Cymdeithas sipsiwn roma a theithwyr yr heddlu

GRTPA logo
GRTPA logo

Wedi ei sefydlu yn 2014, mae’r Gymdeithas Heddlu Sipsiwn, Roma neu Deithwyr (GRTPA) yn bodoli i gefnogi personél Sipsiwn, Roma neu Deithwyr o fewn gwasanaeth yr heddlu. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r materion allweddol mae’r gymuned Sipsiwn,  Roma neu Deithwyr yn eu hwynebu, gwella dulliau plismona cymunedol a lleihau’r achosion o ragfarn a hiliaeth. 

Y Cymorth rydymyn ei ddarparu

Mae’r GRTPA yn gweithio i addysgu pobl yn nheuluoedd a chymunedau’r heddlu ynghylch y diwylliant a’r materion sydd yn berthnasol i’r gymuned Sipsiwn, Roma neu Deithwyr. Rydym yn cynnig: 

  • Pecynnau hyfforddi i luoedd ledled y DU
  • Cymorth recriwtio i ymgeiswyr o gefndiroedd Sipsiwn,  Roma neu Deithwyr
  • Cymorth 1-i-1 i heddweision o gefndiroedd Sipsiwn,  Roma neu Deithwyr sydd yn gwasanaethu
  • Gweithdai addysg ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, o fewn yr heddlu a’r gymuned ehangach
Police dog Cody working with his handler.

Cwestiynau a allai fod gennych chi

Mae’n naturiol cael cwestiynau wrth gymryd unrhyw gam newydd i ddod yn swyddog heddlu. Mae’r GRTPA yma i’ch cefnogi a sicrhau y bydd eich cefndir a’ch diwylliant bob amser yn cael eu parchu o fewn eich rôl fel swyddog heddlu. Cymerwch olwg trwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Pa gymorth sydd ar gael os byddaf yn profi gwahaniaethu?

Nid yw gwasanaeth yr heddlu yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu ac mae wedi ymrwymo i gefnogi ei holl swyddogion. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hamddiffyn ac os oes unrhyw swyddog o’n cymuned yn profi gwahaniaethu, cysylltwch â ni – rydym yma i helpu.

Nid yw fy ffrindiau a theulu yn credu bod yr heddlu'n yrfa dda i mi. Beth alla i ei ddweud i'w hargyhoeddi?

Ymuno â’r heddlu yw eich cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac mae digon o le i ddatblygu a chael dyrchafiad – gallwch wneud eich ffrindiau a’ch teulu yn falch.

Oes rhaid i mi gael cyfeiriad parhaol er mwyn gwneud cais?

Nid oes dim i atal ymgeisydd heb gyfeiriad sefydlog rhag gwneud cais ond bydd angen i'r heddlu fod yn fodlon y gallant ddilysu gwybodaeth am yr ymgeisydd yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Coleg Plismona. I ddod yn swyddog heddlu, bydd yn rhaid i chi basio proses fetio. Fel rhan o hyn, byddant yn cynnal gwiriadau ar eich cyfeiriad cartref ac unrhyw gyfeiriadau y buoch yn byw ynddynt yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnoch i ddod yn swyddog heddlu?

Y gofyniad addysg lleiaf ar gyfer ymuno â’r heddlu yw Cymhwyster Lefel 3. Yn nodweddiadol, mae hyn yn ddwy lefel A. Fodd bynnag, mae cymwysterau eraill cyfwerth, yn arbennig os oes gennych gymhwyster a ddyfarnwyd y tu allan i Gymru neu Loegr. Edrychwch ar ein hadranCwestiynau cyffredin i weld rhagor o wybodaeth. 

Efallai y bydd gan rai heddluoedd ofynion mynediad ychwanegol, yn dibynnu ar y llwybr mynediad y byddwch yn ei gymryd i ymuno â'r heddlu. Gallwch chi edrych ar y tudalennau recriwtio ar wefan eich llu dewisol am fanylion llawn.

Image description
Peter Kotlar smiling to camera

Keep in touch

I gael gwybod rhagor neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf, gallwch:

Dilynwch ni ar:

Barod i ymgeisio?

Mae lluoedd ar draws Cymru a Lloegr yn recriwtio ar hyn o bryd.

Gweld pa luoedd sy'n recriwtio