Cwestiynau cyffredin

Isod fe welwch chi restr o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn amlaf am ddod yn swyddog heddlu. Gallwch chi hidlo’r rhain trwy roi tic yn y blychau isod.

Meini prawf cymhwysedd

A oes angen gradd arnaf cyn i mi wneud cais?

Nac oes, nid oes angen gradd arnoch cyn i chi wneud cais, ond unwaith y byddwch wedi cwblhau'ch hyfforddiant yn llwyddiannus, byddwch yn cael gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol.

Mae prentisiaeth gradd cwnstabliaid yr heddlu (PCDA) yn llwybr prentisiaeth ar gyfer pobl nad oes ganddynt radd eisoes. Mae hwn yn gwrs 3 blynedd, gyda dysgu galwedigaethol yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i ddod yn swyddog heddlu?

Y gofyniad addysg lleiaf ar gyfer ymuno â'r heddlu yw Cymhwyster Lefel 3. Diffinnir hyn fel dwy Lefel A, ond mae cymwysterau eraill sy’n gyfwerth yn enwedig os oes gennych gymhwyster a ddyfarnwyd y tu allan i Gymru neu Loegr, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hynyma.

Mae’n bosibl y bydd gan rai luoedd ofynion mynediad ychwanegol, yn dibynnu ar y llwybr mynediad y byddwch yn ei gymryd i ymuno â’r heddlu, a dylech bob amser wirio’r tudalennau recriwtio ar wefan eich llu dewisol am fanylion llawn.

A yw'r meini prawf cymhwysedd yr un fath ar draws yr holl heddluoedd?

Mae rhai meini prawf cymhwysedd sy’n gyson yn genedlaethol y bydd angen i chi eu bodloni er mwyn gwneud cais (yn ymwneud yn bennaf ag oedran, cenedligrwydd, cofnodion troseddol a chyllid, yn ogystal â’r broses ar gyfer profion meddygol, fetio a ffitrwydd). Gallwch archwilio’r meini prawf cenedlaethol yma:Gwiriad cymhwysedd sylfaenol  Fodd bynnag, mae heddluoedd hefyd yn cael defnyddio eu meini prawf lleol eu hunain yn ogystal â’r agweddau cymhwysedd cenedlaethol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar wefan eich llu dewisol am restr lawn o feini prawf y rôl.

Mae gen i gollfarn droseddol ar fy nghofnod. A yw hyn yn fy atal rhag gwneud cais?

Mae nifer o ffactorau i’w hystyried yma (er enghraifft, difrifoldeb y gollfarn, a pha mor bell yn ôl) felly nid oes ateb cyffredinol i hyn. Ein harweiniad gorau yw siarad â'r llu(oedd) rydych yn dymuno gwneud cais iddynt, i gael eu cyngor. Po fwyaf y gallwch fod yn agored ac yn onest am unrhyw hanes a allai fod gennych, y gorau a mwyaf cywir fydd y cyngor gan y llu.

A oes angen trwydded yrru arnaf?

Bydd p'un a yw hyn yn hanfodol neu'n ddymunol yn amrywio yn ôl y llu. Gwiriwch gyda’r llu(oedd) rydych yn gwneud cais iddynt os nad oes gennych drwydded ar hyn o bryd.

Rwy’n ddinesydd yr UE neu’r AEE (UE Norwy, Liechtenstein a Norwy) neu’n unigolyn y tu allan i’r UE sy’n dymuno gwneud cais. Ydw i'n gallu gwneud hynny?

Ydych ar hyn o bryd, ar yr amod nad oes gennych unrhyw gyfyngiadau ar eich hawl i fyw a gweithio yn y DU. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr sydd wedi byw dramor fod wedi byw yn y DU am dair blynedd. Mae hyn oherwydd yr heriau a wynebir yn aml wrth gael gwiriadau fetio digonol o dramor ac mae angen i ni sicrhau bod rhaid i bob ymgeisydd gael ei fetio i'r un safon cyn penodi. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gwiriwch gyda'ch llu(oedd) dewisol.

Rwyf wedi byw/teithio dramor yn ddiweddar. A fydd hyn yn effeithio ar fy ngallu i wneud cais?

Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a dylid ei drafod gyda'r llu(oedd) a ddewisir. Yn gyffredinol, ystyrir bod unigolyn sy’n teithio dramor ar flwyddyn i ffwrdd neu rywbeth tebyg ar wyliau estynedig ac felly wedi cynnal preswyliad yn y DU. Yn ogystal, os yw’r ymgeisydd fetio wedi bod yn byw y tu allan i’r DU tra’n gwasanaethu gyda’r lluoedd arfog neu ar wasanaeth y llywodraeth, caiff ei ddosbarthu fel rhywun sy’n byw yn y DU.

Beth yw’r isafswm oedran y gallaf wneud cais arno?

