Plismona Gwrthderfysgaeth

Gyda'r bygythiad terfysgol parhaus, ni fu erioed amser pwysicach i weithio ochr yn ochr â rhai o'r goreuon a'r mwyaf disglair i helpu i gadw pobl yn ddiogel rhag terfysgaeth. 

Nid yw gyrfa mewn Plismona Gwrthderfysgaeth (Plismona CT) yn debyg i unrhyw un arall. Mae pob diwrnod yn cynnig amrywiaeth o heriau cyffrous a chyfleoedd eithriadol ar lwyfan rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. 

Ag amrywiaeth o rolau ar draws y DU, ni fydd arnoch angen cefndir mewn diogelwch bob amser i chwarae rhan wrth gadw’r DU yn ddiogel. Efallai y bydd cyfleoedd CT o fewn eich heddlu presennol hefyd.

Mae Plismona CT bob amser yn gweithio i adeiladu ar ei weithlu amrywiol i adlewyrchu’r wlad rydym yn ei gwasanaethu, felly byddwch yn mwynhau amgylchedd gwaith amrywiol a boddhaus. Ag amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu, fe welwch amrywiaeth o lwybrau gyrfa cyffrous yn aros amdanoch. 

Mae’r rhwydwaith CT yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

  • Atal – atal pobl fregus rhag cael eu denu i eithafiaeth.
  • Paratoi – paratoi i ymateb i ymosodiadau terfysgol a lleihau'r effaith a gânt.
  • Amddiffyn – amddiffyn y cyhoedd a lleoedd rhag ymosodiadau terfysgol.
  • Mynd ar ôl – olrhain a dal terfysgwyr a helpu i ddod â nhw o flaen eu gwell. 

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae hyn yn cynnwys llawer o rolau a chyfrifoldebau amrywiol a chyffrous o fewn Plismona Gwrthderfysgaeth. Er enghraifft:

  • Mae swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid ymhlith awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol i gefnogi ac amddiffyn pobl agored i niwed. 
  • Mae swyddogion arbenigol yn gweithio gyda busnesau i’w helpu i ddiogelu eu hadeiladau, staff a chwsmeriaid, yn ogystal â sicrhau eu bod mor barod ag y gallant fod os bydd ymosodiad yn digwydd, fel bod yr effaith yn cael ei lleihau.
  • Mae ditectifs CT yn ymwneud â rhai o'r ymchwiliadau mwyaf proffil uchel ym maes plismona, yn amrywio o ymchwilio i unigolion ar eu hunain sy'n cynllunio ymosodiad i gynllwyniau rhyngwladol soffistigedig ar raddfa fawr. 
  • Mae swyddogion sydd wedi’u lleoli ar draws y byd yn cysylltu â’n partneriaid rhyngwladol i helpu i ddiogelu buddiannau a dinasyddion y DU dramor, rhannu gwybodaeth hanfodol, amddiffyn ein ffiniau a chefnogi ymchwiliadau CT. 
  • O fewn y rhwydwaith, mae swyddogion sy'n arbenigo mewn brwydro yn erbyn digwyddiadau cemegol, digwyddiadau arfau tanio, terfysgwyr yn defnyddio cerbydau fel arfau, radicaleiddio pobl fregus - mae'r rhestr yn ddiddiwedd ac mae llawer yn ystyried y rhai sy'n gweithio ynddi fel y rhai gorau yn y byd.
  • Mae staff CT yn darparu ystod o swyddogaethau cefnogol gan gynnwys data a dadansoddi, TGCh, cyfathrebu, rhaglenni newid, cyllid a llawer mwy.

Mae Plismona CT yn gweithio'n galed i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar lle mae ei holl bobl yn teimlo ymdeimlad cryf o berthyn ac yn gallu cyrraedd eu llawn botensial. Mae diwylliant cynhwysol yn eu galluogi i wneud pethau’n wahanol, gan weithio mewn ffyrdd sy’n diwallu anghenion unigolion, gan ystwytho patrymau gwaith i sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith fel y gallant gyflawni’r gorau i’r sefydliad. 

Mae rhai o'r rolau CT yn golygu y bydd gennych fynediad at y deunydd mwyaf sensitif bob dydd, a fydd yn gofyn am fetio diogelwch ac mae'n rhan o'r broses recriwtio CT. Sylwch y gall hyn weithiau gymryd hyd at chwe mis neu fwy. Mae gwybodaeth a chanllawiau ar gael i gefnogi ymgeiswyr yn ystod y broses fetio.

Dysgwch sut y gallwch chi chwarae eich rhan i gadw'r wlad yn ddiogel rhag terfysgaeth. Gwnewch rywbeth anhygoel gyda'ch sgiliau. Ewch i Wefan Gyrfaoedd Plismona Gwrthderfysgaeth i ddechrau'ch gyrfa heddiw.

Mae Plismona Gwrthderfysgaeth yn un ffordd yn unig y gallai'ch gyrfa fynd â chi. Archwiliwch rolau eraill y gallech symud ymlaen iddynt.


Y tu ôl i'r llenni ym maes plismona Gwrthderfysgaeth

Am gael syniad o sut beth yw gweithio ym maes Plismona Gwrthderfysgaeth? I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, siaradodd Plismona Gwrthderfysgaeth â dwy o'u staff benywaidd i gael eu barn.