Swyddog Ymateb

Rhaid i bob recriwt heddlu gwblhau cyfnod prawf o 2 flynedd ar y rheng flaen. Ond ar ôl eich cyfnod prawf, mae amrywiaeth enfawr o wahanol swyddi y gallech symud ymlaen iddynt, gan gynnwys rôl swyddog ymateb.

Pwrpas y rôl

Fel swyddog ymateb, rydych yn darparu ymateb rheng flaen i ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys sefyllfaoedd cymhleth ac weithiau gwrthdrawiadol. Dyma ychydig rhagor am yr hyn y mae bod yn swyddog ymateb yn ei olygu.

  • Chi fydd y cyntaf i ymateb i ddigwyddiadau mewn modd priodol, proffesiynol ac amserol. Mae'n debygol y bydd eich hyfforddiant yn cynnwys datblygu sgiliau gyrru uwch er mwyn i chi allu cyrraedd digwyddiadau'n gyflym.
  • Bydd angen i chi gymryd rheolaeth gychwynnol yn gyflym (ac mewn rhai achosion, o bosibl ddefnyddio cymorth cyntaf), ac yna diweddaru a chysylltu ag uwch gydweithwyr ac asiantaethau eraill megis y gwasanaeth tân ac ambiwlans.
  • Bydd angen i chi asesu unrhyw fygythiadau uniongyrchol neu risg o niwed a phenderfynu’n gyflym ar yr ymateb gorau a fydd yn eich cadw chi, pobl eraill ac eiddo yn ddiogel, cadw trefn, atal troseddau rhag cael eu cyflawni a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
  • Bydd angen i chi gynnal ymchwiliadau effeithiol, sy'n cynnwys pennu pa mor arwyddocaol yw gwybodaeth a thystiolaeth i ymholiad.
  • Byddwch yn coladu ac yn cofnodi gwybodaeth, cudd-wybodaeth a thystiolaeth a gesglir, gan gofnodi troseddau a digwyddiadau yn unol â safonau cenedlaethol, er mwyn sicrhau y gall ymchwiliadau fynd rhagddynt yn brydlon ac yn effeithiol.

Rhan allweddol o'r swydd fydd delio â dioddefwyr, tystion a phobl dan amheuaeth - gallant fod yn agored i niwed, yn gyfnewidiol neu'r ddau. Felly mae sgiliau cyfathrebu gwych a’r gallu i ddarllen pobl ac addasu eich arddull cyfathrebu fel y byddant yn ymgysylltu â chi yn bwysig iawn. Ond peidiwch â phoeni, byddwch yn derbyn yr holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch i'ch helpu yn eich rôl.

Ac oherwydd eich bod yn gweithio ar y rheng flaen, rydych yn allweddol i dyfu a chynnal canfyddiadau cadarnhaol o wasanaeth yr heddlu.

Mae plismona ymateb yn un ffordd yn unig y gallai eich gyrfa heddlu fynd â chi ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus. Dysgu rhagor am ddilyniant gyrfa.