Sy'n digwydd yn y ganolfan asesu?

Y diweddaraf am COVID-19: mae canolfannau asesu wyneb yn wyneb wedi cael eu gohirio oherwydd COVID19. Gwnaed cynlluniau ar gyfer canolfannau asesu ar-lein yn eu lle, daw rhagor o fanylion am hyn.

Mae canolfannau asesu yn amrywio o lu i lu, ond yn nodweddiadol mae’r cam hwn yn y broses ymgeisio yn cymryd tua hanner diwrnod a byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Cyfweliad wedi ei strwythuro ar sail medrusrwydd gyda phedwar cwestiwn (20 munud)
  • Prawf gallu rhifyddol (23 munud)
  • Prawf gallu llafar (30 munud)
  • Dau ymarfer ysgrifenedig (30 munud yr un)
  • Pedwar ymarfer rhyngweithiol (10 munud yr un)

Bydd angen i chi ddangos bod gennych sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig da, a fydd yn cynnwys naill ai:

  • Sefyll dau ymarfer ysgrifenedig cyn neu ar ddiwrnod y Ganolfan Asesu
    NEU
  • Gofalu bod gennych gymhwyster mewn ysgrifennu Saesneg sy’n cyfateb i Lefel Sgiliau Gweithredol 2 Saesneg.

Yn ôl i: Sut i ymgeisio