Prif Gwnstabl Sarah Crew

Mae fy ysfa dros degwch a chydraddoldeb wrth wraidd fy angerdd dros blismona.

Prif Gwnstabl Sarah Crew yn sefyll o flaen banner Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.

Mae Sarah Crew, Prif Gwnstabl Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn dweud wrthym sut y dechreuodd hi yn yr heddlu ac am arwain Prosiect Bluestone.

Beth wnaeth eich denu at blismona?

Rwyf bob amser wedi bod yn benderfynol o sefyll dros y gwannaf yn erbyn y bwli, ac roedd yn ymddangos i mi mai plismona oedd yn cynnig y cyfle gorau i helpu pobl yn uniongyrchol ar lefel bersonol, ymarferol a dynol.

Chi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Brif Gwnstabl Heddlu Avon a Gwlad yr Haf - pa rolau eraill ydych chi wedi'u cyflawni yn ystod eich gyrfa?

Dechreuais mewn iwnifform ym 1994 a symud ymlaen i fod yn Dditectif Arolygydd â chyfrifoldeb am yr Adran Ymchwiliadau Troseddol (CID) 9 mlynedd yn ddiweddarach, yna ymlaen i rolau fel Ditectif Uwch-arolygydd a Phrif Uwch-arolygydd. Yn ogystal â symud drwy'r rhengoedd, mae plismona'n rhoi'r cyfle i chi gymryd rhan mewn pob math o fentrau gwerth chweil a chymryd rolau a chyfrifoldebau eraill. Er enghraifft, rwyf hefyd yn arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ar Droseddau Rhywiol Oedolion ac fe wnes i arwain Prosiect Bluestone sydd bellach yn ehangu ledled y wlad o dan faner Ymgyrch Soteria.

Beth yw Prosiect Bluestone?

Mae’n gydweithrediad unigryw rhwng y rhai ohonom ym maes plismona sy’n ymateb i’r drosedd o dreisio ac academyddion sydd wedi astudio’r amrywiol agweddau a dynameg ohono. Ein nod yw defnyddio gwybodaeth yr academyddion a phrofiad yr ymarferwyr i brofi a phennu’r dull gorau posibl o ymateb i’r troseddau hyn.

Pam fod angen Prosiect Bluestone?

Ar hyn o bryd, ni fydd llawer o’r achosion sy’n cael eu riportio yng Nghymru a Lloegr yn arwain at euogfarn yn y llys. Ac yn y cyfnod rhwng rhywun yn riportio ac achos yn cyrraedd y llys, mae miloedd lawer o achosion yn gostwng ar fin y ffordd. Felly rydym yn chwilio am newid trawsnewidiol. Mae'n un o'r troseddau mwyaf trawmatig y gall bod dynol ei oroesi ac mae'n effeithio ar y teulu hefyd.

Pam nad yw achosion yn mynd rhagddynt?

Mewn llawer o achosion sy'n cael eu riportio, mae goroeswyr yn tynnu’n ôl o’r broses ac mae angen i ni wneud gwelliannau sylweddol i’w gwneud yn well i oroeswyr trais rhywiol. Mae Prosiect Bluestone yn gweithio ar draws pum piler. Un o’r pileri hynny yw cyfiawnder gweithdrefnol i lunio’r ffordd rydym yn ymgysylltu â dioddefwyr. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod dioddefwyr yn cael eu clywed, eu parchu, eu cynnwys a’u hysbysu drwy gydol proses yr ymchwiliad ac felly’n gallu aros gyda’r ymchwiliad hwnnw.

Mae'n ddull diddorol, yn gweithio gydag academyddion. Sut daeth hyn i fod?

Fe gawsom ein gwahodd i roi cyflwyniad i rwydwaith academaidd sy’n canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod a merched. Fe gyflwynais y problemau a dywedais os oedd unrhyw un a allai ein helpu ag atebion, i gysylltu â ni. Y diwrnod wedyn, cysylltodd yr Athro Betsy Stanko OBE a rhannu model rhyngwladol seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn y gallai ymateb plismona trawsffurfiol i dreisio fod. Roedd hi wedi ei gyflwyno ar un dudalen ac roedd yn cydgordio â mi ar unwaith.

Beth ydych chi'n gobeithio y bydd Prosiect Bluestone yn ei gyflawni?

Fel rhywun sydd wedi treulio 27 mlynedd fel swyddog heddlu, dw i wir yn teimlo bod ymddiriedaeth a hyder yn y system cyfiawnder troseddol yn hollbwysig. Mae angen i oroeswyr weld a theimlo bod cyfiawnder yn cael ei wneud. Mae pob un ohonom sy’n ymwneud â Phrosiect Bluestone yn gobeithio y bydd yr argymhellion rydym am eu profi a’u gweithredu yn cynyddu nifer yr achosion sy’n dod i’r llys, yn dod â mwy o droseddwyr gerbron y llys ac yn y pen draw yn rhoi rhywfaint o gysur i oroeswyr a’u teuluoedd. A bydd hynny'n rhoi boddhad mawr.

Darllenwch am Brosiect Bluestone yn fwy manwl. Neu archwiliwch straeon swyddogion eraill sy’n gwasanaethu ynghylch pam y gwnaethon nhw ymuno â’r heddlu a beth mae plismona yn ei olygu iddyn nhw.