Mynediad Traddodiadol

Ar gyfer rhai lluoedd, gallwch barhau i wneud cais trwy'r llwybr mynediad traddodiadol, gan ddilyn Rhaglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu (IPLDP) tan 31 Mawrth 2024. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi dwy flynedd. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill Cymhwyster Lefel 3 mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol.

Meini Prawf Mynediad

Bydd angen lefel A (neu gyfwerth) arnoch mewn o leiaf dau bwnc NEU byddwch yn gallu dangos profiad neu hyfforddiant perthnasol y gellir ei ystyried yn gyfwerth â chymhwyster Lefel 3 i wneud cais drwy'r llwybr mynediad hwn.

Bydd profiad a hyfforddiant perthnasol yn cael eu hystyried fesul achos - siaradwch â'ch llu dewisol am y profiad a'r hyfforddiant sydd gennych. Dylent allu cadarnhau a yw'n cyfateb i gymhwyster Lefel 3.  

Mae'r llwybr hwn yn dal i gael ei gynnig gan rai heddluoedd nes iddo ddod i ben yn 2024 gweler pa heddluoedd sy'n cynnig y Llwybr mynediad traddodiadol.

25

o 43

Llu heddlu yn recriwtio ar hyn o bryd

Ble gallaf i weithio?