Swyddog heddlu benywaidd yn cerdded tuag at y camera yn gwisgo iwnifform heddlu a hijab
Pan wnes i benderfynu ymuno â’r heddlu
Swyddog heddlu benywaidd yn sefyll o flaen car heddlu ac yn siarad at y camera
Roeddwn yn gwybod fy mod mewn lleiafrif yn y sefydliad ac na fyddwn yn gweld llawer o rai tebyg i mi, rwy’n meddwl bod hynny’n codi ychydig o ofn arnaf a hefyd edrych yn weladwy Fwslimaidd.
Swyddog heddlu benywaidd yn eistedd mewn car heddlu yn gyrru i lawr y stryd
Rwy’n meddwl bod hynny’n gam mawr i mi hefyd. Wrth ddod i’r gweithlu, dwi’n swyddog a dyna fo,
Swyddog heddlu benywaidd yn sefyll o flaen car heddlu ac yn siarad at y camera
Nid wyf wedi teimlo yn wahanol na phoeni sut y byddwn yn ffitio i mewn, os rhywbeth rwy’n meddwl ei fod wedi rhoi hwb i’m hyder, oherwydd y mae’n beth mawr camu o’ch tŷ yn gwisgo hijab ac edrych yn wahanol
Swyddog heddlu benywaidd a swyddog heddlu gwrywaidd yn cerdded i lawr y stryd yn siarad, arwydd Swyddfa Heddlu Banbury yn weladwy yn y cefndir
i bron bawb a gwneud hynny mewn sefydliad fel hyn lle’r ydych yn cyfarfod pobl wahanol bob dydd, gan ryngweithio gyda gwahanol bobl.
Swyddog heddlu benywaidd yn sefyll o flaen car heddlu ac yn siarad at y camera
Mae wedi bod yn dipyn o hwb i’r hyder ond rwy’n meddwl fy mod yn falch hefyd oherwydd rwy’n gallu dangos mod i’n dal yn fi, rwy’n dal i arfer fy nghrefydd, rwy’n dal yn Fwslimaidd.
Swyddog heddlu benywaidd yn eistedd mewn car heddlu yn chwerthin gyda chydweithiwr
Rwy’n gallu parhau fy niwylliant a’m crefydd a bod yn yr heddlu, felly mae hynny wedi bod yn rhywbeth eithaf positif i mi.
Swyddogion heddlu benywaidd a gwrywaidd yn gwenu ar y camera
Logo Heddlu: Gwnewch eich gwahaniaeth