Rhingyll

Mae angen i bob recriwt heddlu gwblhau cyfnod prawf o 2-3 blynedd ar y rheng flaen. Ond ar ôl eich cyfnod prawf, mae amrywiaeth enfawr o wahanol swyddi y gallech symud ymlaen iddynt, gan gynnwys rôl Rhingyll.

Pwrpas y rôl

Rôl Rhingyll yw'r lefel gyntaf o reolaeth ym maes plismona. Byddwch yn gyfrifol am dîm o gwnstabliaid, yn ymarfer goruchwyliaeth gyffredinol a thechnegol o ddydd i ddydd ac yn darparu cymorth i'ch tîm.

Dyma ychydig rhagor am yr hyn y mae bod yn Ringyll yn ei olygu:

  • Byddwch yn goruchwylio tîm, gan ddarparu arweinyddiaeth a chadw cymhelliant yn uchel i sicrhau plismona effeithiol ar y rheng flaen. 
  • Byddwch yn rheoli datblygiad eich tîm ac yn gyfrifol am sicrhau eu llesiant a’u lles. 
  • Byddwch yn monitro ac yn rheoli perfformiad eich tîm, gan ddatblygu strategaethau effeithiol i nodi unrhyw faterion a gwella perfformiad unigolion a thîm.
  • Byddwch yn cefnogi'ch tîm trwy brosesau asesu ac yn dyfeisio cynlluniau datblygu fel y gallant berfformio ar eu gorau a symud ymlaen yn eu gyrfa. 
  • Byddwch yn cydlynu ac yn rheoli ymatebion ac ymchwiliadau rheng flaen, gan ddyrannu adnoddau, cyfarwyddo gweithgareddau, rheoli risg ac adolygu cynnydd ymchwiliadau.  
  • Byddwch yn monitro’r ffordd yr ymdrinnir â gwybodaeth, cudd-wybodaeth, tystiolaeth a chadw cofnodion, gan sicrhau cysondeb â deddfwriaeth i alluogi gorfodi’r gyfraith ac achosion cyfiawnder troseddol effeithiol. 
  • Byddwch yn sicrhau bod eich tîm yn bodloni’r holl safonau proffesiynol a bod yr holl ymatebion yn cael eu cyflwyno o fewn polisïau a deddfwriaeth briodol er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl. 
  • Byddwch yn cefnogi’r adolygiad ac adrodd ar wariant tîm i sicrhau defnydd effeithlon o gyllidebau a sicrhau’r gwerth gorau am arian.

Y sgiliau sydd eu hangen ar bob Rhingyll

  • Sgiliau cyfathrebu cryf a'r gallu i addasu sut rydych chi'n cyfathrebu i weddu i anghenion gwahanol bobl a chynulleidfaoedd. 
  • Sgiliau blaengynllunio a threfnu da er mwyn i chi allu dyrannu gwaith yn briodol ar draws eich tîm.
  • Y gallu i fod yn wrthrychol wrth asesu eich perfformiad eich hun a pherfformiad eich tîm. 
  • Sgiliau datrys problemau da sy'n eich galluogi i nodi achos ac effaith unrhyw fater a sut i fynd i'r afael ag ef. 

Yn y pen draw, eich rôl yw darparu'r math o arweinyddiaeth sy'n galluogi'ch tîm i gydweithio'n dda a chyflawni amcanion eich llu. Mae angen i chi allu ysbrydoli'ch tîm i berfformio ar eu gorau, tra'n cynnig cymorth i'r rhai sydd ei angen. Rydych chi yno i reoli ond hefyd i fentora a helpu aelodau'ch tîm i gyflawni eu nodau yn eu gyrfa blismona. Ond peidiwch â phoeni - byddwch yn cael yr holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch i berfformio'n dda ar lefel Rhingyll. 

Dyma un ffordd yn unig y gallai'ch gyrfa heddlu fynd â chi ar ôl cwblhau'ch cyfnod prawf yn llwyddiannus. Dysgu rhagor amddilyniant gyrfa.