Beth mae'r asesiad ar-lein yn ei gynnwys?
Fel arfer mae’r cam asesiad ar-lein yn cynnwys cyfres o brofion, sydd wedi eu cynllunio i gael dealltwriaeth o sut yr ydych yn mynd ati i weithio ar dasgau a rhyngweithio gydag eraill.
Efallai hefyd y byddwch yn cael nifer o sefyllfaoedd nodweddiadol y gallwch eu hwynebu fel swyddog heddlu fel bod y llu yr ydych wedi ei ddewis yn gweld sut y byddech yn ymateb yn y sefyllfaoedd hynny ac a oes gennych y sgiliau rhesymu ar lafar sydd eu hangen i fod yn swyddog da.