Cydlynydd Personau ar Goll

Pan fyddwch chi'n ymuno â'r heddlu, bydd angen i chi gwblhau cyfnod prawf o ddwy neu dair blynedd fel cwnstabl heddlu. Mae hyn yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn eich gyrfa. Ar ôl hynny, gallwch chi symud i amrywiaeth eang o rolau cyffrous, megis Cydlynydd Personau ar Goll.

Bob 90 eiliad, mae rhywun yn y DU yn cael ei adrodd ar goll a gall fod yn hunllef waethaf i deulu. Gyda phroblem o’r maint a’r cymhlethdod hwn, mae rôl Cydlynydd Personau Ar Goll yn hanfodol i sicrhau bod lluoedd yn ymateb yn effeithiol i’r heriau o ymdrin â phobl ar goll. Mae'r rhai sy'n gweithio yn y rôl hon yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth amserol i'r swyddogion heddlu gweithredol ac asiantaethau partner sy'n ceisio dod o hyd i bobl ar goll, yn ogystal â nodi cyfleoedd diogelu i bobl agored i niwed.

I fod yn Gydlynydd Personau ar Goll llwyddiannus, mae angen i chi fod yn feddyliwr rhesymegol sy'n deall sut i gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd angen i chi hefyd fod yn chwaraewr tîm llawn cymhelliant a threfnus gyda llygad craff am fanylion.

Dyma ychydig mwy am yr hyn y mae bod yn Gydlynydd Pobl Ar Goll yn ei olygu:

  • Byddwch chi'n rhannu gwybodaeth mewn cyfarfodydd gweithredol, gan gynnwys cyfarfodydd proffesiynol a strategaeth gydag asiantaethau partner.
  • Byddwch chi'n adolygu adroddiadau agored o bersonau ar goll i nodi camau gweithredu a chynllun ymchwilio cadarn i ddod o hyd i’r person coll cyn gynted â phosibl.
  • Byddwch chi'n nodi ac yn gwerthuso adroddiadau am bersonau coll dro ar ôl tro, gan weithio gydag asiantaethau partner i nodi ymyriadau a fyddai’n lleihau amlder yr adroddiadau bod y person hwnnw ar goll.
  • Byddwch chi'n adolygu pob nodyn cyfweliad dychwelyd i nodi gwybodaeth neu gudd-wybodaeth newydd ac unrhyw ddatgeliadau a wneir.
  • Byddwch yn delio ag adroddiadau hanesyddol am bersonau coll er mwyn nodi unrhyw wybodaeth neu gudd-wybodaeth newydd a allai fod o gymorth gyda thrywyddau ymholi a fydd yn y pen draw yn helpu i ddod o hyd i’r person coll.
  • Byddwch chi'n meithrin cydberthnasoedd cryf â darparwyr gofal i ddatblygu a chynnal y darlun diweddaraf o'r bobl sydd wedi'u lleoli yn y lleoliad gofal, rhannu gwybodaeth a'u cefnogi i ddatblygu strategaethau diogelu effeithiol ar gyfer pobl agored i niwed.
  • Byddwch chi'n gweithio o fewn yr holl fframweithiau cyfreithiol, egwyddorion gwaith allweddol, polisïau a chanllawiau i sicrhau bod gwybodaeth a chudd-wybodaeth yn cael eu trin a’u prosesu’n gyfreithiol.
  • Byddwch chi'n ymwybodol o, ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith arloesi ym maes personau ar goll, gan roi cyngor arbenigol i gydweithwyr a phartneriaid, a gweithredu'r technegau a'r tactegau diweddaraf i helpu i ddod o hyd i bobl a'u haduno â'u hanwyliaid.

Dyma un ffordd yn unig y gallai eich gyrfa heddlu fynd â chi ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus. Dysgu rhagor am ddilyniant gyrfa.