Gallwch nawr wneud cais i ymuno â gwasanaeth yr heddlu yn 17 oed, er y bydd angen i chi aros nes eich bod yn 18 cyn y gallwch ddod yn swyddog heddlu yn swyddogol. Edrychwch ar ymeini prawf cymhwysedd sylfaenol eraill y mae angen i chi eu bodloni.

Y broses ymgeisio

Sut mae gwneud cais?

I wneud cais i ddod yn swyddog heddlu, rhaid i chi ddewis y llu(oedd) rydych am wneud cais iddynt, gan fod y 43 o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn recriwtio'n uniongyrchol. Gweld pa luoedd sy'n recriwtio ar hyn o bryd.

Beth yw'r llwybrau i ymuno â'r heddlu?

Mae nifer o wahanol lwybrau mynediad i blismona, yn dibynnu ar eich hanes addysgol a chyflogaeth. Archwilio ffyrdd i faes plismona.

A oes llwybrau penodol ar gyfer cyn-bersonél milwrol?

Ar hyn o bryd, nid oes llwybr cenedlaethol penodol i gyn-bersonél milwrol ymuno â gwasanaeth yr heddlu. Byddai angen i chi wneud cais yn yr un ffordd ag aelod rheolaidd o'r cyhoedd. Fodd bynnag, mae rhai lluoedd yn dechrau cynnig llwybrau penodol yn eu hardal leol, felly mae’n werth edrych ar wefan y llu(oedd) o’ch dewis am fanylion.

Beth mae'r ganolfan asesu yn ei olygu?

Os ydych am ymuno â gwasanaeth yr heddlu, rhaid i chi fod yn llwyddiannus mewn nifer o gamau recriwtio – un o'r rhain yw'r ganolfan asesu. Mae'r ganolfan asesu fel arfer yn digwydd dros gyfnod o ddiwrnod a gofynnir i chi gyflawni nifer o weithgareddau a thasgau a arsylwir i brofi meysydd allweddol o gymhwysedd. Pan fyddwch yn cael eich neilltuo i ganolfan asesu, byddwch yn cael gwybodaeth gan eich llu am yr hyn i'w ddisgwyl a sut i baratoi. Oherwydd COVID-19, mae rhai lluoedd yn rhedeg canolfannau asesu ar-lein, os byddwch chi'n cyrraedd y cam hwn, bydd y llu rydych yn gwneud cais iddo'n rhannu rhagor o wybodaeth am hyn. Dysgu rhagor am y broses ymgeisio.

Faint o amser mae'r broses recriwtio yn ei gymryd?

Gall amseroedd recriwtio amrywio yn ôl llu, felly mae’n werth gwirio pan ydych yn gwneud cais beth yw’r amserlenni disgwyliedig. Mewn llawer o achosion bydd yn cymryd tua 4-6 mis, ond gall fod yn llai neu’n fwy na hynny yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr ar unrhyw adeg benodol a sut mae unigolion yn symud ymlaen drwy’r camau amrywiol.

Pryd fydd fy llu dewisol ar agor eto ar gyfer recriwtio?

Os nad yw'ch llu dewisol yn recriwtio, gwiriwch yn ôl yn fuan, neu gallwch ddod o hyd i luoedd eraill yn eich ardal gyda'r chwiliad cod post. Edrych ar ba luoedd sy'n recriwtio ar hyn o bryd.

Gwirfoddoli

Ydy’r heddlu’n cynnig unrhyw gyfleoedd interniaeth neu brofiad gwaith er mwyn i mi allu gweld sut brofiad yw hi cyn i mi wneud cais?

Mae rhai lluoedd yn cynnig interniaethau neu gyfleoedd profiad gwaith. Byddai angen i chi ddewis llu(oedd) a gwirio eu tudalennau gyrfaoedd ar eu gwefan am ragor o wybodaeth. Dysgu rhagor am wirfoddoli.

Sut gallaf wirfoddoli i'r heddlu?

Mae pob un o’r heddluoedd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol o ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol i wirfoddoli fel triniwr galwadau. Fel arfer, bydd ganddynt faes penodol o fewn eu tudalennau gyrfaoedd yn amlinellu'r opsiynau gwirfoddoli a sut i wneud cais. Os na allwch ddod o hyd i'r rhain, mae'n werth anfon e-bost at dîm recriwtio'r llu fel y gallant eich cyfeirio.

Sut alla i ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol?

I ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol, byddech yn gwneud cais i'r heddlu yn yr un ffordd fwy neu lai ag y byddech yn ei wneud am rôl cwnstabl cyflogedig. Bydd lluoedd yn hysbysebu pan fyddant ar agor ar gyfer ceisiadau i’r Cwnstabliaeth Gwirfoddol, gyda manylion ar sut i wneud cais. 

