Beth sydd dan sylw â'r ffurflen gais?

Bydd angen i chi ofyn am ffurflen gais gan eich llu dewisol - fe welwch fanylion ar eu gwefan Fel arfer, bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi am:

  • Eich manylion personol (megis enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad)
  • Unrhyw euogfarnau
  • Eich sefyllfa ariannol ac unrhyw fuddiannau busnes
  • Unrhyw datŵs sydd gennych

Mae rhai lluoedd yn cynnwys rhai cwestiynau ynghylch cymhwysedd a / neu werthoedd yn eu ffurflen gais - dysgwch ragor am Fframwaith Cymhwysedd a Gwerthoedd y Coleg Plismonai'ch helpu i baratoi.

Mae lluoedd recriwtio am ddod i'ch adnabod chi, nid dim ond eich gwybodaeth bersonol. Os ydynt yn gofyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwysleisio'r rhinweddau cadarnhaol a'r sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu cyflwyno i'r rôl. Meddyliwch am eich cymhellion y tu ôl i wneud cais i'r llu rydych chi wedi'i ddewis a'r gwahaniaeth y gallwch ei wneud i'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

I weld rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae llu yn chwilio amdano mewn swyddog heddlu a'u meini prawf cymhwysedd, edrychwch ar wefan y llu. 

Yn ôl i: Sut i wneud cais

Read next: The sift

Or go back to: Get ready to apply