i'r rhai sy'n mynychu. Hefyd, Swyddogion Trefn Gyhoeddus Lefel 2, Swyddogion Pêl-droed Gweithredol, Canfod Ymddygiad yn chwilio am fwy o faterion yn ymwneud â Gwrthderfysgaeth, a thimau Troseddu i ymchwilio i unrhyw droseddau sy'n dod i'r amlwg a chefnogi dioddefwyr.

Sut awyrgylch oedd yn y stadia ac o gwmpas y twrnamaint hwn?

Cadarnhaol iawn. Mae'r awyrgylch wedi gwneud plismona'r digwyddiad yn bleser. Mae teuluoedd i gyd wedi mwynhau, roedd awyrgylch carnifal go iawn yn y gemau yn Llundain ac mae hyn wedi cael ei ailadrodd ledled y wlad.

Pa fath o ddigwyddiadau y mae eich tîm wedi gorfod delio â nhw?

Ychydig iawn – y cyfan oherwydd ymddygiad cadarnhaol y cefnogwyr. Fe wnaethom nodi personau ar goll fel maes o bryder cyn y twrnamaint. Yn y 3edd gêm, digwyddodd hyn, ond fe wnaeth gweithio mewn partneriaeth dda gyda Brentford ein helpu i leoli’r person coll yn ddiogel ac yn iach.

Sut mae swyddogion yn cael eu hyfforddi i ddelio â digwyddiadau fel y rhain?

Mae gan bob gêm reolwr gemau wedi'i hyfforddi mewn Trefn Gyhoeddus a Diogelwch Cyhoeddus, sy'n brofiadol mewn delio â rheolaeth aml-asiantaethol a chydlynu ar gyfer y mathau hyn o ddigwyddiadau. Maent yn wybodus am ymateb i ddigwyddiadau mawr ac yn gwybod sut i wneud penderfyniadau i sicrhau bod swyddogion yn y digwyddiad yn cael eu defnyddio'n effeithiol.

A yw'n sifft hir ar ddiwrnodau gêm?

Mae'n dibynnu ar sut y bydd y digwyddiad yn mynd, ond bydd UEFA yn cynnal cyfarfod diwrnod gêm ar gyfer rheolwr y gêm tua 10am ac nid yw'r gêm yn cychwyn tan 8pm. Bydd rolau arbenigol megis Swyddog Pêl-droed Gweithredol a Swyddog Cudd-wybodaeth yn arwain at adleoliadau hirach. Ond i'r rhan fwyaf o swyddogion, ni ddylai olygu diwrnod hir.

Unrhyw uchafbwyntiau allweddol o'r EUROs?

Ar wahân i Loegr yn ennill o flaen Wembley a werthodd bob tocyn? Y cefnogwyr! Maen nhw wedi bod yn wych. Y gêm gyntaf yn Brentford oedd yr Almaen v Denmarc. Pan aethon ni i siarad â chefnogwyr yn un o’r tafarndai cyfagos a ddefnyddiwyd gan gefnogwyr Denmarc, fe gawsom floedd a chymeradwyaeth, a oedd yn dderbyniad cynnes hyfryd gan y cefnogwyr.

Beth sydd fwyaf heriol i chi yn ystod yr EUROs?

Wrth reoli’r digwyddiad yn ei gyfanrwydd rhaid i ni hefyd sicrhau bod ein cynllunio’n iawn ar gyfer dechrau’r tymor pêl-droed newydd – sy’n dechrau’n gynt oherwydd Cwpan y Byd y Gaeaf.

Pa ddigwyddiadau mawr eraill ydych chi wedi eu plismona?

EUROs y Dynion y llynedd a dim ond gemau cartref mawr rheolaidd rhwng cystadleuwyr.

Unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu am blismona'r EUROs?

Mae’n bleser pur i blismona fod yn rhan o bencampwriaethau fel y rhain ac fe fuom yn gweithio’n galed gyda phartneriaid a’r cefnogwyr i sicrhau ei fod yn llwyddiant. Rydyn ni mor falch bod lewesau Lloegr wedi llwyddo i ddod ag e adref!

Diddordeb mewn ymuno â'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd?

Ewch i'w gwefan Gyrfaoedd i weld pa rolau sydd ganddynt ar gael ar hyn o bryd.

Gyrfaoedd y gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd