Cwnstabl Heddlu Myles Scott

Rydyn ni'n symud ymlaen gyda'n gilydd ac yn gwneud cynnydd da.

Myles standing next to police car, smiling to camera.

Gweld trawsgrifiad llawn y fideo

Swyddog gwrywaidd yn edrych i ffwrdd o'r camera yn y gampfa.

00:00: - 00:04 Mae pob diwrnod yn wahanol.

Swyddog gwrywaidd yn yr ystafell newid yn siarad â'r camera.

00:00: - 00:12 Un funud gallwch chi fod yn eistedd yn ysgrifennu adroddiad, a'r funud nesaf fe allech chi fod yn ymlid rhywun i lawr y stryd, mae mor amrywiol.

Swyddog gwrywaidd yn ymestyn yn y gampfa, swyddog gwrywaidd yn yr ystafellnewid yn siarad â'r camera.

00:13: - 00:25 Roedd bod yn swyddog heddlu lliwddall yn effeithio arna i, yn ddyddiol, o roi disgrifiadau o bobl, i ddilyn cerbyd, i roi disgrifiadau tra'ch bod chi'n ymlid rhywun. Mae bob amser wedi bod yn anodd iawn, iawn i mi.

Swyddogion gwrywaidd a benywaidd yn gwneud prawf blîp. Swyddog gwrywaidd yn yr ystafell newid yn siarad â'r camera.

00:26: - 00:35 Rwy'n meddwl ei bod hi'n wirioneddol bwysig bod yr heddlu'n dechrau amrywio ac yn cydnabod y gwahanol anableddau a'r cyfyngiadau gwahanol sydd gan bobl yn eu bywydau.

Swyddog gwrywaidd yn yr ystafell newid yn siarad â'r camera.

00:36: - 00:40 Ac mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n ei symud ymlaen gyda'r heddlu, gan wneud cynnydd da iawn.

00:41: - 00:44 Mae'r sbectol rwy'n eu gwisgo yn caniatáu i mi weld lliw, sy'n rhywbeth nad wyf wedi gallu ei wneud tan yn ddiweddar iawn mewn gwirionedd.

00:45: - 00:47 Felly mae hynny'n hwb cadarnhaol iawn.

Yr Heddlu: Logo Gwnewch Eich Gwahaniaeth

Cyhyd ag y gall gofio, roedd Myles am fod yn swyddog heddlu. Ym mis Mawrth 2017, gwireddwyd ei freuddwyd gydol oes pan ymunodd â Heddlu Wiltshire fel cwnstabl heddlu rheolaidd, ar ôl cyfnod fel Cwnstabl Gwirfoddol.

Fel swyddog lliwddall, ni ddaeth gyrfa newydd Myles heb ei heriau. Mae’n dweud wrthym beth mae’n ei fwynhau fwyaf am ei swydd, y rhwystrau y mae wedi gorfod eu goresgyn a’i gyngor i bobl lliwddall eraill sydd â diddordeb mewn ymuno â’r heddlu.

C. Pryd wnaethoch chi ddarganfod eich bod yn lliwddall a sut mae'n effeithio arnoch chi?

Fe ges i wybod fy mod yn lliwddall pan oeddwn i'n 8 oed. Mae yna lawer o liwiau rwy'n ei chael hi'n anodd eu hadnabod, ond alla i ddim dweud y gwahaniaeth rhwng coch a gwyrdd yn bennaf. Er enghraifft, pe byddech chi'n taflu pêl goch ar y glaswellt, fyddwn i ddim yn gallu ei gweld.

C. Pam oeddech chi am fod yn swyddog heddlu?

Dw i wedi bod am fod yn rhan o’r heddlu cyhyd ag y gallaf gofio, dyna’r cyfan dw i erioed wedi bod am ei wneud! Yn syml, dw i eisiau gallu gwneud gwahaniaeth a chadw fy nghymuned yn ddiogel.

C. Sut oeddech chi'n teimlo am ymuno â'r heddlu fel swyddog lliwddall?

Roeddwn i'n bryderus ar y dechrau, ac mewn gwirionedd fe fethais fy mhrawf lliw cychwynnol gyda'r heddlu felly gofynnwyd i mi fynd at fy optegydd am brawf estynedig. Roedd meini prawf yr oedd rhaid i mi eu bodloni i gael fy nerbyn i'r heddlu. Roedd y rhain yn sicr yn rhai o’r adegau mwyaf ingol i mi eu profi yn fy mywyd, dyma oedd fy swydd ddelfrydol wedi’r cyfan!

C. Sut gwnaeth eich llu eich helpu chi?

Pan ymunais i gyntaf, roedd y gefnogaeth yn weddol gyfyngedig, ond yna fe wnaethon nhw roi sbectol arbennig i mi sy'n caniatáu i mi weld lliw, sy'n rhywbeth nad ydw i wedi gallu ei wneud o'r blaen. Felly mae hynny'n hwb cadarnhaol iawn.

Ac roedd fy nghydweithwyr yn gefnogol iawn ac wedi bod bob amser. Maen nhw bob amser yn caniatáu i mi gymryd fy amser os ydw i'n ceisio adnabod lliw.

C. Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am fod yn swyddog heddlu?

Amrywiaeth pob sifft, mae'n rhywbeth gwahanol bob dydd a dydych chi ddim yn sownd y tu ôl i ddesg 24/7. Un funud fe allech chi fod yn eistedd yn ysgrifennu adroddiad a'r funud nesaf fe allech chi fod yn ymlid rhywun i lawr y stryd. Ac rwy'n cael cwrdd â phobl anhygoel.

C. Pa uchelgeisiau sydd gennych chi ar gyfer eich gyrfa gyda'r heddlu, e.e. ydych chi'n bwriadu symud i fyny'r rhengoedd neu wneud cais am rôl arbenigol?

Mewn gwirionedd dw i'n anelu at gymhwyso fel Ditectif yn y dyfodol agos.

C. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl lliwddall eraill sydd â diddordeb mewn ymuno â'r heddlu?

Ewch amdani! Byddwch yn agored am fod yn lliwddall, peidiwch â cheisio ei guddio. Cofleidiwch hi! Bydd cymorth yno i chi i'ch helpu i wneud eich swydd yn dda.

Unrhyw gwestiynau eraill am fod yn swyddog lliwddall?

Mae Myles yn hapus i helpu i'w hateb - e-bostiwch positiveaction@wiltshire.pnn.police.uk

Byddwch y gwahaniaeth

Mae heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn croesawu amrywiaeth ar ei holl ffurfiau.  Mae amrywiaeth yn ein helpu i fod y gwasanaeth heddlu gorau y gallwn ni fod – gwasanaeth heddlu y mae pobl am berthyn iddo.
 
Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi ei grynhoi’n berffaith yn eu fideo newydd

Pa gymorth arall sydd ar gael?

Mae nifer o sefydliadau cymorth yn gweithio'n galed i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant a sicrhau bod pob heddlu'n cynrychioli'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Dysgwch am y cymorth sydd ar gael gan bob sefydliad a sut i gysylltu â nhw.