Swyddog Cyswllt â Theuluoedd

Ar ôl i chi gwblhau eich cyfnod prawf dwy flynedd yn llwyddiannus, gallwch ddewis parhau â’ch gyrfa ym maes plismona cymunedol neu wneud cais i ymuno ag un o nifer o unedau arbenigol. Os oes gennych chi sgiliau pobl rhagorol ynghyd â meddwl chwilfrydig, gallai dod yn Swyddog Cyswllt â Theuluoedd (FLO) fod yn llwybr gyrfa gwych i chi.

Pwrpas y rôl

Mae Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu llif dwy ffordd o wybodaeth rhwng teuluoedd mewn profedigaeth a thimau ymchwilio. Maent fel arfer yn cael eu neilltuo i ddigwyddiadau megis damweiniau angheuol, llofruddiaethau neu farwolaethau anesboniadwy, neu drychinebau sy'n cynnwys marwolaethau lluosog.

Rôl FLO yw cefnogi’r teulu trwy ymchwiliad yr heddlu, i ateb eu cwestiynau ac i gasglu gwybodaeth bwysig am y person sydd wedi marw fel rhan o’r ymchwiliad. Mae angen iddynt allu gwneud hynny'n sensitif ac yn dosturiol, ac yn unol â'r Ddeddf Gweithdrefnau ac Ymchwiliadau Troseddol (CPIA) er mwyn cynnal uniondeb yr ymchwiliad.

Sut mae FLOs yn cefnogi teuluoedd

  • Maent yn gweithredu fel pwynt cyswllt unigol rhwng timau ymchwilio a theuluoedd ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gynnydd.
  • Maent yn helpu i arwain teuluoedd drwy'r system a gweithdrefnau cyfiawnder troseddol, a all fod yn gymhleth weithiau.
  • Maent yn gwneud yn siŵr bod teuluoedd yn gwybod pa gymorth arall sydd ar gael mewn mannau eraill i’w helpu i ddelio â’r trawma y maent yn ei wynebu, e.e. Cymorth i Ddioddefwyr.

I fod yn FLO, bydd arnoch angen:

  • Sgiliau cyfathrebu cryf - mae gallu gwrando ac empatheiddio yn helpu i feithrin ymddiriedaeth yn gyflym gyda'r teuluoedd. Bydd angen i chi hefyd allu addasu'r ffordd rydych chi'n cyfathrebu i ddiwallu anghenion y gwahanol bobl.
  • Gallu dadansoddi problemau cymhleth a darganfod y camau priodol i'w cymryd yn ystod ymchwiliad.
  • Gallu nodi unrhyw faterion a risgiau allweddol sy'n effeithio ar gyswllt â theuluoedd.
  • Meddu ar – neu ddatblygu – sgiliau yn y defnydd o becynnau meddalwedd a systemau amrywiol.
  • Bod yn ymwybodol o'r arferion gorau diweddaraf ar ddelio â phobl agored i niwed a meddu ar wybodaeth ymarferol dda o'r gwasanaethau cymorth arbenigol sydd ar gael.

Mae dod yn FLO yn un ffordd yn unig y gallai eich gyrfa fynd â chi ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus. Dysgu rhagor am ddilyniant gyrfa.