Hyfforddiant a dilyniant

Plain clothes officer at work

Trwy gydol eich gyrfa gyda'r heddlu, byddwch yn derbyn hyfforddiant, cymorth ac arweiniad parhaus i sicrhau eich bod yn gwbl barod i wneud eich swydd yn ddiogel ac yn hyderus. Ac er bod mwyafrif helaeth y recriwtiaid newydd yn dechrau trwy wneud gwaith rheng flaen yr heddlu, mae'r cyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa'n enfawr.

"Os ydych chi'n ei gofleidio, rydych chi'n mynd i gael gyrfa werth chweil"

Gwrandewch ar DI Palmer, un o sêr ein cyfres Tu Ôl i'r Bathodyn, yn siarad am y gefnogaeth a roddwyd iddo i'w helpu i symud ymlaen trwy gydol ei 16 mlynedd yn yr heddlu.

Gweld trawsgrifiad llawn y fideo

00:04 --> 00:06
Pan ydw i'n meddwl yn ôl dros un mlynedd ar bymtheg,

00:06 --> 00:09
Yn bendant allai ddim dychmygu'r un diwrnod yn digwydd ddwywaith.

00:10 --> 00:11
Dyna un o'r pethau dw i'n ei garu am y swydd.

00:12 --> 00:13
Mae'n wahanol, hyd yn oed nawr.

00:14 --> 00:16
Mae llawer iawn o rolau yng Ngwasanaeth yr Heddlu.

00:17 --> 00:22
Mae gennych chi ymchwilio, CID, arfau tanio, mae gennych chi draffig,

00:22 --> 00:27
cŵn, timau chwilio, llawer iawn o rolau sydd ar gael.

00:28 --> 00:31
Rwy’n teimlo’n ffodus fy mod i bob amser wedi cael fy nghefnogi

00:32 --> 00:34
gan fy rheolwr llinell cyntaf a’r ail reolwr llinell pan oeddwn i eisiau symud ymlaen,

00:35 --> 00:39
i ddatblygu, i wneud rôl wahanol ar ôl i mi gychwyn ar y llwybr i ddyrchafiad.

00:41 --> 00:43
Mae cynllun llwybr carlam

00:43 --> 00:45
i bobl sydd eisiau symud ymlaen yn gyflym,

00:45 --> 00:47
felly gallwch chi symud o PC i arolygydd.

00:47 --> 00:49
Rydych chi'n mynd i gael profiadau anhygoel,

00:50 --> 00:51
yn ôl pob tebyg yn mynd i wneud rhai 

00:52 --> 00:52
ffrindiau gydol oes.

00:53 --> 00:54
Ac os ydych chi'n ei gofleidio,

00:54 --> 00:55
rydych chi'n mynd i gael gyrfa werth chweil. 

Ffrâm y Diwedd

BYDDWCH YN UN O'R 20,000 O SWYDDOGION NEWYDD

BYDDWCH YN RHAN O'R TÎM

BYDDWCH Y GWAHANIAETH

CHWILIO YMUNO Â'R HEDDLU
 

Female officer smiling.

Hyfforddiant

Dysgu rhagor am yr hyfforddiant o safon fyd-eang y byddwch yn ei dderbyn, yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gwaith.

Police officer working at desk.

Dilyniant gyrfa

Symud i fyny drwy'r rhengoedd mewn iwnifform neu ymuno ag uned arbenigol - mae llawer o ffyrdd y gallai eich gyrfa fynd â chi.

27

o 43

Llu heddlu yn recriwtio ar hyn o bryd

Ble gallaf i weithio?