Prif Arolygydd Stuart Bell

Os ydych chi'n credu y bydd eich ffydd yn eich helpu i ddangos mwy o dosturi, mae hon yn bendant yn yrfa i feddwl amdani.

Chief Inspector Stuart Bell smiling to camera.

Mae’r Prif Arolygydd Stuart Bell wedi bod yn yr heddlu ers ychydig dros 18 mlynedd, gan ddechrau fel cwnstabl a gweithio ei ffordd i fyny drwy’r rhengoedd. Fe fu hefyd yn arweinydd Cymdeithas Heddlu Cristnogol Dyfed-Powys am bum mlynedd. Yma mae’n siarad am ei brofiadau fel swyddog heddlu, ac yn cynnig ei gyngor i unrhyw un yn y gymuned Gristnogol sy’n ystyried gyrfa yn yr heddlu.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn swydog heddlu?

Rwy’n credu mai’r hen ystrydeb honno ydyw eich bod am wneud rhywbeth da. Mae'n golygu eisiau cael swydd lle, pan ydych chi'n rhoi'ch pen ar y gobennydd ar ddiwedd y dydd, rydych chi'n gwybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth gwerth chweil.

Sut deimlad yw gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl?

Fel gwasanaeth, rydyn ni’n aml mewn sefyllfaoedd lle rydych chi’n helpu pobl sy’n mynd trwy eu cyfnodau anoddaf. Dw i wedi argyhoeddi menyw i beidio â neidio oddi ar glogwyn, roeddwn i’n ymwbeud â’r terfysgoedd yn Llundain a fi oedd y person cyntaf i ddweud y newyddion torcalonnus wrth fam a dad bod eu plentyn wedi marw. Fel bod dynol, mae’n braf bod mewn sefyllfa lle gallwch chi helpu aelodau o’r cyhoedd a’ch cydweithwyr a allai fod yn wynebu eu heriau eu hunain hefyd. Yn yr un modd, mae cymorth ar gael o fewn y gwasanaeth hefyd i’ch helpu i ofalu am eich lles eich hun.

Sut mae eich ffydd yn eich helpu chi wrth blismona?

Mae fy ffydd yn help aruthrol yn fy mywyd yn gyffredinol, ond yn sicr yn fy mywyd plismona. Dyna'r lefelwr i mi. Pan fydd gen i ormod o beli yn yr awyr, neu pan fydd sefyllfa'n codi a fyddai wedi peri i mi brofi trafferthion o'r blaen, mae gallu tynnu ar fy ffydd yn codi'r baich.

Sut ydych chi'n ymarfer eich ffydd ochr yn ochr â gwaith?

Mae rhywfaint o hyblygrwydd bob amser mewn rotâu a sifftiau, ond gyda'r swydd hon mae'n rhaid i chi ddisgwyl y byddwch chi'n colli'r eglwys ar ddydd Sul weithiau. Fel Cristion, rwy’n cael fy ysgogi gan awydd i gyfrannu a gwneud rhywbeth da. Y ffordd rwyf i'n ei weld, mae mynd i'r eglwys yn wych ond felly hefyd yr hyn y galla i ei gyfrannu fel swyddog ar ddyletswydd.

Ydych chi'n aelod o Gymdeithas Gristnogol yr Heddlu? Os felly, sut mae wedi eich cefnogi yn eich gyrfa?

Roeddwn i'n arweinydd Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu yn fy llu, Dyfed-Powys, am bum mlynedd. Mae’n fforwm gwych i ddod ynghyd â swyddogion a staff heddlu Cristnogol eraill. Rydym yn annog ac yn arfogi ein gilydd i fynd allan yno a gwneud ein swyddi fel swyddogion heddlu ond hefyd fel pobl ffydd.

Fel rhywun sydd wedi dringo’r rhengoedd ym maes plismona, pa gyngor fyddech chi’n ei roi i swyddogion uchelgeisiol?

Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn mwynhau lle rydych chi. Ar fy ffordd i ddod yn Brif Arolygydd, fe wnes i bum mlynedd fel cwnstabl, pum mlynedd fel rhingyll a phum mlynedd fel arolygydd. Es i am y rheng nesaf pan oeddwn i'n teimlo'n barod, nid oherwydd bod gen i gynllun pum mlynedd neu i ennill mwy o arian. Hefyd, mae arbenigeddau eraill y gallwch chi symud ymlaen ynddyn nhw, fel triniwr cŵn neu dditectif, felly cofiwch edrych i'r chwith ac i'r dde.

Fel arfer rydych chi'n cynnal gwasanaeth carolau blynyddol yr heddlu. Pam fod y digwyddiad hwn yn bwysig i chi?

Mae’r gwasanaeth carolau yn gyfle gwych i fod gyda 130-140 o bobl mewn ystafell lle gallwn ni i gyd gael ychydig o hwyl, canu caneuon a rhannu ambell stori. Yn sicr nid yw ar gyfer Cristnogion yn unig, mae ar gyfer pobl o bob ffydd a dim ffydd. I rai pobl, dyma fydd eu hunig brofiad o’r eglwys am flwyddyn gyfan, ac rwy'n gwneud fy ngorau i’w wneud yn un cadarnhaol, deniadol a chadarnhaol. Eleni, mae'n debygol y byddwn ni'n gwneud rhywbeth ar-lein.

Sut brofiad yw gweithio dros y Nadolig a dathliadau Cristnogol eraill?

Dw i wedi gweithio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ychydig o weithiau ac mae dwy ochr i’r geiniog. Ar un ochr, rydych chi i ffwrdd oddi wrth eich teulu, ond ar yr ochr arall mae gennych y profiad anarferol ac unigryw breintiedig hwn a rennir gyda'ch cydweithwyr.

Pa gyngor sydd gennych chi i rywun o’r gymuned Gristnogol sy’n ystyried ymuno â’r heddlu?

Prin yw'r swyddi yn y byd lle rydych chi'n cael gofalu am eich cymuned. Mae gan bob un o'r bobl rydyn ni'n delio â nhw - dioddefwyr, troseddwyr, cydweithwyr, tystion - eu stori eu hunain ac maen nhw'n haeddu tosturi. Os ydych chi'n credu y bydd eich ffydd yn eich helpu i ddangos mwy o dosturi a mwy o garedigrwydd, yna mae hon yn bendant yn yrfa sy'n werth meddwl amdani.

Cynrychioli ein cymunedau

Rydym am i’n swyddogion heddlu gynrychioli’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu – sy’n golygu cael swyddogion heddlu o bob ffydd, ethnigrwydd, ystod oedran, rhywdd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu berthynas.

Dysgu rhagor am sut rydym yn creu gwasanaeth heddlu amrywiol a chynhwysol.