Cwnstabl Heddlu Mia

Dw i wrth fy modd nad yw dau ddiwrnod yr un peth.

Mia yn ei gwisg yn gwenu.

Mae Mia yn un yn unig o dros 9,000 o recriwtiaid newydd sydd wedi ymuno â’r heddlu fel rhan o’r ymgyrch i recriwtio 20,000 o swyddogion newydd erbyn mis Mawrth 2023. Yma mae'n dweud wrthym beth mae'n ei fwynhau fwyaf am blismona a'r cyngor y byddai'n ei roi i eraill sy'n ystyried gwneud cais i fod yn swyddog heddlu.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn swyddog heddlu?

Y peth a wnaeth fy ysbrydoli i ymuno â’r heddlu oedd y niferoedd diddiwedd o gyfleoedd sydd ar gael. Rwyf wrth fy modd nad yw dau ddiwrnod yr un fath a'r heriau gwahanol y byddaf yn eu hwynebu.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am fod yn yr heddlu?

Rwy'n mwynhau mynychu tasgau sy'n newid canfyddiad y cyhoedd o'r heddlu yn un mwy cadarnhaol yn y pen draw.

Sut ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth?

Mae fy swydd yn gadael i mi amddiffyn a diogelu pobl agored i niwed rhag troseddwyr mwyaf cyson cymdeithas.

Beth yw barn eich ffrindiau a'ch teulu am eich dewis gyrfa?

Mae fy ffrindiau a fy nheulu yn hynod gefnogol. Roedden nhw’n bendant yn nerfus i ddechrau ond dw i’n credu bod y ffaith eu bod yn fy ngweld i mor hapus yn gwneud yr hyn dw i am ei wneud wedi eu llenwi â hyder.

Pa lwybr mynediad wnaethoch chi gais drwyddo?

Gwnes i gais i'r heddlu trwy wefan Heddlu Swydd Bedford a fi oedd un o'r rhai terfynol ar y cwrs IPLDP Plus.

A oedd y broses ymgeisio yr hyn roeddech yn ei ddisgwyl?

Cymerodd y broses ymgeisio bron i flwyddyn i gyd. Roedd yn broses hir ond yn hynod drylwyr gan eu bod am wneud yn siŵr eu bod yn recriwtio’r bobl iawn ar gyfer y swydd. Roedd yn gymysgedd go iawn o gwestiynau ysgrifenedig, cyfweliadau ac asesiadau corfforol ac maent yn cynnig cyngor a chefnogaeth ar bob cam.

Sut ydych chi wedi cael eich hyfforddiant? Pa rannau ydych chi wedi'u mwynhau fwyaf?

Roeddwn i wrth fy modd gyda'r hyfforddiant cychwynnol. Mae'r hyfforddwyr yn anhygoel ac mor angerddol am blismona sy'n ein hysbrydoli ni fel recriwtiaid newydd. Mae 21 wythnos yn ymddangos yn amser mor hir ond fe hedfanodd heibio. Roeddwn i wrth fy modd â’r chwarae rôl gan eu bod wedi rhoi’r gynrychiolaeth fwyaf realistig i ni o sut beth yw plismona mewn gwirionedd. Maen nhw'n defnyddio swyddogion sy'n gwasanaethu fel actorion sy'n anhygoel oherwydd maen nhw'n delio â'r mathau hyn o senarios bob dydd ac yn cynnig cyngor mor dda.

Fel swyddog benywaidd, a ydych yn teimlo eich bod yn cael eich trin yn wahanol gan eich cydweithwyr?

Ers ymuno â fy nhîm dw i ddim yn teimlo fy mod i'n cael fy nhrin yn wahanol oherwydd fy mod i'n fenyw. Roedden nhw mor groesawgar i mi a'm cydweithwyr gwrywaidd pan wnaethon ni ymuno.

Sut ydych chi'n gweld eich gyrfa ym maes plismona yn dod yn ei blaen?

Rwy'n gyffrous iawn am yr yrfa sydd o'm blaen. Y peth am blismona yw bod cymaint o lwybrau i’w cymryd gyda chymaint o gyfleoedd. Yn bendant mae gen i syniadau am ba lwybrau yr hoffwn i eu cymryd ond gallai hynny i gyd newid. Rwy'n canolbwyntio ar fy nwy flynedd gyntaf am y tro ac rwyf am gymryd cymaint ag y gallaf i'm helpu yn y dyfodol gyda pha bynnag ffordd y bydda i'n ei dewis ar gyfer fy ngyrfa.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl eraill sy'n ystyried ymuno â'r heddlu?

Byddwn i'n dweud ewch amdani! Byddwch yn barod i weithio'n galed iawn gan y gall fod yn heriol iawn ond mae hefyd yn rhoi boddhad mawr ac yn llawer o hwyl.