Mae dod yn swyddog heddlu yn rhoi grym i chi wneud gwahaniaeth yn y gymuned. Byddwch yn helpu i leihau troseddu ac yn cynnig presenoldeb sy’n rhoi sicrwydd, gan wneud bywyd yn fwy diogel a hapusach i’r bobl y byddwch yn eu gwasanaethu.
Pan fyddwch yn ymuno â’r heddlu, byddwch yn datblygu yn bersonol ac yn broffesiynol. Trwy’r hyfforddiant y byddwch yn ei dderbyn, byddwch yn cael y sgiliau bywyd fydd yn ddefnyddiol iawn i chi wrth i’ch gyrfa ddatblygu.