Cymdeithas brydeinig i ferched mewn plismona

British Association for Women in Policing
British Association for Women in Policing

Gan weithio’n angerddol tuag at gydraddoldeb rhywiol, Cymdeithas y Menywod mewn Plismona Prydain (BAWP) yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n croesawu plismyn o bob rheng a gradd. 

Cymorth a ddarparwn

Rydym yn cefnogi swyddogion presennol a swyddogion sydd wedi ymddeol, yn ogystal â darpar recriwtiaid, sy’n gweithio gyda gwasanaeth yr heddlu a chymdeithasau eraill yr heddlu i gynnig:

  • Cyfleoedd mentora a rhwydweithio
  • Cyrsiau datblygiad proffesiynol megis y cwrs Datblygu Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, sydd wedi’i dderbyn gan y Coleg Plismona a’i ymgorffori mewn cyrsiau prif ffrwd
  • Gofal bugeiliol a chymorth i swyddogion benywaidd

Isod mae (o'r chwith i'r dde) ein Trysorydd, Llywydd ac Is-lywydd BAWP, yn mynychu ein Cynhadledd 2021.

The treasurer, President and Vice President of BAWP at the BAWP Conference 2021.

Cwestiynau a allai fod gennych

Mae'n naturiol cael cwestiynau os ydych chi'n ystyried dod yn swyddog heddlu. Mae BAWP yma i gefnogi’r rolau amrywiol y mae menywod yn eu chwarae yn ein gwasanaeth heddlu ar draws y DU. Edrychwch drwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Pa hyfforddiant diogelwch fyddaf yn ei dderbyn?

Mae cadw ein swyddogion yn ddiogel yn bwysig iawn. Dyna pam y byddwch yn derbyn hyfforddiant diogelwch personol helaeth, gan roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i asesu sefyllfaoedd yn gyflym ac ymateb yn briodol ac yn ddiogel. Dysgu rhagoram hyfforddiant diogelwch personol.

A fydd hyblygrwydd gyda phatrymau sifftiau?

Mae gweithio sifftiau'n un o wirioneddau plismona. Mae’n debygol y bydd adegau pan fydd eich angen ar gyfer sifftiau gyda’r nos ac ar benwythnosau. Ond os ydych yn gyfrifol am ofalu am rywun ac y gallai sifft benodol fod yn anodd, gallwch siarad â'ch llu am opsiynau sifft amgen.

Pa mor anodd yw'r prawf ffitrwydd?

Mae'r prawf ffitrwydd wedi'i gynllunio i sicrhau bod gennych y lefel sylfaenol o ffitrwydd sydd ei angen i wneud eich swydd. Cyn belled â'ch bod yn hyfforddi ymlaen llaw, dylech allu ei basio. Beth am edrych ar yr awgrymiadau gwych hyn ar baratoi ar gyfer y prawf ffitrwydd?

A oes iwnifform arbennig ar gyfer swyddogion benywaidd?

Oes. Mae'n bwysig cael iwnifform sy'n ffitio'n iawn. Dyna pam mae gan wasanaeth yr heddlu iwnifformau arbenigol wedi’u ffitio ar gyfer swyddogion benywaidd.

Pa gymorth sydd ar gael os byddaf yn profi gwahaniaethu?

Nid yw gwasanaeth yr heddlu yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu ac mae wedi ymrwymo i gefnogi ei holl swyddogion. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hamddiffyn ac os yw unrhyw swyddog benywaidd yn profi gwahaniaethu, cysylltwch â ni – rydym yma i helpu.

Ysbrydoli menywod i ymuno â'r heddlu

Gwrandewch ar y Prif Uwch-arolygydd Lisa Hogan a Swyddog Myfyrwraig Georgina Giffney yn siarad am eu profiadau o fod yn yr heddlu ac annog menywod eraill i ymuno.

Gweld trawsgrifiad llawn y fideo

Prif Uwch-arolygydd, Lisa Hogan


Yr hyn a'm hysgogodd i wneud cais i fod yn swyddog heddlu yw'r gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud mewn cymunedau a phan fo pobl fwyaf anghenus neu pan fydd angen cymorth arnyn nhw, y galla i fod yn rhywun sy'n gwneud gwahaniaeth.

