Plismona Ffyrdd

Ar ôl i chi gwblhau'ch cyfnod prawf ar y rheng flaen, gall eich gyrfa symud ymlaen i amrywiaeth eang o gyfeiriadau. Un o'r cyfeiriadau hynny yw plismona ffyrdd.

Pwrpas y rôl

Heddlu'r ffyrdd – y cyfeirir atynt weithiau fel ‘heddlu traffig’ – sy’n gyfrifol am blismona ffyrdd y genedl. Fel swyddog heddlu'r ffyrdd, byddwch yn cyflawni amrywiaeth eang o rolau sy'n anelu at atal anafiadau a cholledion bywyd ar y ffyrdd.

Dyma ychydig rhagor am yr hyn y mae plismona'r ffyrdd yn ei olygu:

  • Byddwch yn darparu presenoldeb amlwg ar y ffyrdd i atal troseddu, tawelu meddwl y gymuned a lleihau ofn troseddu.
  • Byddwch yn mynychu a rheoli lleoliadau digwyddiadau sy'n ymwneud â'r ffyrdd, gan gynnwys y rhai a allai fod yn ddifrifol, yn angheuol ac yn newid bywyd.
  • Byddwch yn cyflwyno mentrau addysg i hybu diogelwch ar y ffyrdd yn y gymuned.
  • Byddwch yn gyrru cerbydau patrôl yr heddlu, gan ddefnyddio sgiliau gyrru arbenigol lle bo angen i ddod â cherbydau eraill i stop.
  • Byddwch yn siarad ag ac yn cefnogi dioddefwyr, tystion a phobl dan amheuaeth sy'n ymwneud â digwyddiadau ffordd ac yn casglu gwybodaeth a allai arwain at erlyniad.

Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil iawn, sy'n gofyn am sgiliau gyrru arbenigol yn ogystal â'r gallu i ymateb yn gyflym ac yn ddigynnwrf mewn argyfyngau. Byddwch yn derbyn yr holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch.

Mae'r rôl yn addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau pobl rhagorol, gan y byddwch yn ymgysylltu â chymunedau, yn cefnogi dioddefwyr ac yn delio â throseddwyr. Byddwch chi allan ar y rheng flaen bob dydd, felly bydd gennych rôl hanfodol i’w chwarae wrth gynrychioli’r heddlu yn eich ardal leol.