Heddlu ar Geffylau

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus ar y rheng flaen, mae gwneud cais i fod yn gwnstabl ar geffylau yn un ffordd yn unig y gallai eich gyrfa fynd. A chredwch neu beidio, does dim rhaid i chi fod yn farchog arbenigol i wneud cais - byddwch chi'n cael yr holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch chi. Dyma beth mae bod yn rhan o uned heddlu ar geffylau yn ei olygu:

  • Byddwch chi'n patrolio cymunedau, gan ymateb i ddigwyddiadau proffil uchel neu adroddiadau am lefelau uchel o weithgarwch troseddol.
  • Byddwch chi yno i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned, rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a chefnogi atal a chanfod troseddu.
  • Rhan allweddol o'ch rôl fydd plismona digwyddiadau cyhoeddus megis gemau pêl-droed mawr, ac ymateb i risgiau, bygythiadau a digwyddiadau.
  • Byddwch chi'n casglu ac yn trin gwybodaeth, cudd-wybodaeth a thystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
  • Bydd gofyn i chi reoli gwrthdaro trwy gymryd yr awenau lle bo’n briodol, gan ystyried diogelwch personol a chyhoeddus, yn ogystal â lles eich ceffyl – gan sicrhau bod sefyllfaoedd yn cael eu trin mewn modd diogel a chymesur.
  • Byddwch chi'n mwynhau'r fraint o weithio y tu allan llawer, allan ar y stryd yn rhyngweithio ag aelodau o'r cyhoedd, busnesau lleol a phartneriaid.

Gan y byddwch chi'n darparu presenoldeb heddlu amlwg iawn ar y stryd, bydd angen i chi allu mynd o dan groen y cymunedau rydych chi'n eu plismona, deall eu cyfansoddiad cymdeithasol, anghenion y bobl leol fwyaf agored i niwed a materion diogelwch lleol allweddol. Bydd angen i chi hefyd allu gweithredu gyda disgresiwna deallusrwydd emosiynol fel y gallwch dawelu neu reoli sefyllfaoedd dirdynnol neu anodd.

Dyma un ffordd yn unig y gallai eich gyrfa heddlu fynd â chi ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus. Dysgu rhagor am ddilyniant gyrfa.