A allaf ymuno â'r gweithlu heddlu cyflogedig ar ôl dod yn Gwnstabl Gwirfoddol?

Gallwch, gallwch wneud cais i ddod yn gwnstabl cyflogedig ar ôl ymuno â'r Cwnstabliaeth Gwirfoddol. Bydd angen i chi wneud cais yn y ffordd arferol o hyd, fodd bynnag gall y broses amrywio yn ôl llu, felly holwch eich heddlu'n uniongyrchol. Bydd eich profiad a'ch ymrwymiad fel Cwnstabl Gwirfoddol yn cael eu gwerthfawrogi.

Rolau

A allaf ymuno mewn rôl heblaw am swyddog heddlu?

Oes. Ochr yn ochr â’n rolau swyddogion, mae amrywiaeth eang o rolau staff heddlu sy’n hanfodol i wasanaeth yr heddlu. Mae’r mathau o rolau y gallwch ddod o hyd iddynt yn amrywio’n fawr yn ôl heddlu felly byddai angen i chi ymweld â gwefan yr heddluoedd i ganfod pa rolau y maent yn eu cynnig a phryd maent ar agor ar gyfer recriwtio.

Sut alla i ddechrau gyrfa mewn gwaith fforensig?

Fel arfer mae cymwysterau penodol y bydd eu hangen arnoch i weithio yn y timau fforensig o fewn gwasanaeth yr heddlu. Unwaith y bydd gennych y cymwysterau perthnasol, bydd angen i chi ddewis llu(oedd) a gwirio eu gwefan am swyddi gwag.

Sut mae dod yn drafodwr cŵn?

Mae trafodwyr cŵn fel arfer yn ymuno â gwasanaeth yr heddlu fel cwnstabl ac yn dewis arbenigo ar ôl iddynt gwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus. Os ydych yn dymuno arbenigo yn y llwybr hwn (neu lwybr arall), siaradwch â'r llu yr hoffech ymuno ag ef am eich opsiynau.

Sut alla i ymuno â'r CID / fel ditectif?

Mae cyfran fawr o dditectifs yn dechrau drwy ymuno fel cwnstabl heddlu rheolaidd yn gyntaf, yna arbenigo ar ôl cwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae rhai lluoedd yn dechrau cynnig llwybrau uniongyrchol i ymuno fel ditectif heb fod angen gwasanaethu fel cwnstabl heddlu rheolaidd yn gyntaf. Yn yr un modd, mae Yr Heddlu Nawr has introduced wedi cyflwyno rhaglen ar gyfer graddedigion sy’n dymuno bod yn dditectifs. Edrychwch ar wefannau Yr Heddlu Nawr a lluoedd i gael rhagor o wybodaeth am y llwybrau hyn.

Diversity and inclusion

Is there racism in the police?

Racism sadly exists in policing as it does in society. We can now say that policing is more inclusive, more diverse, and more reflective of our communities than it has ever been. But it’s also true that racism, discrimination and bias do still occur.

All forces and the College of Policing have developed a new Police Race Action Plan to address the significantly lower levels of trust and confidence among some Black people and the race disparities affecting Black people. 

Read more about the Police Race Action Plan.

What is the police doing to address sexism?

Women are hugely valued in policing, with increased opportunities for personal development, career progression and flexible working. However, for too long everyday sexism has existed in policing, with some colleagues worried about speaking up as either a victim or a witness of sexist behaviour. 

We are determined to eradicate sexism and misogyny from policing. To do that, we’re using behavioural science to understand why it happens and what we can all do to stop it. By applying science to these issues, we're creating an evidence-based plan for change. It includes developing confidential reporting systems, ensuring that policies protect people who report sexism, and training to help supervisors spot issues early on.

Find out how we’re tackling sexism and misogyny in policing  

Are people with disabilities or neurodivergent conditions welcome?

Everyone is welcome in policing. There are tens of thousands of officers and staff with disabilities across UK forces. Many have progressed to senior positions. 

There are some conditions that will prevent you from becoming an operational police officer, but we have all kinds of roles in our forces, so see if you’re eligible and give it a go.

The police service does not accept any form of discrimination and is committed to protecting all its officers. If an officer with a disability is experiencing discrimination, the Disabled Police Association can provide support and advice.

Will I be able to practice my religion while on duty?

The on-call nature of policing means flexibility is sometimes required, UK police forces are committed to creating a diverse workforce that respects and accommodates the faith needs of officers wherever possible. If you’d like more information, there are also a number of support organisations you can contact, or feel free to get in touch with your preferred force directly.

Culture

Policing has a negative culture doesn’t it?

We acknowledge that in the past some officers have behaved in unacceptable ways and we’re working hard to change any culture where those attitudes or actions were allowed to occur. What we should also say is that thousands of dedicated, brave and committed police officers come to work every day to keep the public safe – and the majority of them are welcoming, supportive and inclusive of their peers.

