Rhingyll Shaz Sadiq

Gallwn ni ddod â chymaint mwy i blismona drwy amrywiaeth.

Shaz Sadiq

Rhingyll Heddlu Shaz Sadiq yw Arweinydd Gweithredu Cadarnhaol Cwnstabliaeth Durham ac Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du (NBPA). Gwrandewch ar Shaz yn rhannu ei feddyliau am ei yrfa a'i ddilyniant dros ei 25 mlynedd o wasanaeth.

Pam wnaethoch chi ymuno â'r heddlu?

Mae plismona yn rhywbeth a oedd o ddiddordeb i mi o oedran ifanc iawn, ac roeddwn i wir eisiau gwneud gwahaniaeth i gymunedau.

Beth oedd barn eich teulu a ffrindiau am y ffaith eich bod yn gwneud cais?

Mae fy nheulu erioed wedi bod yn gefnogol iawn am y ffaith fy mod i'n ymuno â'r Heddlu. Maen nhw'n wir yn teimlo ei bod yn bwysig bod gan blismona amrywiaeth fwy amlwg, yn enwedig mewn swyddi uwch.

A oedd gennych unrhyw bryderon am ymuno?

Dechreuodd fy ngyrfa wrth i mi symud oddi cartref ac ymuno â Heddlu'r Met. Roedd ymuno â’r llu mwyaf yn y wlad yn bryder i mi i ddechrau ond roedd y bobl roeddwn i’n gweithio gyda nhw yn wych a dw i wedi cadw’r ffrindiau wnes i yno yr holl flynyddoedd yn ôl.

Rydych chi wedi cael gyrfa amrywiol. A allwch chi ddweud ychydig wrthym am yr holl rolau rydych chi wedi'u cael?

Gweithiais fel swyddog rheng flaen yng Nghanol Llundain cyn cwblhau fy Hyfforddiant Terfysg. Fe fûm yn ymdrin ag amryw o ddigwyddiadau ar raddfa fawr, gan gynnwys gemau pêl-droed yr Uwch Gynghrair, cyn symud i Orsaf Heddlu Notting Hill fel rhan o dîm yn gweithio mewn iwnifform a dillad plaen.

Yn 2001, trosglwyddais i Heddlu Durham, gan fynd yn ôl i ddyletswyddau rheng flaen. Wedyn symudais ymlaen i dîm yn ymchwilio i droseddwyr cyson, tra'n gweithio gydag asiantaethau partner i helpu i leihau aildroseddu.

Ar ôl cwblhau fy Arholiad Rhingyll yn llwyddiannus, fe fûm yn gweithio am rai blynyddoedd fel Rhingyll y Ddalfa cyn arwain ar Weithredu Cadarnhaol, yr hyn dw i'n dal yn rhan ohono i helpu i ddod ag amrywiaeth i Gwnstabliaeth Durham. Fi yw Cadeirydd ein Cymdeithas Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig leol, Prif Gynrychiolydd Ffederasiwn yr Heddlu ar Gydraddoldeb ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr NBPA.

A yw cynrychiolaeth o bwys ym maes plismona?

Mae cynrychiolaeth yn hollbwysig ym maes plismona. I gael y modelau rôl cadarnhaol hynny y gallwch chi anelu atynt, yn ogystal â dod yn fodel rôl i'r rhai sy'n dymuno ymuno. Mae angen i blismona fod yn fwy amlwg amrywiol ar bob lefel fel y gallwn ni adlewyrchu ein cymunedau.

Pa gymorth mae'r NBPA yn ei gynnig?

Gall yr NBPA gefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ynghylch symudiadau gyrfaol, cael dyrchafiad a chyfleoedd addysgol. Mae tîm yr NBPA yno hefyd i helpu i leddfu unrhyw bryderon sydd gan swyddogion ac yn bwysicach fyth, i helpu i gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am blismona.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sydd am ymuno â'r heddlu ond sy'n poeni am ffitio i mewn?

Byddwn i'n dweud torri trwy'ch rhwystr personol a pheidiwch ag amau ​​eich gallu eich hun. Gallwn ni ddod â chymaint mwy i blismona trwy amrywiaeth boed yn hil, crefydd, rhywedd, rhywioldeb,niwroamrywiaeth, anabledd a llawer o nodweddion eraill. Mae lluoedd ar draws y wlad yn defnyddio Timau Gweithredu Cadarnhaol i helpu i gynyddu amrywiaeth mewn plismona felly estynnwch allan atynt a chychwyn eich cais – maen nhw'n barod ac yn fodlon i’ch cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallan nhw.

Eisiau clywed gan swyddogion eraill sy'n gwasanaethu?

Archwilio straeon swyddogion eraill am pam y gwnaethon nhw ymuno â’r heddlu a beth mae plismona yn ei olygu iddynt.