Cymdeithas iddewig yr heddlu

Jewish Police Association logo
Jewish Police Association logo

Ein nod fel sefydliad yw hybu dealltwriaeth o’r ffydd Iddewig o fewn gwasanaeth yr heddlu a darparu rhwydwaith o gymorth a chyngor i bersonél Iddewig yn yr heddlu, gan wneud plismona yn yrfa o ddewis i’r gymuned Iddewig. Rydym hefyd yn gweithredu fel adnodd hanfodol ar gyfer lluoedd o amgylch y DU, gan ymgynghori ar faterion crefyddol, diwylliannol a chymunedol.

Cymorth a ddarparwn

Rydym bob amser yn hapus i gynnig cyngor a chymorth agored a gonest i ddarpar swyddogion a swyddogion presennol, gan eu cysylltu ag aelodau presennol y JPA fel y gallant rannu eu profiadau. Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at gyngor cyflogaeth arbenigol
  • Rhwydweithio a digwyddiadau cymdeithasol
  • Mentora un wrth un gyda swyddog mewn swydd drwy gydol y broses recriwtio
  • Cymorth ymarferol, megis helpu i drafod patrymau sifft, bwyd cosher a gofynion iwnifform
Male and female officers from the Jewish community talking in a synagogue.

Cwestiynau a allai fod gennych

Mae’n naturiol cael cwestiynau os ydych chi’n ystyried dod yn swyddog heddlu. Mae'r JPA yma i sicrhau y bydd eich ffydd bob amser yn cael ei barchu o fewn eich rôl fel swyddog heddlu. Cymerwch olwg trwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Beth alla i ei ddweud wrth fy ffrindiau a theulu os nad ydyn nhw’n siŵr a ddylwn i ymuno â’r heddlu?

Nid yn unig y mae ymuno â’r heddlu yn rhoi gyrfa amrywiol i chi a chyfleoedd gwych i symud ymlaen – mae hefyd yn rhoi cyfle i chi wasanaethu'ch cymuned a chefnogi’r rhai sy’n agored i niwed mewn cymdeithas. Byddwch chi'n rhan o dîm sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl – rhywbeth y gall eich ffrindiau a’ch teulu fod yn falch iawn ohono.

A fydd rhaid i mi weithio ar y Saboth neu ddyddiau sanctaidd megis Yom Kippur?

Mae amserlenni gweithio hyblyg lleol a chynllunio gwyliau blynyddol ymhell ymlaen llaw wedi galluogi heddluoedd i ddarparu ar gyfer anghenion y swyddogion Iddewig hynny nad ydynt yn gweithio ar Shabbat, trwy hyfforddiant cychwynnol a thrwy eu gyrfaoedd. Bydd y JPA yn hapus i weithio gyda chi cyn ymuno ac yn ystod eich gyrfa ar y mater hwn gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig ydyw – gallwn eich cyflwyno i swyddogion sydd â rhestrau dyletswyddau addas ar waith a, gyda chynllunio ymlaen llaw, gallwn eich cefnogi neu eich cynrychioli i gyflawni patrwm addas ar gyfer eich anghenion.

A fydd mynediad at fwyd cosher?

Bydd, gall swyddogion ddod â'u bwyd eu hunain i'r gwaith neu, gyda rhybudd, dylai'ch llu allu trefnu bod bwyd cosher ar gael. Mae gan rai ardaloedd drefniadau ar waith hefyd i ddarparu bwyd cosher ar fyr rybudd pan fo angen.

Alla i wisgo kippa?

Gallwch, mae’n rhan gydnabyddedig o iwnifform yr heddlu i’r rhai sy’n ei gwisgo am resymau crefyddol.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn profi gwrth-Semitiaeth yn fy rôl?

Nid yw gwasanaeth yr heddlu yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu ac mae wedi ymrwymo i gefnogi ei holl swyddogion. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hamddiffyn. Os yw unrhyw swyddog Iddewig yn profi gwahaniaethu, cysylltwch â ni – rydym yma i helpu a gallwn ddarparu cyngor arbenigol, gan eich cefnogi chi a’ch llu i fynd i’r afael â’r hyn sydd wedi digwydd.

Cadw mewn cysylltiad

I ddysgu rhagor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf, gallwch:

  • Fynd i'n gwefan
  • Ffonio: 07770 492 782
  • E-bostio: info@jewishpoliceassociation.org.uk

Follow us on:

Camau cadarnhaol

Mae nifer o heddluoedd hefyd yn cynnig mentrau cadarnhaol (fel sesiynau ymgysylltu ar-lein neu fentora) yn arbennig er mwyn cefnogi pobl o grwpiau tan-gynrychioledig i ymgeisio. Felly mae’n werth cymryd golwg ar wefan yr heddlu y bwriadwch ymuno a hi, i weld pa gynlluniau a mentrau gweithredu cadarnhaol maen nhw’n eu rhedeg cyn i chi ymgeisio.

Barod i wneud cais?

Mae lluoedd ledled Cymru a Lloegr yn recriwtio ar hyn o bryd.

Gweld pa luoedd sy'n recriwtio