Cwnstabl Heddlu Yasmin Ocampo

Rwyf wrth fy modd ag amrywiaeth y swydd. Un diwrnod, galla i fod yn ymlid pobl dan ameuaeth ar y stryd. Yr un nesaf galla i fod yn helpu yn y gymuned.

Yasmin talking to camera, locker room in the background.

Mae PC Yasmin Ocampo yn recriwt newydd gyda Heddlu Swydd Gaerhirfryn. Mae’n siarad â ni am yr hyn a’i hysgogodd i ymuno â’r heddlu, sut mae’n teimlo ei bod wedi gwneud gwahaniaeth a beth sydd gan y dyfodol i’w gyrfa blismona.

Dywedwch ychydig wrthym am eich cefndir

Roedd fy nghefndir yn wahanol iawn, a dweud y gwir. Fe wnes i astudio mathemateg ac ystadegau yn y brifysgol, ac felly fe wnes i ymwneud ag ychydig o swyddi data am ychydig. Ond fe wnes i ddiflasu wrth weithio yn y swyddfa. Roeddwn i am gael rhywbeth y byddwn i'n fwy angerddol amdano.

Pa lwybr mynediad wnaethoch chi gais drwyddo?

Fe wnes i gais trwy gynllun i raddedigion ac rydych chi'n mynd yn syth i mewn i gymdogaeth ar ôl i chi gwblhau'ch hyfforddiant. Ym maesplismona yn y gymdogaeth, rydyn ni’n ymwneud mwy â datrys problemau a dod i adnabod y gymuned – mynd allan ar batrôl troed a phethau felly.

Sut gawsoch chi’r broses ymgeisio – ai dyna oeddech chi’n ei ddisgwyl?

Roedd yn syml, er bod cyfnod interim eithaf hir rhwng pob adran, oherwydd yn y math hwn o swydd, mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr eich bod yn ffit iawn. Ond cefais gefnogaeth trwy gydol y broses a chefais y wybodaeth ddiweddaraf bob amser pan oedd y peth nesaf yn dod. Felly, gall deimlo'n hir ond mae'n werth chweil.

Y prawf ffitrwydd – a oedd yn haws neu’n galetach na’r disgwyl?

Rwy'n credu ei fod yn haws. Mae'n fwy o gêm meddwl. Rwy'n meddwl os yw eich meddwl wedi'i osod yn y lle iawn, yna mae'n iawn. Gallwch chi wneud i'ch corff redeg. Dyna pam roeddwn i'n meddwl nad oedd yn rhy ddrwg yn y diwedd.

A wnaethoch chi unrhyw hyfforddiant neu waith paratoi ar ei gyfer?

Ceisiais fynd allan ar ychydig o rediadau pan allwn i – mae'n debygol y dylwn i fod wedi gwneud mwy. Mae'n rhaid i ni wneud y profion ffitrwydd bob blwyddyn, felly dw i'n ceisio mynd allan ar ychydig o lonciau ymlaen llaw. Ond dw i'n gwybod bod rhai pobl wedi sefydlu'r prawf yn eu gardd neu mewn parc. A gallwch chi lawrlwytho'r prawf blîp fel ap ar eich ffôn, felly mae llawer o bobl yn hyfforddi ar ei gyfer fel 'na.

Sut mae eich hyfforddiant wedi bod i chi'n gyffredinol? Pa rannau ydych chi wedi'u mwynhau fwyaf?

Dydych chi ddim yn disgwyl cael eich hyfforddi mewn, dyweder, hunan-amddiffyn pan ydych chi'n dechrau'ch gyrfa, ond mae hynny'n amlwg yn rhan bwysig o'r heddlu. Mae'n eithaf helaeth ac rydych chi'n dysgu llawer mewn cyfnod byr o amser. Dw i wrth fy modd yn dysgu ac wedi mwynhau cael gwneud pethau newydd yn fawr. Un o fy ffefrynnau yn bendant oedd y cwrs goleuadau glas, Mae hynny'n wir hwyl!

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd nawr?

Rwyf wrth fy modd ag amrywiaeth y swydd. Dw i wrth fy modd â'r ffaith y galla i un diwrnod fod yn ymlid pobl dan amheuaeth ar y stryd. Y diwrnod nesaf galla i fod yn helpu yn y gymuned. Galla i fynd i ysgolion ac addysgu plant. Ac mae cymaint o wahanol bethau y gallwch chi eu gwneud a'u gwneud yn rhai eich hun gyda'ch cryfderau a'r hyn rydych chi'n mwynhau ei wneud. Gallwch chi wir ei fowldio i'r yrfa a'r math o swydd rydych chi am iddi fod.

Sut ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth?

Dw i'n credu ei bod yn bwysig mewn swydd fel yr heddlu i gymryd sylw o'r gwahaniaethau bach, oherwydd dw i'n meddwl bod rhai ohonom yn dod i mewn ac eisiau newid y byd, ac mae hynny'n aml yn anoddach nag yr ydym yn ei feddwl i ddechrau. Ond dw i wrth fy modd yn gwneud y gwahaniaethau bach. Dw i wrth fy modd yn helpu pobl, hyd yn oed dim ond yn stopio ac yn siarad â phobl ar y stryd. Neu roi'r gofal a'r cymorth sydd eu hangen ar ddioddefwyr a mynd y filltir ychwanegol honno. Dw i'n credu mai'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Beth yw barn eich ffrindiau a'ch teulu am eich dewis gyrfa?

I ddechrau, roedd fy nhad braidd yn bryderus ynghylch ymuno â'r heddlu. Dw i’n meddwl ei fod yn poeni am fy niogelwch, sy’n ddealladwy. A doedd fy nwy chwaer iau ddim yn arbennig o hapus yn ei gylch. Dydw i ddim yn crdeu bod ganddyn nhw'r farn orau am yr heddlu. Fodd bynnag, a dweud y gwir, mae'r ffaith fy mod i wedi ymuno wedi newid eu canfyddiad, a dw i'n credu eu bod yn deall pam mae angen i bobl fel fi ymuno. Maen nhw'n deall bod mwy o bobl yn ymuno a maen nhw'n credu eu bod yn cael mwy o effaith gadarnhaol. Felly, roedd ychydig o bryder, ond dw i'n credu eu bod yn wirioneddol falch ohono i nawr.

Sut ydych chi'n gweld eich gyrfa ym maes plismona yn dod yn ei blaen?

Nid swydd arferol yw plismona, mae llawer o amrywiaeth, gan gynnwys i ble gallwch chi fynd nesaf. Mae cymaint o wahanol rolau. Gallwch chi arbenigo mewn llawer iawn o wahanol feysydd.

Mae'n debygol fy mod i wedi cyrraedd y cam lle dw i'n dal i benderfynu beth dw i am ei wneud, ond dw i wrth fy modd yn bod yn y sefyllfa honno. Dw i wrth fy modd yn cael yr holl gyfleoedd hyn ac yn gweld beth sydd nesaf.

Archwilio straeon swyddogion eraill sy’n gwasanaethu am pam y gwnaethon nhw ymuno â’r heddlu a beth mae plismona yn ei olygu iddyn nhw.