Swyddog Cudd-wybodaeth

Mae pob recriwt heddlu yn cwblhau cyfnod prawf o ddwy neu dair blynedd fel Cwnstabl Heddlu cyffredinol. Mae hyn yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddatblygu'ch gyrfa. Ar ôl hynny, bydd gennych yr opsiwn i symud i amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys un fel Swyddog Cudd-wybodaeth.

Mae plismona'n cael ei arwain gan gudd-wybodaeth, felly byddwch yn rhan annatod o ymchwiliadau a datblygu cudd-wybodaeth. Eich cyfrifoldeb chi yw defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau i gefnogi ymchwiliadau troseddau lleol a chenedlaethol. Gellir ei chasglu oddi wrth aelodau o'r cyhoedd, dioddefwyr, tystion, pobl dan amheuaeth, ffynonellau cymunedol a gweithwyr cudd-wybodaeth heddlu arbenigol i greu darlun o weithgarwch troseddol.

I fod yn Swyddog Cudd-wybodaeth llwyddiannus, mae angen i chi fod yn ddatryswr problemau da gyda sylw craff i fanylion. Mae angen i chi, felly, fod yn unigolyn uchel ei gymhelliant, a rhaid gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm.

Dyma ychydig mwy am yr hyn y mae bod yn Swyddog Cudd-wybodaeth yn ei olygu:

  • Byddwch chi'n gyfrifol am dderbyn, asesu a phrosesu gwybodaeth ar y system gudd-wybodaeth.
  • Byddwch chi'n casglu, ymchwilio a gwerthuso gwybodaeth i nodi bylchau a phatrymau.
  • Byddwch chi'n paratoi ac yn cyflwyno gwybodaeth i lywio'r broses o wneud penderfyniadau yn glir ac yn gywir ac yn rhoi cyngor ar opsiynau tactegol.
  • Byddwch chi'n sefydlu ac yn cynnal rhwydweithiau gyda phartneriaid mewnol a/neu allanol ar bob lefel.
  • Byddwch chi'n gweithio o fewn yr holl fframweithiau cyfreithiol, egwyddorion gwaith allweddol, polisïau a chanllawiau i sicrhau bod gwybodaeth a chudd-wybodaeth yn cael eu trin a'u prosesu'n gyfreithiol.
  • Byddwch chi'n cadw'n ymwybodol o arloesi ym maes cudd-wybodaeth ac yn gweithredu'r technegau a'r tactegau diweddaraf.

Dyma un ffordd yn unig y gallai'ch gyrfa heddlu fynd â chi ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus. Dysgurhagor am ddilyniant gyrfa.

“Does dim rhaid i chi fynd i mewn yno fel pecyn parod. Meddyliwch pwy ydych chi, pa sgiliau sydd gennych chi eisoes y gallech chi eu trosglwyddo i blismona.”

Dechreuodd Rachel Kibblewhite ei gyrfa ym maes cyfrifeg. Daeth hi â’i hangerdd am rifau, meddwl chwilfrydig a sgiliau cyfathrebu cryf i’w rôl bresennol fel uwch ddadansoddwr cudd-wybodaeth gyda Heddlu Swydd Gaer. Gwyliwch hi'n siarad am ei rôl a sut y cyrhaeddodd hi yno.