Gwobrau Plismona
Mae dod yn swyddog heddlu yn rhoi'r pŵer i chi wneud gwahaniaeth yn y gymuned. Byddwch yn helpu lleihau troseddu ac yn darparu presenoldeb cysurlon, gan wneud bywyd yn fwy diogel ac yn hapusach i'r bobl rydych chi'n eu gwasanaethu.
Pan ymunwch â'r heddlu, byddwch yn datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol. Drwy'r hyfforddiant a gewch, byddwch yn datblygu sgiliau ar gyfer bywyd a fydd o fudd i chi wrth i'ch gyrfa fynd rhagddi.
Manteision bod yn swyddog heddlu
Mae Beth wrth ei bodd â'r ffaith bod pob diwrnod yn wahanol:
Gweld trawsgrifiad llawn y fideo
Swyddog benywaidd yn edrych i ffwrdd o'r camera yn y gampfa.
Swyddogion benywaidd a gwrywaidd gyda hyfforddwr ffitrwydd. Swyddog benywaidd yn y gampfa'n siarad â'r camera.
00:03: - 00:11 O ddydd i ddydd rwy'n dod i mewn ar sifft ac rydym yn briffio gyda'r tîm i gyd ac yn siarad am flaenoriaethau, pethau sy'n digwydd yn yr ardal, unrhyw beth sydd angen ei dargedu.
Swyddogion benywaidd a gwrywaidd yn y gampfa, y ddau swyddog yn gwneud prawf blîp.
00:12: - 00:18 Dw i hefyd yn cael tasgau wedi'u dyrannu i mi er mwyn ymchwilio i droseddu, ac yna'n ymateb i'r logiau 999 a'r logiau101 sy'n dod i mewn.
Y ddau swyddog yn gwneud prawf blîp, amryw o olygon o swyddogion yn y gampfa yn gwneud y prawf blîp.
00:21: - 00:31 Dyma’r swydd orau i mi ei chael erioed yn fy mywyd. Mae pob diwrnod yn wahanol, dydych chi wir ddim yn gwybod beth rydych chi'n mynd i'w gael o ddydd i ddydd, a dw i'n hoffi'r elfen heriol ohono ond hefyd y rhan amrywiol ohono hefyd.
Yr Heddlu: Logo Gwnewch Eich Gwahaniaeth
Ac ochr yn ochr â'r amrywiaeth y mae pob dydd yn ei gynnig, mae yna ystod gynhwysfawr o fanteision:
- Cyflog cystadleuol - o'r cychwyn cyntaf, rydych chi'n ennill wrth ddysgu. Y cyflog cychwynnol sylfaenol i swyddogion yw £31,164 ond bydd hyn yn dibynnu ar leoliad. Bydd cyflog swyddogion heddlu yn codi'n raddol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, ac yn gysylltiedig ag amser yn y rôl, rheng a phrofiad.
- Bydd cwnstabl fel arfer yn cyrraedd brig ei raddfa gyflog o fewn 7 mlynedd a bydd yn derbyn cyflog o £50,256.
- Pensiwn buddion diffiniedig hael, gan gynnwys yr opsiwn i ymddeol yn 60 oed.
- Gofal iechyd preifat â gostyngiad mawr drwy Gynllun gofal iechyd dewisol yr Heddlu Cydfuddiannol.
- Gwyliau blynyddol - yn amrywio o 22 diwrnod (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus) pan fyddwch chi'n dechrau, gan gynyddu i 30 diwrnod ar gyfer staff sydd wedi gwasanaethu ers amser maith.
- Absenoldeb mamolaeth a thadolaeth hael.
- Ystod eang o ostyngiadau a gynigir gan fanwerthwyr, bwytai a busnesau eraill i weithwyr yr heddlu. Dyma un enghraifft yn unig.
Cyflwyno Cyfamod yr Heddlu

Mae Cyfamod yr Heddlu yn addewid i gydnabod yr aberthau a wneir gan y rhai sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio yn ein lluoedd heddlu yn y gorffennol. Y nod yw gwneud mwy fel cenedl i helpu'r rhai sy'n gwasanaethu'r wlad hon a chydnabod dewrder, ymrwymiad ac aberthau swyddogion. Y gobaith yw y bydd y Cyfamod yn sicrhau nad yw aelodau neu gyn-aelodau o weithlu'r heddlu dan anfantais o ganlyniad i weithio ym maes plismona.
Dysgwch fwy am Gyfamod yr Heddlu a'r camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi'r gymuned blismona ehangach a'u teuluoedd.
Cynrychioli'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu
Pan ymunwch â'r heddlu, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ddeall anghenion eich cymuned. Dyna pam rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant a phrofiad.
Pwy all ymuno?
Mae yna amrywiol ffyrdd o ymuno fel swyddog heddlu, yn dibynnu ar eich gwaith, eich bywyd a'ch profiad addysgol.
LLWYBRAU I BLISMONA