We know we need to rebuild the public’s trust and improve perceptions of policing. We can and will do this through better performance, strong ethics and high standards.

Is there room for progression in policing?

There are plenty of opportunities for police officers to progress in different ways. Some officers want to try different teams, some want to specialise, some want to study and train for the next level up, some want to progress into leadership roles.

The police service supports everyone to develop their skills, pursue their career ambitions and reach their potential.

Ar ôl ymuno

A fydd rhaid i mi weithio sifftiau gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau?

Bydd, mae’n debygol y bydd adegau pan fydd eich angen ar gyfer gweithio sifftiau gyda’r nos a/neu ar benwythnosau. Siaradwch â’ch llu(oedd) dewisol os oes gennych gyfyngiad (er enghraifft, dyletswyddau gofalu) a allai eich atal rhag ymgymryd â sifftiau penodol, oherwydd efallai y byddant yn gallu trafod opsiynau eraill gyda chi.

A oes cyfnod prawf?

Oes. I'r rhai sy'n ymuno trwy'r llwybr mynediad traddodiadol neu'r llwybr deiliad gradd, mae hwn yn ddwy flynedd. I'r rhai sy'n ymuno trwy brentisiaeth cwnstabliaid heddlu, mae hwn trwy gydol cyfnod y brentisiaeth (tair blynedd). Ar gyfer pob llwybr mynediad, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion profiadol yn ystod eich cyfnod prawf er mwyn i chi ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr yn y gwaith a fydd yn ategu'ch dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Faint o amser cyn y gallaf arbenigo a / neu symud ymlaen?

Unwaith y byddwch wedi pasio'ch cyfnod prawf yn llwyddiannus, efallai y byddwch yn dewis dilyn arbenigedd (er enghraifft, CID, arfau tanio, trafod cŵn ac ati). Yn yr un modd, efallai y byddwch yn awyddus i wybod y camau a'r prosesau ar gyfer dyrchafiad yn y dyfodol. Siaradwch â'ch llu am eich dyheadau gyrfa fel y gallant eich cyfeirio at y llwybrau cywir yn y dyfodol.

Ble byddaf yn cael fy lleoli os byddaf yn ymuno â llu penodol sy'n gwasanaethu ardal fawr?

Bydd angen ystyried nifer o ffactorau wrth eich lleoli ar ddyletswyddau, yn arbennig anghenion gweithredol yr ardal. Fodd bynnag, gallwch drafod unrhyw gyfyngiadau sydd gennych gyda'ch llu a byddant yn gwneud yr hyn a allant i gefnogi anghenion unigol tra'n sicrhau bod gofynion gweithredol yn cael eu bodloni.

A fydd rhaid i mi wisgo iwnifform?

Bydd, mae pob cwnstabl yn gwisgo iwnifform er mwyn eu gwneud yn amlwg i'r cyhoedd - mae hyn yn helpu i dawelu meddwl y gymuned.

Buddion

Faint fydda i'n cael fy nhalu?

Gall lefelau cyflog cychwynnol cwnstabl heddlu newydd amrywio yn ôl ardal y llu, felly gwiriwch wefan eich llu(oedd) dewisol. Yn gyffredinol, mae cyflogau cychwynnol cwnstabliaid heddlu newydd rhwng £23,556 a £26,862 (pwynt cyflog 0 ac 1). Yn ogystal â dyfarniadau cyflog blynyddol, mae swyddogion heddlu nad ydynt wedi cyrraedd brig eu graddfa gyflog yn derbyn tâl cynyddrannol blynyddol o 2% o leiaf, ac yn aml 4-6%, yn dibynnu ar reng a phrofiad, yn amodol ar berfformiad boddhaol.

Yn ogystal â chyflog sylfaenol, mae swyddogion yn Llundain yn cael Pwysoliad Llundain o £2,697 a Lwfans Llundain o hyd at £5,338. Gall swyddogion yn Essex, Swydd Hertford, Caint, Surrey neu Ddyffryn Tafwys dderbyn lwfansau rhanbarthol o hyd at £3,000 y flwyddyn. Gall y rhai yn Swydd Bedford, Hampshire neu Sussex dderbyn lwfans rhanbarthol o hyd at £2,000 y flwyddyn.

Faint o wyliau blynyddol fydd gen i?

Mae canllawiau cenedlaethol yn nodi y byddwch yn dechrau ar o leiaf 22 diwrnod y flwyddyn, gan godi ar ôl 2 flynedd o wasanaeth i 25 diwrnod ac ar adegau cynyddrannol wedi hynny (hyd at uchafswm o 30 diwrnod). Gwiriwch gyda'ch llu dewisol am gadarnhad o lwfansau gwyliau blynyddol.

27

o 43

Llu heddlu yn recriwtio ar hyn o bryd

Ble gallaf i weithio?