Cwnstabliaid Arbennig
Mae cwnstabliaid arbennig, neu 'Specials' fel y'u gelwir yn fwy cyffredin, yn swyddogion heddlu gwirfoddol sydd â chyfle unigryw i wneud rhywbeth dros eu cymuned.
Maen nhw'n dal yr un pwerau a chyfrifoldebau â swyddogion heddlu 'rheolaidd' ac maen nhw ar y rheng flaen, yn gweithio ochr yn ochr â'u cydweithwyr rheolaidd i atal a chanfod troseddau, ac amddiffyn y cyhoedd.
Mae swyddogion arbennig yn rhan hynod werthfawr o'r gweithlu plismona ac yn aml maent yn byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan eu rhoi mewn sefyllfa unigryw i ddeall materion lleol ac adeiladu ymddiriedaeth.
Fel cwnstabl arbennig byddwch yn cael hyfforddiant llawn, lifrai, a threuliau am wariant o'ch poced eich hun – fel treuliau prydau bwyd a milltiroedd – a bydd gennych holl bwerau, awdurdod a chyfrifoldebau swyddogion rheolaidd.
I wneud cais am swydd yr heddlu arbennig, yr isafswm oedran yw 17 oed, ond rhaid i chi fod yn 18 oed i gael cynnig y rôl.
I fod yn gymwys i gael eich penodi, rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu'n breswylydd yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiadau (e.e. o dan Gynllun Preswylio'r UE neu drwy reolau mewnfudo wedi Brexit y Deyrnas Unedig sy'n seiliedig ar bwyntiau).
Os nad ydych chi'n ddinesydd Prydeinig, rhaid i chi ddarparu prawf yn ystod y broses recriwtio nad oes unrhyw gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig a bod gennych chi'r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae gwybodaeth am reolau mewnfudo'r Deyrnas Unedig ar gael yma – Fisâu a Mewnfudo'r DU - GOV.UK
Byddwch yn dechrau eich taith gyda chwrs hyfforddi lle byddwch yn dysgu hanfodion plismona. Mae cwnstabliaid arbennig yn tyngu llw yn swyddogol gan ynad heddwch yn yr un modd â swyddogion heddlu rheolaidd, ac yna byddant yn cael cerdyn gwarant.
Ar ôl hynny byddwch yn cofrestru i sifftiau ac yn gweithio o leiaf 16 awr y mis ochr yn ochr â swyddogion rheolaidd a phrofiadol i ddechrau gweithio gyda'r gymuned ac ennill sgiliau plismona ymarferol hanfodol.
Ar ôl cymhwyso ar gyfer patrôl annibynnol, mae cyfleoedd i arbenigo mewn adrannau eraill, fel plismona ffyrdd, ymchwiliadau a phlismona cymdogaeth.
Mae swyddogion arbennig hefyd yn gweithio mewn gemau pêl-droed a digwyddiadau cyhoeddus eraill, fel galâu a chyngherddau, ac yn cefnogi swyddogion rheolaidd mewn argyfwng.
Pam ymuno â'r Heddlu Arbennig?
Mae pobl yn ymuno â'r heddlu arbennig am lawer o resymau gwahanol. Mae rhai eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, mae eraill eisiau ehangu eu sgiliau a'u profiadau bywyd, ac mae rhai â diddordeb mewn ymuno â'r heddlu rheolaidd ac eisiau gwybod mwy am yr hyn y mae'r heddlu'n ei wneud.
Mae'r heddlu arbennig yn cynnig y cyfle i brofi hyn i gyd gyda'r hyblygrwydd i ffitio o amgylch eich bywyd personol a phroffesiynol.
Rhoi yn ôl i'ch cymuned
- Cefnogi dioddefwyr a thystion drwy ddarparu ymateb cychwynnol i'w galwad am gymorth
- Cynnal patrolau gwelededd uchel i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwneud arestiadau i gael gwared ar droseddwyr a diogelu'r cyhoedd
- Casglu gwybodaeth am faterion sy'n effeithio ar gymunedau, fel delio cyffuriau
- Addysgu busnesau a'r gymuned ar sut i leihau ac atal troseddu
- Cynorthwyo yn lleoliad gwrthdrawiadau, tanau a digwyddiadau eraill
- Gorfodi mentrau diogelwch ffyrdd
- Darparu cymorth i'r heddlu rheolaidd mewn digwyddiadau mawr
Datblygu sgiliau
- Datblygwch eich sgiliau cyfathrebu drwy ddelio ag amgylchiadau a phobl gwahanol, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd
- Datblygwch eich gallu i ddadansoddi gwybodaeth yn gyflym a meddwl yn feirniadol i ddatrys problemau
- Deall y gyfraith er mwyn gallu ei chymhwyso'n ddiogel ac yn gyfreithlon
- Datblygu sgiliau cymorth cyntaf a diogelwch personol sy'n achub bywydau
- Datblygu sgiliau gweithio mewn tîm
Chwarae rhan hanfodol mewn plismona
- Mae gan gwnstabliaid arbennig yr un pwerau â phob swyddog heddlu arall
- Mae cwnstabliaid arbennig yn gwisgo'r un lifrai ac yn cario'r un offer amddiffynnol personol â swyddogion heddlu rheolaidd.
- Mae cwnstabliaid arbennig yn darparu cefnogaeth werthfawr iawn i swyddogion rheolaidd, gan fynychu digwyddiadau gyda'i gilydd yn aml.
- Bydd cwnstabliaid arbennig yn gweithio tuag at allu cyflawni dyletswyddau'n annibynnol, ond byddant bob amser yn gallu cael mynediad at gefnogaeth a goruchwyliaeth.
- Mae cwnstabliaid arbennig yn gyswllt pwysig â chymunedau
- Gall cwnstabliaid arbennig gael mynediad at rolau arbenigol o fewn plismona, megis plismona ffyrdd, ymchwiliadau a gorfodi trwyddedau (mae cyfleoedd yn amrywio yn ôl yr heddlu)