Fy enw i yw Lisa Hogan, rwy’n brif uwch-arolygydd yng Nghwnstabliaeth Cymbria, ac mae gen i gyfrifoldeb plismona dros Reoaeth Cumberland.
Y rhagdybiaethau oedd gen i am ymuno â’r gwasanaeth fel menyw oedd: ai fi fyddai’r unig fenyw a oedd yn ymuno â’r tîm?

Mae wedi bod yn wych i mi gael uwch fenyw ym maes plismona – felly'r ffigwr model rôl hwnnw sy’n deall yr heriau sydd gan fenywod yn y gwasanaeth, yn arbennig o ran cydbwysedd bywyd cartref a gwneud gwahaniaeth fel ei fod yn hyblyg, lle mae angen yr hyblygrwydd hwnnw arnoch, ond hefyd ar gyfer cyfrifoldebau gofalu.

Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer dilyniant yn y gwasanaeth, cyn belled â’ch bod yn gallu dangos eich bod yn gallu gwneud y rôl a’ch bod yn barod i symud ymlaen. 
Wel, o ran taith fy ngyrfa, dw i wedi cael cefnogaeth dda iawn. Mae cael uwch fenywod ym maes plismona yn gwneud gwahaniaeth sicr o ran fy natblygiad drwy'r rhengoedd.  Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i mi gan mai nhw yw’r modelau rôl hynny, y bobl hynny rwy’n dyheu am fod yn debyg iddynt. 

Mae fy nheulu a ffrindiau'n falch iawn fy mod i’n swyddog heddlu ac yn arbennig gan fy mod i wedi bod yn llwyddiannus fel menyw ym maes plismona. 

Christian, Lisa Son

Rwy’n falch iawn ei bod hi'n swyddog heddlu gan ei bod wedi cyflawni llawer ac mae hi’n cael ei gweld fel rhywun sydd yn help mawr yn yr heddlu ac yn annog menywod i ymuno. 

Georgina Giffney, Swyddog dan Hyfforddiant

Felly yn fy rôl bresennol yma fel swyddog heddlu dan hyfforddiant, byddai diwrnod arferol i mi yn dechrau trwy ddod i mewn i'r Ganolfan Dysgu a Datblygu (LDC) ym Mhenrith, cyfarfod â'm cyfoedion a gwneud sesiwn hunan-astudio. 

Rwy'n mwynhau'r ymdeimlad o berthyn o fewn gweithio ym maes plismona, felly mae pawb yn teimlo eu bod yn rhan o'ch teulu. Mae pawb yn gofalu am ei gilydd, ac mae pawb yn gwrando arnoch chi. 

Roedd yn fy mhoeni i o ran sut y byddai pobl yn fy nweld i wrth fod yn swyddog heddlu, o ran a oeddwn i'n ddigon cryf i fod yma ai peidio, a oedd gen i le i fod yma ai peidio. Nawr fy mod i yma dw i'n teimlo'n hyderus yn yr hyn dw i'n ei wneud, ac mae hynny wedi'i gadarnhau gan y dysgu dw i'n ei wneud bob dydd a chadw'r wybodaeth honno a rhoi hynny ar waith.

I unrhyw fenywod allan yno sy’n dymuno ymuno â’r heddlu, byddwn i'n cynnig mai chi ddylai fod y newid rydych am ei weld yn y byd.  Mae hynny'n rhywbeth a oedd yn atseinio gyda mi oherwydd rwy'n credu bod pob menyw yn fodel rôl iddi hi ei hun. Felly os ydych chi'n credu digon ynoch chi'ch hun y gallwch chi fod yn swyddog heddlu, mae'n golygu'n naturiol y bydd yr ymddygiad a'r agwedd honno'n gwella ac yn gadarnhaol a byddwch chi'n gallu ei wneud. 

Prif Uwch-arolygydd Lisa Hogan

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth fenywod sy’n dymuno ymuno â gwasanaeth yr heddlu neu’n meddwl amdano; gwnewch ef nawr. Does byth amser gwell i ymuno â phlismona.  Mae gennym lawer o bobl yma i'ch cefnogi, i'ch arwain.

Os galla i ei wneud, gallwch chi. Peidiwch ag oedi. Gwnewch ef nawr.  

I ddysgu rhagor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf, gallwch:

Follow us on: